Crynodeb

  • Cyffro yn Ninbych a'r cyffiniau ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022

  • Shuchen Xie, 12, yn ennill y Fedal Gyfansoddi

  • Mynediad eleni am ddim a phawb ar y llwyfan

  • Eisteddfod yr Urdd yn 'rhan bwysig' o fywyd llywydd y dydd, Jade Davies

  1. Y cywydd croeso – ‘Awr rhoi’r tir i’r to iau’wedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Y Prifardd Llion Jones, un a fagwyd yn Abergele, yw awdur y cywydd croeso a dyma ddetholiad:

    Daeth i’r henfro hon

    awr i hwylio gorwelion,

    awr gŵyl i danio’r golau,

    awr rhoi’r tir i ni to’r iau

    i roi hyder ar waith,

    i roi ynni i’r heniaith.

    Iaith y pridd ac iaith y prom

    y mae hi’n fwrlwm ynom,

    draw ar rwydwaith direidi

    hon yw iaith ein Snapchat ni,

    iaith nodau o dannau dur

    a’r iaith sydd yn y ‘sgrythur.

    Llion JonesFfynhonnell y llun, Canolfan Bedwyr
  2. Oes gennych chi lun ohonoch chi a Mistar Urdd?wedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    BBC Radio Cymru

    Neges gan griw Radio Cymru!

    Mae Radio Cymru angen eich help chi i ddathlu y 'Steddfod gyntaf ers 2019.

    Ry’ ni angen i chi ddanfon lluniau ohonoch chi (neu’ch plant, neu’ch anifeiliaid anwes!) gyda Mistar Urdd, fel mae Shelley a Rhydian yn 'neud yn fan hyn!

    E-bostiwch eich lluniau i: shelleyarhydian@bbc.co.uk neu rhowch nhw ar gyfrif facebook Radio Cymru.

    Bydd fideo arbennig yn cael ei greu ar ddiwedd wythnos y ‘Steddfod.

    Radio Cymru
  3. Yn wên o glust i glustwedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae'r Maes wedi prysuro erbyn hyn - ymhlith yr ymwelwyr mae Madi o Landderfel ac Owi o Lanuwchllyn, oedd yn wên o glust i glust amser cinio.

    Dau o blant ar y Maes
  4. Dathlu yn Aberystwythwedi ei gyhoeddi 13:19 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae Ysgol Plascrug, Aberystwyth yn enillwyr cyson yn Adran Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

    Nhw heddiw oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Ymgom i Ddysgwyr Blwyddyn 6 ac Iau ac yng nghystadleuaeth y gân actol i ddysgwyr.

    Yr ymgomwyr buddugol o Ysgol Plascrug, AberystwythFfynhonnell y llun, Twitter @YsgolPlascrug
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr ymgomwyr buddugol o Ysgol Plascrug, Aberystwyth

  5. Dim poncho? Dim problemwedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae’r ddwy yma o Ynys Môn wedi canfod ffordd dda o ddelio gyda’r glaw a chadw eu dwylo yn rhydd.

    “Mae’n od bod yng nghanol pobl eto,” meddai Lisa Jones, o’r Fali.

    “Mae’n teimlo’n wahanol – does 'na’m canolbwynt heb prif bafiliwn, ond mae’n neis achos mae’r plant yn dal i gael y cyfle i gystadlu,” meddai Lowri Carlisle o Gaergybi.

    Dwy ddynes ar y Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    A hithau'n ddiwrnod glawog, bydd nifer yn genfigennus o hetiau Lisa Jones a Lowri Carlisle

  6. Dawnswyr Adran Penrhyd yn dathlu hefydwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Dawnswyr Adran Penrhyd o Ddwyrain Myrddin enillodd y gystadleuaeth Dawns Werin Bl.4 ac iau ac roedden nhw wrth eu bodd.

    Ysgol Gymraeg Llwyncelyn oedd yn ail ac roedd Ysgol y Dderwen yn drydydd.

    Penrhyd
  7. Ac ydynt mae disgyblion Bontnewydd wrth eu bodd!wedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Roedd yna gryn gyffro wedi i Mari Lovgreen gyhoeddi mai cerddorfa Ysgol Bontnewydd oedd yn fuddugol!

    Bontnewydd
  8. Cefnogwr Gareth Bale ymhlith y dawnswyrwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae Gethin, Dafydd a Garin o Ddolgellau wedi dod draw i Ddinbych i gystadlu yn y dawnsio gwerin ac wrth eu bodd!

    Tri bachgen ar y Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Cymru, dawnsio gwerin a Madrid!

  9. Dymuniadau da Ysgol Bontnewydd wedi gweithio!wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Cerddorfa Ysgol Bontnewydd oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth Cerddorfa/Band Bl. 6 ac Iau gydag ysgol Llanfairpwll yn ail ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn drydydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ymarfer cyn mynd ar y llwyfanFfynhonnell y llun, Twitter @YsgolGymraeg
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ymarfer cyn mynd ar y llwyfan

  10. Llwyfan rhif pedwar?wedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Tri phafiliwn ddim yn ddigon? Roedd Annest, 6, wrth ei bodd yn yr Arddorfa amser cinio.

    Merch yn canu offeryn
  11. Ffafrio bwyd traddodiadol neu giw llai?wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Eisteddfodwyr ddydd Llun yn ffafrio bwyd traddodiadol neu giw llai!

    Dim cymaint yn ciwio am fwyd Caribïaidd hyd yma!

    ciw
  12. Amser am god a sglod?wedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Wel does dim un 'Steddfod yn gyflawn heb ginio da ar y maes.

    Ac ydi mae'r ciwio wedi dechrau!

    cinio
  13. Y man disgwyl am y canlyniadau yn boblogaiddwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Un o'r llefydd mwya' poblogaidd yw'r lle aros am ganlyniadau.

    Gwen o Ysgol y Cregiau oedd y llefarydd gorau ym marn beirniaid Llefaru Unigol Bl. 2 ac iau.

    Efa o Ysgol Garth Olwg oedd yn ail

    ac roedd Nanw o Ysgol Gynradd Aberaeron yn drydydd.

    canlyniadau
  14. Cyffro rhai o ddisgyblion Ysgol Llannerch-y-medd wrth deithio i'r Maeswedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Dyma rai o ddisgyblion Ysgol Llannerch-y-medd, Ynys Môn, ar y bws fore Llun - yn gyffrous i gystadlu a chael dychwelyd i'r ffair!

  15. Gwenllian o Ysgol Gwenllian yn ennill am ganu 'Mynd ar Wyliau'wedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Roedd yna dwr o bobl yn disgwyl canlyniad Blwyddyn 2 ac iau a'r enillydd oedd Gwenllian o Ysgol Gymraeg Gwenllian, Dwyrain Myrddin.

    Roedd yna lwyddiant hefyd i Gruffudd o Adran Tref y Gelli -fe oedd yn ail ac roedd Jac o Ysgol Pontrobert yn drydydd.

    Ydych chi am gystadlu? Mae yna her isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Canlyniad cynta'r Eisteddfod ...wedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Grŵp Cerys o Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd sydd wedi ennill y ddawns werin Bl.6 ac iau.

    Roedd Ysgol Cwm Banwy yn ail a Grŵp Anni o Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn drydydd.

    Mae ap yr Eisteddfod yn ap cynhwysfawr sy’n rhoi’r canlyniadau diweddaraf ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol am y maes, teithio, tocynnau ayyb.

    Gallwch ei lawrlwytho‘n uniongyrchol i’ch ffôn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Holl hwyl yr Eisteddfod ar Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    BBC Radio Cymru

    Mae Radio Cymru yn falch i fod nôl yn Eisteddfod yr Urdd.

    Bydd @FfionEmyr, dolen allanol ar y maes bob dydd, ac mi gewch chi holl hwyl y 'Steddfod gyda hi, Shelley a Rhydian, Caryl, ac Ifan Jones Evans.

    Radio Cymru
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Elan, Myfi ac Elsi yn dod â lliw i'r Maeswedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae rhai o ymwelwyr ifanca'r ŵyl yn sicrhau bod digon o liw i'w weld er gwaetha'r cymylau - dyma'r chwiorydd Elan a Myfi o Nebo ger Llanrwst, ac Elsi o Landrillo yn y canol.

    Tair merch ar y Maes
  19. Unawdwyr Bl. 2 ac iau o bob cwr o Gymru yn perfformio ar y llwyfan cochwedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Unawd Blwyddyn 2 ac iau oedd un o'r cystadlaethau cyntaf bore 'ma am 9.

    Roedd disgwyl i 19 i berfformio yn y Pafiliwn Coch.

    Tybed i ble ro'n nhw am fynd wedyn? Fan hyn falle?

    pentre bwyd
  20. Gobeithio am 'brofiad positif' i ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2022

    Mae prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, yn dweud bod teimlad o "ryddhad mawr" fod yr ŵyl o'r diwedd wedi agor ei drysau ar ôl yr holl baratoi.

    Ond er bod y maes yn ôl ar ei ffurf draddodiadol, mae'n gyffrous i weld yr ymateb i'r datblygiadau newydd.

    "Mae'n bwysig bod ni fel yr Urdd yn esblygu i ofynion ein cwsmeriaid ni," meddai.

    Ychwanegodd fod gobeithion yn uchel y bydd mynediad am ddim i'r maes yn helpu i ddenu cynulleidfaoedd newydd hefyd.

    "Mae'n bwysig bod ni fel sefydliad Cymraeg yn denu'r di-Gymraeg a dysgwyr i mewn hefyd, ac yn sicrhau bod nhw'n cael profiad positif o glywed y Gymraeg fel iaith fyw."

    Sian Lewis