Crynodeb

  • Y Ceidwadwyr yn colli rheolaeth Mynwy

  • Plaid Cymru yn cipio mwyafrif yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr

  • Llafur yn cipio rheolaeth ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr ond yn colli rheolaeth ar Gastell-nedd Port Talbot

  • Arweinwyr cynghorau Powys, Caerffili a Chaerfyrddin yn colli eu seddi

  • Y Blaid Werdd yn cipio'i seddi cyntaf yn Sir Ddinbych a Chasnewydd

  • Enillion bychan i'r Democratiaid Rhyddfrydol

  1. Cyngor Sir y Fflint: Llafur wedi ennill 11 o'r 17 seddwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Hyd yma mae Llafur wedi ennill 11 o'r 17 sedd sydd wedi cael eu cyhoeddi, gyda chwech yn mynd i ymgeiswyr annibynnol ac un i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Mae aelodau annibynnol wedi cipio seddi gan Lafur - a'r enghraifft amlycaf yng Ngwepre, Cei Conna. Dyma'r ardal allweddol wrth i glwstwr o aelodau annibynnol geisio torri goruchafiaeth Llafur.

    Ond mewn ardaloedd eraill, mae plaid draddodiadol y chwith wedi ennill tir, gan gipio dwy sedd yn nhref Yr Wyddgrug.

    Ted palmer

    Mae Ted Palmer o'r Blaid Lafur wedi cadw'i sedd yng Nghanol Treffynnon - o un bleidlais.

    Cafodd Mr Palmer ei ethol yn ddiwrthwynebiad y tro diwethaf, ond y tro yma curodd yr ymgeisydd annibynnol Daniel Thomas o 224 i 223.

    Dywedodd ei fod "ar bigau'r drain" yn ystod y cyfrif, ond "wrth fy modd, yn amlwg" gyda'r canlyniad.

  2. 'Ymgeiswyr papur' ar Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Llinos Medi

    Mae arweinydd Cyngor Môn, Linos Medi yn dweud mai "ymgeiswyr papur" sy’n gyfrifol am y cynnydd mewn ymgeiswyr ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

    Mae’r Ceidwadwyr yn herio bob un o’r 35 o seddi o gymharu â’r 24 sydd yn sefyll ar ran Plaid Cymru.

    “Mae gyno ni ymgeiswyr sydd eisiau bod yn gynghorwyr, does dim un ymgeisydd papur. 'Sa ni ddim yn amharchu pobl yr ynys drwy wneud hynny."

    Fe ddaeth Plaid o fewn trwch blewyn i gymryd rheolaeth o’r Ynys - dyna ydy’r gobaith eleni, meddai Llinos Medi.

    “Mae 'na gynghorwyr sy'n debyg i ni - sy’n gweld yr ynys yn debyg i ni - ella fydd rhaid trafod 'efo nhw.

    Ond ar hyn o bryd y flaenoriaeth ydy neud yn siŵr fod 'na ddigon o gynghorwyr i arwain y cyngor."

  3. Faint o golledion i'r Ceidwadwyr?wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Felicity Evans
    Golygydd gwleidyddol BBC Cymru

    Aeth y Ceidwadwyr Cymreig i'r etholiad hwn gan ddisgwyl rhai colledion - y cwestiwn yw faint.

    Maes allweddol iddynt yw gogledd-ddwyrain Cymru, lle bu bron iddynt ysgubo Llafur Cymru i ffwrdd yn etholiad cyffredinol 2019, ond ni allent ailadrodd y gamp honno yn etholiadau’r Senedd y llynedd.

    Ar lefel cyngor maen nhw wedi bod yn rhedeg tri o’r cynghorau mewn clymblaid ag aelodau annibynnol.

    Yn y de, maen nhw bob amser yn brwydro gyda Llafur Cymru ym Mro Morgannwg, lle mae aelodau annibynnol hefyd yn chwarae rhan fawr.

    Ond mae ffynhonnell Dorïaidd wedi anfon neges destun ataf i ddweud “Nid yw Conwy, Sir Ddinbych na Bro Morgannwg yn edrych yn wych i ni.”

  4. Pobl eisiau dangos 'protest' medd AS Ceidwadolwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Disgrifiad,

    David T C Davies

    Mae pleidleiswyr eisiau "mynegi rhyw fath o brotest yn erbyn y llywodraeth" yn yr etholiadau lleol, yn ôl yr AS Ceidwadol, David TC Davies.

    Ond dywedodd bod ganddo "hyder 100%" yn Boris Johnson, ond bod y canlyniadau yn siomedig hyd yn hyn.

    “Mae’n sefyllfa ddiddorol achos fel arfer mae’r llywodraeth yn colli pleidleisiau yng nghanol y term. Mae hynny’n digwydd bob tro.

    "Yr hyn sy’n digwydd y tro hyn yn wahanol. Mae’r llywodraeth Geidwadol wedi colli pleidleisiau mewn llefydd fel Llundain - mae’n siomedig dros ben - ond ddim wedi colli gymaint o gwbl, a hyd yn oed wedi ennill tu allan i Lundain.

    "Mae’r siâr o’r bleidlais Llafur hyd yn oed wedi mynd i lawr tu allan i Lundain.

    “Dwi ddim wedi gweld hynny o’r blaen felly efallai mae’n rhaid ichi ofyn i ryw fath o psephologist!”

  5. Pethau yn poethi ym Mhowyswedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae pethau yn dechrau poethi yn Llanelwedd a'r cyfrif ar gyfer cyfri' Powys.

    Dim ymgeiswyr blin, ond yn hytrach parcio gwael sy' 'di codi gwrychyn swyddogion etholiad yno.

    Mae 'na geir yn rhwystro eraill rhag cael mynediad i Faes y Sioe Frenhinol.

    Dywedodd un swyddog: "Rwyf wedi cael sicrwydd gan Staff y Sioe Frenhinol fod tryc fforch godi ar gael os nad yw'r ceir yn cael eu symud!"

    Llanelwedd
  6. Sedd gyntaf y Blaid Werdd erioed yn Sir Ddinbychwedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Y peiriannydd a'r barcutwr Martyn Hogg yw'r ymgeisydd cyntaf i gael ei ethol ar ran y Blaid Werdd yn Sir Ddinbych.

    Mae wedi cipio sedd Dwyrain Llanelwy oddi ar y Ceidwadwyr, o 310 i 270 pleidlais.

    Roedd canran y pleidleiswyr yn Sir Ddinbych eleni yn 38.6% - 35% oedd y ganran yn 2017.

    Martyn Hogg
  7. Canran sy'n pleidleisio i lawr - hyd ymawedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae'n ddyddiau cynnar iawn, iawn ond mae'r ganran sy'n pleidleisio i lawr yn y ddau gyngor sydd wedi cyhoeddi ffigurau.

    Mae Merthyr Tudful wedi cofnodi bod 34% wedi pleidleisio, i lawr o 37.7% bum mlynedd yn ôl.

    Y ganran a bleidleisiodd ym Mlaenau Gwent oedd 32.49% - gostyngiad o 7.5% o gymharu â’r 40% yn 2017.

    Mae’r ddau ffigur a gyhoeddwyd hyd yn hyn yn is na’r ffigurau pleidleisio gwaethaf yn 2017, sef 36.3% yng Nghaerffili a Chasnewydd.

    pleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Glynog Davies yn cadw ei sedd gyda mwyafrif o 18 yn Sir Gârwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Partïon wedi eu crybwyll 'dro ar ôl tro'wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Rob Stewart wedi ei ailethol i Lafur yn Abertawe, ac mae'r arweinydd yn dweud bod helyntion partïon yn Rhif 10 wedi eu crybwyll "dro ar ôl tro" wrth ymgyrchu eleni.

    Mae'n dweud bod pleidleiswyr Ceidwadol wedi troi at Lafur.

    RS
  10. Hwyl ymgyrchu yn ystod cyfnod mamolaethwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dywed Nicola Matthews sydd wedi'i hethol ym Mhenyrheol ei bod wedi bod yn hwyl ymgyrchu yn ystod cyfnod mamolaeth gyda Quinn.

    Roedd rhieni Nicola hefyd yn sefyll - teulu gwleidyddol iawn!

    mam a babi
  11. Proses araf yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Cyngor Ceredigion

    Mae'r Swyddog Canlyniadau yng Ngheredigion wedi cyhoeddi y bydd hi'n hanner awr arall cyn i'r canlyniadau cyntaf yno gael eu cyhoeddi.

    Dywedodd Eifion Evans fod y gwaith o gyfri' wardiau gyda mwy nag un sedd yn broses araf.

    Mae disgwyl y bydd ward Aberystwyth Morfa a Glais, lle mae yna naw ymgeisydd, yn cymryd rhai oriau'n fwy.

  12. Canlyniad arwyddocaol yn Rhydaman?wedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae 'na ganlyniad all fod yn arwyddocaol i Blaid Cymru yn Rhydaman wrth iddyn nhw gipio sedd.

    Mae'r ward newydd yn uno dwy sedd - Rhydaman a Gorllewin Pontaman - ac yn flaenorol roedd gan Lafur un ohonynt.

    Plaid Cymru sydd wedi cymryd y ddwy eleni, yn dilyn brwydr agos yn yr ardal.

  13. Y diweddara' ar draws y ffinwedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Wrth i ni ganolbwyntio ar ganlyniadau Cymru yma, fe fydd Cemlyn Davies yn dod a'r diweddara' o'r sefyllfa dros y ffin i ni.

    Disgrifiad,

    Cemlyn Davies sy'n gohebu.

  14. Gweinidog lleol yn colli o saith pleidlaiswedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Llafur wedi ennill sedd newydd Hendre yng Nghaernarfon. Eleni roedd y gwenidog lleol - y Parchedig Anna Jane Evans yn sefyll ar ran Plaid Cymru.

    Fe gafodd Coj Parry (Llafur) 310 o bleidleisiau ac Anna Jane Evans 303 (PC).

  15. Llwyddiant i Lais Gwyneddwedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae Peter Thomas, Llais Gwynedd, wedi cipio sedd Llanllyfni oedd yn arfer bod yn nwylo’r aelod cabinet Plaid Cymru, Craig ab Iago, sydd wedi penderfynu symud ward y tro hwn.

    Trechodd Peter Thomas Dafydd Thomas o Blaid Cymru o 304 pleidlais i 267.

    Ond mae Plaid Cymru wedi cipio sedd ym Methel a’r Felinheli gyda Sasha Williams ac Iwan Huws yn cipio’r ddwy sedd oedd ar gael yn y ward newydd.

    Roedd Bethel a’r Felinheli yn arfer bod yn ddwy sedd ar wahân gyda Bethel yn nwylo Sion Jones o’r Blaid Lafur, oedd ddim yn sefyll y tro hwn.

  16. Ethol cwpl priod yng Nghasnewydd!wedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Mae 'na gwpl priod wedi eu hethol i gynrychioli ward Alway yng Nghasnewydd.

    Mae Debbie a Tim Harvey wedi bod yn briod ers 37 o flynyddoedd.

    Dyma'r tro cyntaf i Tim gael ei ethol, ond mae Debbie eisoes wedi bod yn gynghorydd am dri thymor.

    Fydd cydweithio'n straen ar y berthynas?

    "Mae'n mynd i fod yn iawn, 'da ni'n 'nabod ein gilydd yn iawn ac yn gallu bownsio syniadau oddi ar ein gilydd", meddai Debbie.

    Debbie a Tim
  17. 'Un teulu mawr': Sut mae'n teimlo i gynghorwyr sy'n sefyll lawr?wedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Bob Parry

    "Er ein bod yn gallu gweiddi ar ein gilydd ar draws y siambr, yn y pendraw mi oedd pawb yn ffrindia'..."

    Mae Bob Parry wedi bod yn gynghorydd ers yr ad-drefnu yn 1996, ond roedd o hefyd yn gynghorydd dan yr hen drefn ers 1981.

    Eleni, mae o'n un o'r cynghorwyr wnaeth ddim ymgeisio eto.

    Er yr anghytuno ar adegau, dywedodd bod y cyngor yn "un teulu mawr" oedd yn cyd-dynnu, ond ei bod hi'n bryd "rhoi cyfle i'r genhedlaeth nesaf".

    "Ond un peth dwi licio'i weld ydy mwy o ferched a pobl ifanc yn sefyll i'r cyngor, sy'n beth iach iawn dwi'n meddwl."

    Darllenwch fwy o argraffiadau Bob a chynghorwyr eraill sy'n camu i lawr eleni yma.

  18. Ffarwelio ar ôl arwain Cyngor Ceredigion ers 2012wedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Dyw Ellen ap Gwynn ddim yn disgwyl canlyniad personol eleni - ond roedd hi'n bresennol yng nghyfri' Ceredigion.

    Mae hi wedi bod yn arweinydd Cyngor Ceredigion ers 2012, ond mae'n sefyll i lawr eleni.

    Ellen ap Gwynn
  19. Canlyniad Sir Fynwy yn 'rhy anodd i ddyfalu'wedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    TC

    Dywed David TC Davies, AS Mynwy, fod y canlyniad yn y sir yn agos, mor agos fel ei bod hi'n "rhy anodd i ddyfalu".

    Sir Fynwy oedd yr unig gyngor dan reolaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru, ac un o brif dargedau'r blaid.

    Dywedodd fod y canlyniadau ar draws y DU yn "rhyfedd iawn".

    Ond ychwanegodd y byddai'n parhau i gefnogi Boris Johnson, a'i fod yn disgwyl y bydd ASau Ceidwadol eraill yn gwneud yr un fath.

  20. 'Wrth fy modd ac yn edrych ymlaen'wedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter