Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich 26 Tachwedd 2021
Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw wrth i'r enwau ddod allan o'r het ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022.
Mae'n deg dweud na fyddai Cymru wedi gallu gobeithio am lwybr cystal i Qatar.
I grynhoi, bydd Cymru'n herio Awstria yng Nghaerdydd yn y rownd gynderfynol, a phe bai tîm Robert Page yn llwyddo i ennill y gêm honno fe fyddan nhw'n croesawu un ai'r Alban neu Wcrain i'r brifddinas.
Fe fyddai enillwyr y gêm honno yn hawlio eu lle yng Nghwpan y Byd.
Mae'r edrych 'mlaen at fis Mawrth yn dechrau nawr felly! C'mon Cymru!