Diolch am ddilyn!wedi ei gyhoeddi 22:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Mai 2022
Dyna'r cyfan gennym ni ar y llif byw, ar ddiwrnod o newid i wleidyddiaeth ar lefel lleol yng Nghymru.
Yr enillwyr amlwg oedd Llafur, gipiodd reolaeth ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr, ond gollodd eu gafael ar Gastell-nedd Port Talbot.
Roedd hi'n ddiwrnod da iawn i Blaid Cymru hefyd. Er iddyn nhw weld gostyngiad yn nifer eu cynghorwyr ar draws y wlad, fe lwyddon nhw i gymryd rheolaeth yn Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gâr.
Y Ceidwadwyr oedd ar eu colled, gan golli'r unig sir yr oedden nhw'n ei rheoli - Sir Fynwy.
Mae disgwyl canlyniadau terfynol Sir y Fflint yfory oherwydd ailgyfrif mewn dwy ward, ond mae hi eisoes yn glir na fydd gan yr un blaid fwyafrif yno.
Mae un ward eto i gyhoeddi yng Nghastell-nedd Port Talbot hefyd. Oherwydd marwolaeth ymgeisydd, ni fydd etholiad yno nes 23 Mehefin. Ond hyd yn oed heb ganlyniad y ward honno, ry'n ni eisoes yn gwybod fod Llafur wedi colli rheolaeth o'r cyngor hwn.
Rydyn ni hefyd yn disgwyl canlyniad un ward ym Mro Morgannwg yn hwyr iawn heno, neu yn yr oriau mân. Canlyniadau'r sir honno sydd ar goll o'r ffigyrau uchod.
Bydd trafodaethau brwd dros y dyddiau nesaf felly i benderfynu pwy fydd yn arwain yr holl gynghorau ble nad oes mwyarif i'r un blaid.
Mae crynodeb o'r diwrnod ar gael i'w ddarllen ar ein hafan.