a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni am heddiw ...

    Dyna'r cyfan gan dîm Cymru Fyw am heddiw ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.

    Bu'r aros amdani yn hir ond mae'n amlwg fod pawb yn falch o ddychwelyd wyneb yn wyneb.

    Mae'r eisteddfod yn torri tir newydd mewn sawl ffordd ac yn goron ar y cyfan roedd anrhydeddu y person ieuengaf erioed i ennill un o brif wobrau'r Eisteddfod.

    Dim ond 12 oed yw enillydd y Fedal Gyfansoddi - Shuchen Xie o Gaerdydd.

    Cofiwch bod yr holl ganlyniadau ar ap yr eisteddfod.

    Fe fyddwn yn ôl bore fory gyda mwy o straeon a lluniau o'r maes.

    Diolch am eich cwmni.

    gwenu
  2. Gwrando'n astud...

    Mae Jenson a Lottie o Ddinbych wedi bod yn dilyn y diweddaraf o'r Maes ar BBC Radio Cymru - ydych chi?

    Dau o blant
  3. Peidiwch ag anghofio'r brwsh gwallt!

    Un peth na allwch chi ei anghofio cyn dod i'r Maes...

    Dyma Anest ac Efa o Gaerfyrddin yn gwneud yn siŵr eu bod yn barod i fynd ar y llwyfan.

    Dwy ferch yn yr Eisteddfod
  4. Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd yn 'arwydd da i holl wyliau Cymru'

    Mae Archdderwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Myrddin ap Dafydd, wedi arfer gyda dyletswyddau ar y maes, ond mynd â’i ŵyr Deio i’w sioe Cyw cynta’ oedd ei brif dasg yn Eisteddfod yr Urdd heddiw.

    "Mae llwyddiant yr Urdd i gynnal yr eisteddfod yr wythnos hon yn arwydd da i holl wyliau Cymru," meddai.

    “Cyfannu'r cylch eto ydyn ni, a’r diwylliant roedden ni wedi ei golli.

    "Rydyn ni wedi cau'r bylchau drwy wahanol gyfryngau ond does ‘na ddim byd fel cyfarfod pobl yn y cnawd ar y maes.

    "Mae’r llawenydd i’w deimlo ym mhobman. Bob man ‘da ni’n troi rydyn ni’n gweld rhywun tyda ni ddim wedi ei weld ers blynyddoedd.

    "Mae’n argoeli’n dda ar gyfer Eisteddfod Tregaron – mae pawb yn gofyn sut fydd hi yno ac mae pobl yn edrych ymlaen yn arw iawn.”

    Myrddin ap D a'i wyr
  5. 'Cael fy rhyfeddu gan allu'r cyfansoddwr buddugol'

    Mae Shuchen yn ennill teitl y Prif Gyfansoddwr am gyfansoddi darn ar gyfer pedwarawd llinynnol gyda’r teitl Rhapsody in G minor.

    Roedd y beirniad Mared Emlyn wedi ei chalonogi’n fawr gyda safon y gystadleuaeth, gyda’r ensemble a gyflwynodd Shuchen o dan y ffugenw ‘Endurance’ yn “bleser i’w weld a’i glywed.”

    Mae Shuchen yn wyneb cyfarwydd i’r Urdd ac wedi perfformio lawer gwaith ar lwyfan y genedlaethol – bu iddi ennill cystadleuaeth cyfansoddi iau (Cynradd) Eisteddfod T 2021, ynghyd â’r unawd piano.

    Yn y darn buddugol, mae hi’n archwilio gwahanol emosiynau trwy amrywio’r tempo ac yn defnyddio rhythmau’r Tango a’r Scherzo.

    Yn ei beirniadaeth, meddai Mari Emlyn: “Dwi wedi fy nghalonogi’n fawr gyda safon y gystadleuaeth eleni, ac roedd hi’n anodd iawn gwahanu gyda’r safon mor uchel.

    "Ges i fy rhyfeddu gan allu’r cyfansoddwr buddugol i symud drwy gyweiriau, harmonïau ac amsernodau gwahanol mewn ffordd mor naturiol. Llongyfarchiadau mawr i bawb.”

    Derbyniodd Shuchen y Fedal, sef Medal Goffa Grace Williams, wedi ei chreu gan y gemydd Rhiannon o Dregaron.

    Rhoddwyd y Fedal hon gan Gôr Rhuthun a noddwyd y seremoni gan Gyngor Sir Dinbych. Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Gwydion Powel Rhys, Cylch Bangor Ogwen a Kai Edward Fish o Gwm Rhymni oedd yn drydydd.

    Gwydion Powel Rhys (ar y dde), Cylch Bangor Ogwen oedd yn ail a Kai Edward Fish o Gwm Rhymni oedd yn drydydd
    Image caption: Gwydion Powel Rhys (ar y dde), Cylch Bangor Ogwen oedd yn ail a Kai Edward Fish o Gwm Rhymni oedd yn drydydd
  6. Newydd dorriMerch 12 oed, yn ennill y Fedal Gyfansoddi

    Shuchen Xie o Gaerdydd sydd wedi ennill Medal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd 2022.

    Y ferch 12 oed yw'r ieuengaf erioed i gipio un o brif wobrau'r ŵyl.

    Yn ddisgybl yng ngholeg St. John’s, Caerdydd mae Shuchen yn gerddor angerddol sy’n chwarae’r piano, sacsoffon a sielo.

    Ers tair blynedd mae hi’n sy’n dilyn cwrs cyfansoddi conservatoire Iau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

    Mae cyfansoddi yn apelio’n fawr i Shuchen a chyrhaeddodd rownd derfynol Cyfansoddwr Ifanc NCEM & BBC Radio 3 yn 2021 (sy’n gystadleuaeth ar gyfer rhai hyd at 18 oed) yn ogystal ag ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd yng Ngŵyl Cerddorion Ifanc Abertawe.

    Mae hi’n wyneb cyfarwydd i’r Urdd sydd wedi perfformio lawer gwaith ar lwyfan y genedlaethol – enillodd yr unawd piano a chystadleuaeth gyfansoddi iau (cynradd) Eisteddfod T y llynedd.

    cyfansoddwr
  7. Prentisiaeth 'wedi agor nifer o ddrysau'

    Mae un o bobl ifanc ardal Dinbych wedi cyfeirio at y “cyfleoedd gwych” sydd ar gael iddi fel prentis yr Urdd.

    "Mae'n anhygoel bod yma heddiw,” meddai Llio Jones o Lannefydd wedi iddi annerch y wasg fore Llun.

    “’Dw i'n gwneud pob math o wahanol chwaraeon yn yr adran chwaraeon drwy'r dydd - fydd rhywbeth gwahanol bob awr, a ‘dw i newydd wneud cynhadledd y wasg. ‘Dw i erioed wedi gwneud dim byd fel yna o'r blaen, yn siarad o flaen y camera.

    Mae Llio yn brentis Datblygu Chwaraeon gyda’r Urdd yn ardal Dinbych.

    “Mae gwneud y brentisiaeth wedi agor nifer o ddrysau i mi ac ar ôl cwblhau fy mhrentisiaeth, dwi’n teimlo y byddaf mewn sefyllfa da i ymgeisio am swyddi o fewn y maes chwaraeon a hyfforddi.”

    Yr Urdd yw’r darparwr prentisiaethau cyfrwng Cymraeg mwyaf blaenllaw yn y trydydd sector yng Nghymru, gyda dros 140 o brentisiaid ar y llyfrau.

    Mae’r Mudiad yn cynnig Prentisiaethau Chwaraeon ar draws Cymru, Prentisiaethau Awyr Agored yn y gwersylloedd a Phrentisiaethau Gwaith Ieuenctid mewn ardaloedd penodol.

    Llio Jones
    Image caption: Llio Jones yn annerch y wasg ar fore cyntaf yr ŵyl
  8. Mae 'na hwyl yn y ffair!

    Un ffordd i ddod dros y nerfau cyn mynd ar y llwyfan...!

    Ffair
  9. Hoe i athrawon Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi'r cystadlu!

    Ymhlith y cystadleuwyr ar y maes heddiw roedd disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac roedd pabell Merched y Wawr yn le da i dorri syched i'r pennaeth Clive Williams a'r athrawon wedi'r cystadlu.

    athrawon ysgol gymraeg
  10. Aduniad i ffoaduriaid fu'n aros yng ngwersyll yr Urdd

    Mae ffoaduriaid o Afghanistan wedi bod yn ynweld â’r maes heddiw.

    Roedd Mobasir Talat a’i fab Shukran ymhlith y teuluoedd fu’n aros yng ngwersyll yr Urdd yng Nghaerdydd llynedd ar ôl ffoi o’u cartref.

    Mae’r teuluoedd bellach wedi cael cartref mewn llefydd eraill yng Nghymru, ac felly mae eu hymweliad â’r Eisteddfod heddiw wedi bod yn gyfle am aduniad.

    Wrth i’r plant fwynhau eu hunain yn ardal chwarae’r maes, dywedodd Mobasir eu bod yn ddiolchgar iawn am y “croeso cynnes” maen nhw wedi ei gael yng Nghymru.

    Tad a mab
  11. 'Bach o hwne' a'r llall yn yr Eisteddfod!

    Ydi mae Morgan Elwy wrth ei fodd yn cael perfformio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd eto!

    View more on twitter
  12. O steddfod i steddfod...

    Asgwrn cefn yr Eisteddfod - diolch byth fod y delyn wedi'i gorchuddio rhag y glaw!

    Telyn
  13. Urdd: Dim defnyddio seddi ar oleddf

    Brynhawn Llun fe ddywedodd llefarydd ar ran yr Urdd eu bod wedi cael gwybod yn hwyr brynhawn Gwener nad oes modd defnyddio seddi ar oleddf yn y tri phafiliwn.

    "Yn dilyn digwyddiad cyhoeddus yn Llundain wythnos diwethaf ble cwympodd eisteddle, cawsom wybod yn hwyr dydd Gwener 27 Mai 2022 gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch nad oes modd defnyddio seddau sydd ar oleddf gan ein contractwyr - Austin Lewis Ltd, yn ein tri phafiliwn yn Eisteddfod yr Urdd hyd nes y clywir yn wahanol," medd datganiad.

    "Diogelwch ein teuluoedd sy'n ymweld â’r Eisteddfod yw ein blaenoriaeth.

    "Fe fyddwn yn sicrhau fod holl gefnogwyr yn cael mwynhau'r cystadlu ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra sydd tu hwnt i’n rheolaeth."

    pafiliwn
  14. Ymwelwyr wedi heidio'n ôl i'r Maes

    Ar ôl dwy Eisteddfod rithwir mae yna dorf ar y maes unwaith eto - mae'n argoeli i fod yn Eisteddfod lwyddiannus.

    Torf ar y Maes
  15. Bws gwennol rhwng Dinbych a Maes yr Eisteddfod

    Cyngor Sir Ddinbych

    Os nad yn gyrru i’r maes mae modd mynd ar fws wennol o Ddinbych.

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi trefnu gwasanaeth bws wennol i gludo pobl sy’n parcio yng nghanol tref Dinbych draw i Faes Eisteddfod yr Urdd, yn rhad ac am ddim.

    Mae’r gwasanaeth bws yn ychwanegol at y maes parcio swyddogol a drefnir gan yr Urdd ger y Maes ar Ffordd yr Eglwys Newydd, tuag at gyfeiriad Llandyrnog.

    Bydd y gwasanaeth bws yn rhedeg o ddydd Llun, 30 Mai tan ddydd Sadwrn, 4 Mehefin gan ddechrau ym Mhwll y Grawys, Dinbych am 08.15 a bydd yn gweithredu bob hanner awr, gan deithio ar hyd Stryd y Dyffryn a Ffordd Rhuthun i’r Maes a galw ym mhob safle bws ar hyd y ffordd.

    Bydd y bws olaf yn gadael Pwll y Grawys am 18.45 ar y dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher.

    Bydd bysys ychwanegol yn gweithredu ar y dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn, er mwyn cludo pobl fydd yn dymuno mynychu Gwyl Triban ar y Maes.

    Bydd y bws olaf yn gadael Pwll y Grawys am 20.15. Bydd y bws olaf a drefnwyd yn gadael y Maes ar y dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher am 1900, a gadael am 22.30 ar y dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn.

    Maes
  16. Yr Eisteddfod yw'r lle gorau i gael gwersi!

    Mm y sielo bach yn fawr?

    Mae Dylan, o Lanconwy, yn cael gwersi sielo gan ei dad Simon yn yr Arddorfa.

    Dylan
  17. Sut i leihau eich ôl troed carbon ar y Maes?

    Mae'r Urdd yn annog pobl i geisio lleihau eu ôl-troed carbon wrth ddychwelyd i'r Maes yr wythnos hon.

    Faint o'r camau canlynol fyddwch chi'n eu cymryd?

    1. Rhannwch geir os yn gyrru i'r Maes;
    2. Dewch â photel ddŵr a chwpan te neu goffi i'w hail-lenwi;
    3. Dewch â'ch bag siopa eich hun;
    4. Byddwch yn ddoeth wrth gymryd nwyddau plastig a balŵns heliwm sy'n cael eu cynnig am ddim;
    5. Defnyddiwch y biniau ailgylchu cywir;
    6. Ail-ddefnyddiwch wydrau plastig aml-ddefnydd.
    View more on twitter
  18. Oes gennych chi lun efo Mistar Urdd eto?

    Dydy Eisteddfod yr Urdd ddim yn Eisteddfod yr Urdd heb lun gyda Mistar Urdd. Un i'r albwm luniau i Joshua a Lauren o Ddinbych!

    Llun efo Mistar Urdd
  19. Eisteddfod y dyfodol?

    I ffwrdd o'r glaw, roedd Madog o Benarth yn mwynhau yn y Gwyddonle - tybed beth oedd ar y sgrin?

    Bachgen yn y gwyddonle