Dyna ni am heno!wedi ei gyhoeddi 19:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018
BBC Cymru Fyw
Pawb i weld yn gytûn fod Denmarc yn haeddu ennill y gêm heno yn Aarhus.
Nifer o chwaraewyr Cymru heb fod ar eu gorau, ond mwy o gyfleoedd i'r chwaraewyr ifanc ymddangos ar y lefel rhyngwladol yn erbyn un o dimau gorau'r byd.
Diolch am ddilyn y llif byw, er gwaethaf y canlyniad, roedd hi'n braf iawn cael eich cwmni.
Nos da . . .
