Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford fu'n cynnal y gynhadledd

  • Mwyafrif cyfyngiadau coronafeirws Cymru'n cael eu llacio ddydd Sadwrn

  • Ar lefel rhybudd 0, bydd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd â phobl eraill yn cael eu codi a bydd modd i bob busnes ailagor

  • Ond rhai mesurau yn parhau - fel gofyniad i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, ar y diwrnod ble daeth cadarnhad y bydd Cymru'n symud i lefel rhybudd sero o 06:00 ddydd Sadwrn.

    Fe fydd mwyafrif cyfyngiadau coronafeirws y wlad yn cael eu llacio yfory felly.

    Ar lefel rhybudd sero bydd yr holl gyfyngiadau ar gwrdd â phobl eraill yn cael eu codi, a bydd modd i bob busnes ailagor.

    Ond rhai mesurau yn parhau - fel y gofyniad i wisgo mygydau mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    Diolch am ddilyn ein llif byw, a hwyl am y tro!

  2. 'Cymru yn barod i fwrw ati gyda thrydydd dos brechlyn'wedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mae'n bosib y bydd trydydd dos brechlyn yn dechrau cael ei roi i bobl yng Nghymru fis yma os ddaw cyngor yn fuan gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) i wneud hynny.

    Ond dywedodd y Prif Weinidog mai fis nesaf fydd hynny'n dechrau os na fydd y JCVI yn rhoi'r cyngor tan ddiwedd Awst.

    Ychwanegodd bod pob bwrdd iechyd wedi datblygu cynlluniau i roi trydydd brechlyn i bobl.

    "Unwaith y byddwn ni yn cael y cyngor, mae popeth mewn lle yng Nghymru i fwrw ati," meddai Mark Drakeford.

  3. Cyngor teithio Llywodraeth y DU yn 'draed moch'wedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Yn ôl Mr Drakeford roedd y ffordd yr aeth Llywodraeth y DU ati i addasu cyngor i deithwyr rhyngwladol yn "draed moch".

    Roedd "cael ateb call i gwestiwn call" ynghylch sut y byddai'r system yn gweithio yn "eithaf anodd", meddai, a'r awgrymiadau diweddaraf yn "newid yn ddyddiol".

    Ychwanegodd bod y system goleuadau traffig, sy'n dynodi pa wledydd sy'n destun rheolau cwarantîn wrth i bobl ddychwelyd i'r DU, "ddim yn hawdd i'w deall".

    Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i annog pobl i osgoi teithio dramor oni bai bod yna reswm hanfodol, ond yn dweud nad oes modd datblygu ei pholisi ei hun a bod rhaid cadw felly at yr un rheolau â Lloegr.

    Pobl ar wyliau yn FfraincFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 'Dim pwysau' gan wledydd eraill y DU i laciowedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford na fu dan bwysau gan wledydd eraill y DU cyn penderfynu symud Cymru i lefel rhybudd sero.

    Ers Nadolig, meddai, bu "system well" o ran cyfarfodydd wythnosol rhwng llywodraethau gwahanol y DU.

    "Rydym yn defnyddio'r sesiynau hynny i rannu gwybodaeth a gweld ble gallwn ni helpu ein gilydd gyda'r pethau rydym wedi rhoi cynnig arni mewn gwahanol lefydd," dywedodd.

    "Ond dyw e erioed wedi bod yn fforwm ble rydym yn ceisio perswadio ein gilydd i wneud beth sy'n gywir ar gyfer gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig."

  5. Galw am wella systemau gwyliadwriaethwedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Plaid Cymru

    Dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod angen i'r llywodraeth wella eu systemau rhybudd cynnar er mwyn rhagweld yn well unrhyw broblemau yn y dyfodol.

    "Dyma ble oedden ni eisiau bod. Roedden ni eisiau symud ymlaen cymaint â phosib - yn wyliadwrus," meddai.

    "Ond nawr wrth i'r rhyddid ddod yn ôl, yr hyn rydyn ni eisiau ei weld ydy tystiolaeth bod y llywodraeth yn gwella ei systemau rhybudd cynnar hyd yn oed yn fwy, a'u bod hyd yn oed yn fwy gwyliadwrus am unrhyw broblem arall a ddaw i'n cyfeiriad."

  6. 'Angen i bobl gymryd cyfrifoldeb'wedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei bod yn "newyddion da ein bod yn gweld diwedd ar y cyfyngiadau".

    "Yr hyn sy'n bwysig wrth i ni symud ymlaen ydy bod pobl yn cymryd cyfrifoldeb," meddai.

    "Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd ambell i sioc i'r system, a bydd yn rhaid i ni ddysgu byw gyda Covid.

    "Ni allwn ni fforddio mynd yn ôl i'r cyfnodau clo sydd wedi difetha ein bywydau dros y 15,16 mis diwethaf."

    Galwodd hefyd unwaith eto am ymchwiliad penodol i Gymru am yr ymateb i'r pandemig.

  7. 'Osgoi nifer fawr o bobl wrth y bar'wedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Mewn ymateb i gwestiwn, pwysleisiodd Mr Drakeford nad yw pellter cymdeithasol "yn diflannu yng Nghymru".

    O ddydd Sadwrn, meddai, fe fydd y mesur yn "rhan o restr ehangach o bethau" gyda "mwy o hyblygrwydd i fusnesau roi'r gyfres gywir o fesurau at ei gilydd" er mwyn gwarchod staff a chwsmeriaid.

    Pan ofynnwyd a oedd yn rhagweld na allai tai tafarn fod yn llawn, atebodd Mr Drakeford na fyddai'n dweud hynny, a'i fod yn disgwyl i'r sector lletygarwch weithredu mesurau angenrheidiol.

    Mae'r mesurau rheiny, meddai, yn cynnwys awyru tafarndai'r ddigonol ac osgoi cael "nifer fawr o bobl wrth y bar".

    Pobl mewn tafarndyFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. 'Nid troednodyn yn ymchwiliad y DU fydd Cymru'wedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog bod "dim awgrym" mai "troednodyn" fydd Cymru yn ymchwiliad cyhoeddus y DU i'r ymateb i'r pandemig.

    Mae Mark Drakeford wedi wfftio galwadau am ymchwiliad penodol i Gymru sawl gwaith, ac yn hytrach bydd Cymru yn rhan o'r ymchwiliad ledled y DU.

    Dywedodd y bydd "ffocws penodol ar yr hyn wnaethon ni yng Nghymru" fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw.

    "Rwy'n disgwyl y bydd hwnnw'n ymchwiliad trwyadl ac yn cynnig atebion i'r cwestiynau sydd gan deuluoedd yng Nghymru am y ffordd y cafodd penderfyniadau eu gwneud yn ystod y pandemig," meddai.

  9. Ymgyrch i gyrraedd mwy o bobl ifanc am frechiadwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru yn gwneud brechiadau yn "haws i bobl ifanc gael gafael arnyn nhw" er mwyn annog cymaint â phosib i gael eu brechu.

    56% o bobl 18-29 oed sydd wedi cael dau frechlyn hyd yma, ond dywedodd y Prif Weinidog y bydd hynny'n cynyddu am nad oes digon o amser wedi pasio i nifer i gael eu hail frechlyn ar hyn o bryd.

    "Mae dros 75% wedi cael dos cyntaf, ac mae'r nifer hynny yn codi yn ddyddiol. Wrth gwrs, rydyn ni'n gobeithio y byddai'n uwch," meddai.

    "Dyna pam rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud brechiadau yn haws i bobl ifanc gael gafael arnyn nhw yn y ffordd maen nhw'n byw eu bywydau.

    "Mae'r bobl yma yn aml yn gweithio, ac mae canfod amser i gael apwyntiad yn fwy anodd. Dyma pam fod gennym ni glinigau pop-up a rhai ble nad oes angen archebu lle."

    BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 'Tynnu at ddiwedd y pandemig'wedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn hyderus bod Cymru "yng nghymal olaf" tynnu at ddiwedd y pandemig.

    Ond pwysleisiodd mai dyna'r achos ond os nad oes rhagor o ddatblygiadau annisgwyl o ran y feirws.

    "Ni allwn gymryd yn ganiataol na fydd y feirws yn achosi sawl syrpreis annymunol pellach," meddai.

    "Pe byddai amrywiolyn newydd yn dod i'r amlwg, neu pe byddai'r feirws yn datblygu mewn ffordd ble mae brechu'n llai effeithiol nag y mae heddiw, yn anorfod fe fyddai'n rhaid i ni wynebu canlyniadau hynny a chymryd camau i fynd i'r afael â nhw".

  11. Newidiadau i'r rheolau ar hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog hefyd, o yfory ymlaen, na fydd yn rhaid i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn na phlant dan 18 oed hunan-ynysu os ydyn nhw yn gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif am Covid-19.

    "Ond mae'n rhaid i bawb - os ydyn nhw wedi'u brechu ai peidio - hunan-ynysu os oes ganddyn nhw symptomau neu os ydyn nhw'n cael prawf positif," meddai Mr Drakeford.

    Ychwanegodd bod y taliad cymorth hunan-ynysu Llywodraeth Cymru yn codi o £500 i £750 o yfory ymlaen.

    "Mae symud i lefel rhybudd sero yn gam mawr arall yn nes at fywyd arferol, ond mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd er mwyn cadw'r feirws yma dan reolaeth," meddai.

  12. 'Pwysicach nag erioed bod pobl yn cael eu brechu'wedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Mark Drakeford wrth y gynhadledd ei bod yn bwysicach nag erioed bod pobl yn cael eu brechu wrth i'r cyfyngiadau lacio.

    Dywedodd bod Cymru'n gwneud yn dda o ran brechu pobl ifanc hefyd, gyda bron i ddau draean o bobl 30-39 oed wedi'u brechu'n llawn a dros hanner pobl 18-29 oed.

    "Mae byrddau iechyd wedi dechrau gwahodd pobl fydd yn troi'n 18 oed yn fuan am frechiad, ac mae plant sy'n byw gydag oedolion bregus yn cael eu brechu," meddai'r Prif Weinidog.

    Ychwanegodd bod plant 16 a 17 oed wedi dechrau cael eu gwahodd hefyd yn dilyn y cyngor gan y JCVI ychydig ddyddiau yn ôl.

    "Rydyn ni eisiau cymaint o'r bobl ifanc yma â phosib i gael eu brechu cyn dechrau'r tymor ysgol nesaf," meddai Mr Drakeford.

  13. Pa fesurau diogelwch fydd yn aros mewn grym?wedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford y bydd mesurau yn parhau mewn grym er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

    Bydd asesiadau risg yn orfodol i bob busnes, ac mae'r llywodraeth yn parhau i annog pobl i weithio adref ble fo hynny'n bosib.

    Fe fydd yn rhaid parhau i wisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus dan do, oni bai am ym meysydd addysg a lletygarwch.

    Mark Drakeford
  14. 'Moment arwyddocaol i ni oll'wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Cadarnhaodd y Prif Weinidog bod y dystiolaeth yn dangos ei bod yn ddiogel i symud i lefel rhybudd sero o 06:00 fore Sadwrn.

    Ond dywedodd nad yw'n rhagweld y bydd unrhyw lacio pellach yn yr adolygiad nesaf mewn tair wythnos er mwyn galluogi'r llywodraeth i fonitro effaith codi'r cyfyngiadau.

    Yr un fydd y drefn am o leiaf y chwe wythnos nesaf, felly.

    "Mae hon yn foment arwyddocaol i ni oll," meddai.

    "Am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig bydd pob busnes yn gallu ailagor ac ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar gwrdd â phobl dan do mewn mannau preifat."

    Ond ychwanegodd Mark Drakeford nad yw'n golygu "diwedd y cyfyngiadau na rhyddid i bawb wneud fel y mynnant".

  15. Y rhaglen frechu yn 'ffactor allweddol' yn y llaciowedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Mr Drakeford bod brechu yn "ffactor allweddol" yn y penderfyniad i lacio.

    Dywedodd bod 83% o oedolion Cymru wedi derbyn y ddau ddos o'r brechlyn, a bod "mwy o bobl yn gwneud y penderfyniad i amddiffyn eu hunain a'u hanwyliaid" pob dydd.

    Yn ôl y Prif Weinidog mae'r rhaglen frechu wedi lleihau cyfran y bobl sydd â Covid-19 sydd angen triniaeth ysbyty.

    Ond rhybuddiodd, pan fu'r achosion ar gynnydd yn yr wythnosau diwethaf, bod "cynnydd bach ond amlwg" yn nifer y bobl sy'n ddifrifol wael gyda'r feirws, a bod hynny yn ei dro wedi arwain at gynnydd yn nifer y marwolaethau.

    "Mae'r niferoedd yn lawer llai nag yn y tonnau blaenorol diolch i lwyddiant ein rhaglen frechu anhygoel a'r ffordd y mae pawb yng Nghymru wedi cadw at y rheolau," meddai.

  16. Achosion yn gostwng ar gyfer y mwyafrif o ardaloeddwedi ei gyhoeddi 12:38 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog wrth y gynhadledd bod achosion wedi bod ar gynnydd trwy'r wlad pan gafodd y cyfyngiadau eu hadolygu ddiwethaf dair wythnos yn ôl.

    Ond erbyn hyn, dywed Mark Drakeford bod achosion yn gostwng yn y mwyafrif o siroedd Cymru.

    "Heddiw, mae tua 130 achos ar gyfer pob 100,000 o bobl yng Nghymru," meddai.

    "Mae hyn yn is na phan oeddwn yn siarad gyda chi dair wythnos yn ôl, ac yn helpu i greu amodau ble y gallwn ni symud ymlaen."

  17. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Ai dyma ddiwedd y cyfyngiadau?wedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    BBC Radio Wales

    Ar Radio Wales fore Gwener, fe ddywedodd Mark Drakeford bod brechlynnau "wedi erydu" y cysylltiad rhwng bod yn wael gyda Covid a bod mor wael bod angen gofal ysbyty.

    Mae hynny, meddai, wedi rhoi'r hyder iddo lacio'r cyfyngiadau.

    "Wrth i'r cynllun brechu barhau, a rhoi'r amddiffyniad yna i ni, dydw i ddim yn disgwyl y bydd rhaid dychwelyd i'r math o gyfyngiadau a welon ni ar ddechrau'r flwyddyn," meddai.

    Ond ychwanegodd y byddai'r cyfyngiadau'n dychwelyd petai "newid sydyn" er gwaeth yn y sefyllfa.

    "All neb ddiystyru syrpreis ofnadwy - fel sydd wedi dod gyda'r feirws yma - ac os oes newid sydyn allwn ni ddim ei ragweld, yna wrth gwrs byddai Llywodraeth Cymru yn gweithredu eto i amddiffyn pobl Cymru."

  19. Y gynhadledd yn dechrau mewn 10 munudwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Galw am gau gwefannau sy'n rhannu gwybodaeth ffugwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2021

    Mae menyw o Gaerdydd sy'n dweud i'w rhieni gael eu camarwain gan wybodaeth ffug ar-lein ynglŷn â coronafeirws yn galw am gau gwefannau sy'n rhannu'r fath straeon.

    Gan siarad yn anhysbys gyda Newyddion S4C, dywedodd bod ei rhieni'n credu yn y lle cyntaf mai salwch tebyg i'r ffliw oedd Covid-19, ond yn fuan wedi hynny fe wnaethon nhw ddechrau arddel theorïau mwy eithafol.

    Maen nhw bellach yn credu mai ffordd o reoli'r boblogaeth yw'r pandemig, "bod y mygydau glas disposable mae pobl yn gwisgo yn cynnwys asbestos" a bod "pawb sy'n cael y brechlyn yn mynd i farw yn yr hydref".

    Ychwanegodd: "Roedden nhw wedi perswadio eu hunain mai nhw o'dd yn gwybod y gwir a ni o'dd yn brainwashed."

    Menyw mewn mwgwd