Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, ar y diwrnod ble daeth cadarnhad y bydd Cymru'n symud i lefel rhybudd sero o 06:00 ddydd Sadwrn.
Fe fydd mwyafrif cyfyngiadau coronafeirws y wlad yn cael eu llacio yfory felly.
Ar lefel rhybudd sero bydd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd â phobl eraill yn cael eu codi, a bydd modd i bob busnes ailagor.
Ond rhai mesurau yn parhau - fel y gofyniad i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Diolch am ddilyn ein llif byw, a hwyl am y tro!