Crynodeb

  • Cymru i groesawu Awstria i Gaerdydd yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle

  • Bydd enillwyr y gêm honno gartref yn erbyn Yr Alban neu Wcrain yn y ffeinal

  • Fe fydd y gemau ail gyfle (un cymal) i gael eu chwarae ar 24 a 29 Mawrth 2022

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw wrth i'r enwau ddod allan o'r het ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022.

    Mae'n deg dweud na fyddai Cymru wedi gallu gobeithio am lwybr cystal i Qatar.

    I grynhoi, bydd Cymru'n herio Awstria yng Nghaerdydd yn y rownd gynderfynol, a phe bai tîm Robert Page yn llwyddo i ennill y gêm honno fe fyddan nhw'n croesawu un ai'r Alban neu Wcrain i'r brifddinas.

    Fe fyddai enillwyr y gêm honno yn hawlio eu lle yng Nghwpan y Byd.

    Mae'r edrych 'mlaen at fis Mawrth yn dechrau nawr felly! C'mon Cymru!

  2. Cyfle i setlo'r sgôr o 1977?wedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Yn 1977 fe chwaraeodd Cymru yn erbyn Yr Alban mewn gêm hollbwysig yn Anfield i gyrraedd Cwpan y Byd Ariannin '78.

    Mae'r gêm yn cael ei chofio mwy na dim am weithred Joe Jordan, un o chwaraewyr Yr Alban, a phenderfyniad y dyfarnwr i roi cic o'r smotyn yn erbyn Cymru, er mawr syndod i'r miloedd yn y dorf...

    Gallwn obeithio y bydd pethau ddim mor ddadleuol os fydd y Cymry a'r Albanwyr yn cwrdd unwaith eto!

    joe jordan
  3. 'Bygythiad ychwanegol gan Gymru yng Nghaerdydd'wedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    Mae rheolwr Gwlad Belg, Roberto Martinez, yn credu fod Cymru yn fwy o fygythiad i dimau eraill pan maen nhw'n chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Ar ôl y gêm gyfartal rhwng Cymru a Gwlad Belg wythnos diwethaf, roedd Martinez yn llawn clod am yr awyrgylch o'r 'Wal Goch'.

    "Mae'n deg i ddweud pan fod Cymru gartref bod ganddyn nhw fygythiad ychwanegol," meddai cyn-reolwr Abertawe.

    "Mae'n gwneud gwahaniaeth mawr y bydd Cymru gartref yn y gemau ail gyfle."

    Newyddion da iawn i Gymru felly!

  4. Gêm ail gyfle i aros yn Stadiwm Dinas Caerdyddwedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Bydd Cymru yn chwarae eu gêm yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn ôl pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

    Dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr y gymdeithas, yr wythnos ddiwethaf nad oedd "unrhyw ddyhead o gwbl i fynd i Stadiwm Principality" i'w chwarae.

    Stadiwm Dinas Caerdydd, sydd yn dal 33,000 o bobl, sydd wedi cael ei ddefnyddio'n bennaf gan Gymru ar gyfer eu gemau gartref ers 2011.

    Ond fe wnaethon nhw herio Sbaen mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Principality, sydd yn dal 74,500, yn Hydref 2018.

    Stadiwm Dinas CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. ...a beth am Yr Alban a'r Wcrain?wedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Mae'r Albanwyr yn wrthwynebwyr cyfarwydd iawn i Gymru – mae’r ddwy wlad wedi herio’i gilydd 107 o weithiau dros y blynyddoedd, gyda’r Alban yn ennill 61 o’r gemau hynny.

    Ond mae’r record ddiweddar yn ffafrio Cymru, sydd ond wedi colli unwaith mewn wyth gêm i’r Albanwyr – fe wnaethon nhw ennill ddwywaith yn eu herbyn nhw yn ymgyrch Cwpan y Byd 2014.

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dim ond tair gwaith y mae Cymru a’r Wcrain wedi chwarae ei gilydd, gyda’r crysau cochion yn cael dwy gêm gyfartal ac yna colli mewn gêm gyfeillgar yn 2016.

    Cymru WcrainFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Sut record sydd gan Gymru yn erbyn Awstria?wedi ei gyhoeddi 16:51 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Dim ond teirgwaith mewn 10 gêm y mae Cymru wedi trechu Awstria – ond mae dwy o’r buddugoliaethau hynny wedi dod yn y blynyddoedd diwethaf.

    Fe enillodd y crysau cochion o 2-1 mewn gêm gyfeillgar yn 2013, a chyfartal 2-2 oedd hi yn Vienna yn 2016 cyn i gôl Ben Woodburn sicrhau buddugoliaeth yng Nghaerdydd yn 2017 ar y daith (aflwyddiannus) i Gwpan y Byd 2018.

    Ben WoodburnFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Robert Page: Lwc ar ein hochr i gael siawns o ddwy gêm gartrefwedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Yn siarad gyda FIFA TV fe roddodd prif hyfforddwr Cymru, Robert Page, ei ymateb.

    "Rydyn ni wedi rhoi pob cyfle i’n hunain – 1958 oedd y tro d’wetha’ i ni gyrraedd Cwpan Y Byd, a hynny drwy’r gemau ail gyfle.

    "Fe 'naethon ni weithio yn hynod o galed er mwyn gorffen yn ail yn y grŵp a chael gêm gartref yn y gemau ail gyfle, ac rydyn ni wedi cael lwc ar ein hochr i gael gêm gartref yn ffeinal y rowndiau ail gyfle os 'dan ni'n cyrraedd 'na."

    fifaFfynhonnell y llun, FIFA
  8. Cefnogwyr Cymru'n hapus heno!wedi ei gyhoeddi 16:42 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Waw! Sefyllfa dda iawn i Gymru felly yn mynd i'r gemau ail gyfle fis Mawrth.

    Bydd Cymru'n herio Awstria yng Nghaerdydd i ddechrau - tîm sydd 11 safle yn is na Chymru yn netholion y byd (mae Cymru'n 19eg).

    Pe bai tîm Robert Page yn llwyddo i ennill y gêm honno fe fyddan nhw'n croesawu un ai'r Alban neu Wcrain i'r brifddinas.

    Y newyddion da, unwaith eto, ydy fod y ddwy wlad yna hefyd yn is na Chymru yn y detholion - Wcrain yn 25ain a'r Alban yn 38ain.

    MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Y gemau ail gyfle yn llawnwedi ei gyhoeddi 16:37 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Llwybr A

    Yr Alban v Wcrain

    Cymru v Awstria

    Llwybr B

    Rwsia v Gwlad Pwyl

    Sweden v Gweriniaeth Tsiec

    Llwybr C

    Yr Eidal v Gogledd Macedonia

    Portiwgal v Twrci

  10. Dim trip oddi cartref i'r cefnogwyr...wedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    Mae cefnogwyr Cymru wrth eu boddau â theithio'n dramor i wylio'u tîm.

    A fydden nhw erioed wedi bod mor hapus i osgoi trip i ffwrdd?

  11. Llwybr Cymru i Gwpan y Byd Qatar 2022wedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Graffeg
  12. Cymru gartref os ydyn nhw'n cyrraedd y ffeinalwedi ei gyhoeddi 16:27 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021
    Newydd dorri

    Y bêl bwysig olaf wedi dod o'r het, a newyddion gwych i Gymru!

    Enillwyr gêm Cymru ac Awstria fydd yn chwarae gartref yn y rownd derfynol, ble byddan nhw'n croesawu un ai'r Alban neu Awstria.

  13. Cymru i herio Awstria yn y rownd gynderfynolwedi ei gyhoeddi 16:22 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021
    Newydd dorri

    Awstria allan o'r het i deithio i Gaerdydd i herio Cymru!

    Wcrain gafodd eu dewis i herio'r Alban, gan olygu mai un o'r ddwy wlad yna fydd Cymru'n herio os ydy Cymru'n trechu Awstria.

    AwstriaFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Cymru o bosib am herio'r Alban yn y ffeinalwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021
    Newydd dorri

    Y ddau dîm cyntaf allan o'r het ydy'r Alban a Chymru, gan olygu ei bod yn bosib mai'r Albanwyr fydd Cymru'n herio yn rownd derfynol y gemau ail gyfle, os ydy'r ddwy wlad yn ennill eu gemau cynderfynol.

    Fan arall, mae Rwsia yn yr un pâr â Sweden, a'r Eidal a Phortiwgal yn yr un pâr!

    AlbanFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Yr enwau'n dod allan o'r hetwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Mae cyfarwyddwr cystadlaethau FIFA, Manolo Zubiria ar fin dechrau tynnu'r enwau allan o'r het...

    Croesi bysedd am lwybr caredig i Gymru!

  16. Cyn-seren Ffrainc: Cymru'n wlad i'w gwyliowedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Mae'r seremoni yn Zurich wedi dechrau bellach, ond fel sy'n arferol gyda digwyddiadau o'r fath, does dim awgrym pryd y bydd yr enwau'n dod allan o'r het.

    Y cyn-chwaraewyr Christian Karembeu o Ffrainc, Lothar Matthaus o'r Almaen a Tiago Mendes o Bortiwgal sy'n rhannu eu hatgofion o Gwpan y Byd ar y funud.

    Ond mae Kerembeu wedi dewis Cymru, Gogledd Macedonia a'r Alban fel y timau i'w gwylio - diolch Christian!

    KarembeuFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Prif sgoriwr y gemau rhagbrofolwedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Ymosodwr Gwlad Pwyl, Robert Lewandowski oedd y prif sgoriwr o'r timau fydd yn y gemau ail gyfle yn y gemau rhagbrofol eleni.

    Fe sgoriodd chwaraewr Bayern Munich wyth o goliau yn yr ymgyrch ac mae bellach wedi sgorio 74 o goliau rhyngwladol.

    Bydd yn rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus iawn ohono os fydd yn ymweld â Chaerdydd fis Mawrth felly...

    lewa
  18. Pwy mae'r Albanwyr eisiau wynebu?wedi ei gyhoeddi 16:05 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    Dwi newydd fod yn siarad â rhywun o Adran Chwaraeon BBC Yr Alban sydd yn Zurich ar hyn o bryd.

    Dim syndod bod yr Albanwyr hefyd a'u bysedd wedi croesi i wynebu Gogledd Macedonia yn y rownd gynderfynol.

    Ond mae'n werth cofio bod Gogledd Macedonia yn gallu bod yn beryglus - fe guron nhw Yr Almaen oddi cartref eleni.

  19. Rheswm i boeni, neu lle i gredu?wedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Os ydy'r Eidal, Portiwgal neu Sweden yn sefyll yn ein ffordd ni ar y llwybr i Qatar, mae rheswm pellach i boeni.

    Yn ystod cyfnod Ryan Giggs ac yna Rob Page fel rheolwr, dydy Cymru heb drechu'r un tîm sydd yn uwch na nhw yn y rhestrau FIFA mewn 30 gêm gystadleuol.

    Ar y llaw arall, dim ond unwaith yn y 30 gêm yna y maen nhw wedi colli i dîm sy'n is na nhw yn y detholion - lle i fod yn ffyddiog felly os mai rhai o'r timau hynny sydd yn ein ffordd.

    A rheswm arall i fod yn hyderus, os fyddwn ni yng Nghaerdydd ar gyfer y ddwy gêm - dim ond un gêm gystadleuol y mae'r crysau cochion wedi colli adref ers 2013.

    'Nawn ni anwybyddu'r ffaith mai gêm dyngedfennol (Iwerddon yn 2017) i gyrraedd Cwpan y Byd oedd honno hefyd...

    Ashley WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gollodd Cymru o 1-0 yn erbyn Iwerddon yng ngêm olaf ymgyrch Cwpan y Byd 2018 i fethu allan ar le yn y gemau ail gyfle

  20. Hanes yn ailadrodd ei hun?wedi ei gyhoeddi 15:59 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021

    Unwaith yn unig mae Cymru erioed wedi cyrraedd Cwpan y Byd, wrth gwrs, a hynny yn 1958.

    Bryd hynny bu'n rhaid mynd drwy gemau ail gyfle i gyrraedd y twrnament hefyd - felly ydy hanes am ailadrodd ei hun eleni?

    'Nôl yn 1958 Israel oedd y gwrthwynebwyr, gyda FIFA yn mynnu fod yn rhaid iddyn nhw chwarae gêm ail gyfle gan fod eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol Asia wedi tynnu 'nôl am wahanol resymau.

    Bu'n rhaid dewis tîm arall i'w hwynebu, felly, ac ar ôl i Wlad Belg ddod allan o'r het gyntaf a gwrthod y cynnig, Cymru oedd nesaf.

    Fe enillodd y crysau cochion o 2-0 gartref ac oddi cartref, a sicrhau eu lle yn y twrnament yn Sweden.

    Cymru v Brasil, Cwpan y Byd 1958Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gyrhaeddodd Cymru rownd wyth olaf Cwpan y Byd 1958, cyn colli 1-0 i Frasil diolch i gôl gan fachgen ifanc o'r enw Pele - beth ddigwyddodd i hwnnw tybed?