1. Dyna ni am heno!wedi ei gyhoeddi 19:13 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    BBC Cymru Fyw

    Pawb i weld yn gytûn fod Denmarc yn haeddu ennill y gêm heno yn Aarhus.

    Nifer o chwaraewyr Cymru heb fod ar eu gorau, ond mwy o gyfleoedd i'r chwaraewyr ifanc ymddangos ar y lefel rhyngwladol yn erbyn un o dimau gorau'r byd.

    Diolch am ddilyn y llif byw, er gwaethaf y canlyniad, roedd hi'n braf iawn cael eich cwmni.

    Nos da . . .

    CymruFfynhonnell y llun, PA
  2. Sylwadau Balewedi ei gyhoeddi 19:05 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Cynghrair y Cenhedloedd

    Dyma oedd gan Gareth Bale i'w ddweud ar ddiwedd y gêm:

    "Mae hi'n noson falch iawn i mi o ran bod yn gapten ond rydym yn siomedig iawn gyda'r canlyniad.

    "Mae Denmarc yn dîm da ac mae 'na elfennau positif i'w cymryd o'r gêm o'n safbwynt ni.

    "Mi wneith hi gymryd amser i ni ddysgu'r syniadau newydd.

    "Mae 'na nifer o chwaraewyr newydd yn y garfan ac mi neith hi gymryd amser."

    BaleFfynhonnell y llun, Reuters
  3. 'Chwaraewyr yn siomedig'wedi ei gyhoeddi 19:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Sgorio, S4C

    "Mi fydd y chwaraewyr yn siomedig yn yr ystafell newid," meddai Owain Tudur Jones.

    "I gael 12 cyfle oddi cartref yn erbyn Denmarc, mae rhaid creu mwy a pheidio bod mor amddiffynnol," meddi.

  4. 'Dim digon da'wedi ei gyhoeddi 18:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru

    "Doedd Allen ddim digon da, Doedd Ramsey ddim digon da, doedd Bale ddim mor effeithiol ag arfer.

    Noson siomedig i Gymru," meddai Iwan Roberts.

  5. 'Noson Siomedig'wedi ei gyhoeddi 18:56 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Sgôr Terfynol: Denmarc 2-0 Cymruwedi ei gyhoeddi 18:55 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Chwiban Olaf

    Dyna ni mae'r gêm ar ben a dwy gôl Christian Eriksen yn anfon Denmarc i frig y grŵp.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Sgôr têgwedi ei gyhoeddi 18:52 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Malcolm Allen
    Cyn-ymosodwr Cymru

    "Er i Gymru gael digon o'r meddiant mae'r sgôr yn dêg.

    "Mae Denmarc yn haeddu ennill," meddai Malcolm Allen.

  8. Melyn i Allenwedi ei gyhoeddi 18:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Cerdyn Melyn

    Joe Allen yn fyrbwyll ac yn derbyn cerdyn melyn am dacl hwyr wedi 94 munud.

  9. Gwers i Giggs!wedi ei gyhoeddi 18:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Melyn i Schmeichelwedi ei gyhoeddi 18:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Cerdyn Melyn

    Cerdyn melyn i Kasper Schmeichel yn y gôl i Denmarc am wastraffu amser.

    pum munud o amser ychwanegol yn weddill.

    Schmeichel
  11. Cofio hwn gefnogwyr Caerdydd?wedi ei gyhoeddi 18:48 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Eilyddio

    Denmarc 2-0 Cymru

    Mae cyn chwaraewr Caerdydd, Andreas Cornelius wedi dod ymlaen i Denmarc yn lle Yussuf Poulsen.

    Fe dalodd Caerdydd £8m amdano yn 2013 cyn iddo adael y clwb ar ol chwarae iddyn nhw wyth gwaith.

  12. Map o Balewedi ei gyhoeddi 18:45 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Cynghrair y Cenhedloedd

    Dim ond tair gwaith mae Gareth Bale wedi cyffwrdd y bêl yng nghwrt cosbi Denmarc heddiw.

    Dyma fap yn dangos yn union ble mae Bale wedi cyffwrdd y bêl hyd yma.

    Map
  13. Woodburn ymlaenwedi ei gyhoeddi 18:37 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Eilyddio

    Denmarc 2-0 Cymru

    Ar ôl cael ei adael allan o'r garfan yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon nos Iau, Mae Ben Woodburn newydd gamu ymlaen i'r maes yn lle Tom Lawrence.

  14. Methu gwylio!!wedi ei gyhoeddi 18:35 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Melyn i Davieswedi ei gyhoeddi 18:34 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Cerdyn Melyn

    Ben Davies yw'r chwaraewr cyntaf i weld cerdyn melyn yn y gêm ar ôl tacl hwyr.

  16. Ramsey ar goll!wedi ei gyhoeddi 18:33 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Dylan Griffiths
    Chwaraeon BBC Cymru

    "Mae angen i Aaron Ramsey gael mwy o ddylanwad ar y gêm" yn ôl Dylan Griffiths.

    "Mae wedi bod yn dawel hyd yma," meddai.

  17. Roberts yn lle Ampaduwedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Eilyddio

    Denmarc 2-0 Cymru

    Ail eilydd Cymru o'r noson:

    Ethan Ampadu sy'n gadael y maes a'r ymosodwr Tyler Roberts sy'n camu ymlaen.

  18. Allen yn agos!wedi ei gyhoeddi 18:28 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Cynghrair y Cenhedloedd

    Croesiad i'r cwrt cosbi gan Brooks ac ergyd Joe Allen o 10 llath yn hedfan dros y trawst.

  19. Gôl i Denmarcwedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Gôl!

    Denmarc 2-0 Cymru

    Pwy arall ond Christian Eriksen i ddyblu mantais y tîm cartref.

    Ergyd bwerus o'r smotyn lawr canol y gôl.

  20. Cic o'r smotyn i Denmarcwedi ei gyhoeddi 18:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Medi 2018

    Cic o'r smotyn

    Ethan Ampadu yn llawio yn y cwrt cosbi a'r dyfarnwr yn pwyntio i'r smotyn,

    Cyle i Denmarc . . .