a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Mae pawb yn joio ar y maes!

    Eisteddfod

    Mae'r Eisteddfod i bawb!

    Dywed y trefnwyr bod ddoe wedi bod yn ddiwrnod hynod o brysur wrth i'r torfeydd heidio i Ddinbych.

    hen wr
  2. Cyflwyno medal er cof am y diweddar Athro Bobi Jones

    Yn ogystal â Medal y Dysgwyr fe fydd Medal Bobi Jones yn cael ei chyflwyno heddiw hefyd.

    Mae Medal Bobi Jones yn fedal gymharol newydd ac mae'n cael ei rhoi i ddysgwyr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd.

    Cafodd ei rhoi gyntaf yn 2019.

    Mae’r fedal yma yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy’n gallu dangos sut mae ef neu hi yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu’r gwaith ac yn gymdeithasol.

    Noddir y seremoni a Medal Bobi Jones gan Brifysgol Caerdydd.

    Mae'r fedal yn cael ei rhoi er cof am y diweddar Athro Bobi Jones - cyn Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac un a wnaeth gymaint i hybu dysgwyr.

    Bobi Jones
    Image caption: Mae'r fedal yn cael ei rhoi er cof am y diweddar Bobi Jones
  3. Mae'n amser cinio!

    Mae'r stondinau bwyd yn prysuro, er, dydy hi ddim mor brysur â ddoe.

    Ydy pawb wedi dychryn o weld ciwiau dydd Llun, tybed?

    Ardal fwyd a llawer o bobl
  4. Llefarwyr o fri

    Eisteddfod yr Urdd

    Awen o Ysgol Glanrafon oedd y llefarydd buddugol i flynyddoedd 5 a 6.

    Roedd Siân-Elin o Ysgol Rhys Prichard yn ail ac yn drydydd yr oedd Taliesin o Ysgol Gynradd Llannon, Llanelli.

  5. Codi bawd ar Mistar Urdd yn 'Steddfod gyntaf Sion Elis

    Cafodd Sion Elis, 2 oed o Sir Fôn 'Steddfod gyntaf i'w chofio.

    Fe gododd Mistar Urdd ei law arno, ac fe gododd Sion bach ei fawd yn ôl!

    Video content

    Video caption: Sion Elis, 2 oed, aeth i'w Eisteddfod gyntaf
  6. Mae'n hynod o gyffrous wrth y llwyfan canlyniadau ...

    Mari Lovgreen

    Mae'r llwyfan canlyniadau yn fan poblogaidd ac yn llawn tensiwn... - ond mae 'na gryn ddathlu wedi i'r canlyniad gael ei gyhoeddi.

    dathlu
    Disgyblion Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn Y Barri yn hynod hapus wedi eu llwyddiant
    Image caption: Disgyblion Ysgol Gymraeg Sant Baruc yn Y Barri yn hynod hapus wedi eu llwyddiant
  7. Oes yna goch yn y triban mawr ar ochr y bryn?

    Yn gynharach ym mis Mai fe wnaeth triban mawr ymddangos ar ochr bryn sy'n edrych dros dref Dinbych i dynnu sylw at yr ŵyl.

    Mi gafodd y triongl sy'n mesur 160 metr o hyd a 60 metr o led ei adeiladu gan dîm o wirfoddolwyr, dan arweiniad Bryan Jones a Cledwyn Jones.

    Mae'r triban wedi ennyn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai yn holi lle mae'r lliw coch.

    "Mae yna goch yna," meddai Bryan Jones, un o’r rhai sy’n gyfrifol amdano "ond efallai nad ydi o mor glir â hynny o bellter."

    triban
  8. Eluned Morgan yn diolch i'r Urdd am ganrif o gyfleoedd

    Wrth siarad yng Nghynadledd y Wasg, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ddiolch i'r Urdd am roi cyfleoedd "unigryw" i blant a phobl ifanc dros y ganrif ddiwethaf.

    Fe gyfeiriodd hefyd at ddatblygiad Prosiect Lles yr Urdd gafodd ei gyhoeddi yn gynharach ddydd Mawrth, sef pecyn o adnoddau i ysgolion uwchradd sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles, hiliaeth, anabledd, ffitrwydd, gwirfoddoli a bwyta’n iach.

    "Beth y'n ni'n gwybod yw o ran iechyd meddwl, mae'n bwysig ein bod ni'n cael cyfle i ymgysylltu â'n gilydd," dywedodd.

    "O'dd lot fawr o bobl wedi cael cyfnodau heriol gyda'u hiechyd meddwl yn ystod y pandemig ac mae plant ifanc hefyd gyda lot o bwysau arnyn nhw.

    "Mae'n bwysig ein bod ni felly yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw."

    Video content

    Video caption: Eluned Morgan yn siarad yn y Gynhadledd i'r Wasg
  9. Parti Cwmafan wrth eu bodd!

    dathlu

    Parti Cwmafan a gipiodd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth i Barti Unsain Bl.6 ac iau (Dysgwyr) ac roedden nhw wrth eu bodd.

  10. 'Safon anhygoel o uchel i'r cyflwyniadau dramatig'

    Wrth gyhoeddi canlyniad cystadleuaeth Cyflwyniad Dramatig Bl. 6 ac iau dywedodd Mari Lovgreen bod y beirniaid wedi'u plesio'n fawr.

    Ac fel hyn aeth hi:

    1. Ysgol Gymraeg Sant Baruc
    2. Adran Bro Taf
    3. Ysgol Gymraeg y Trallwng

    Llongyfarchiadau mawr!

    Video content

    Video caption: Cyhoeddi canlyniad y cyflwyniad dramatig
  11. 'Fi'n rili hapus fi wedi ennill'

    Roedd Gwennan o Ysgol Bro Teifi yn hapus iawn mai hi enillodd cystadleuaeth yr unawd Bl. 5 a 6 - fe gafodd hi lwyddiant ddoe hefyd yn canu'r delyn.

    Cian o Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd oedd yn ail a Beatrice o Ysgol Twm o'r Nant yn drydydd.

    Mae Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth ymhlith y rhai sy'n cynnig gwasanaeth piano ar y maes ac yn gynharach bu Ysgol Llanbrynmair yn manteisio ar y gwasanaeth ym mhafiliwn Prifysgol Aberystwyth.

    Llanbrynmair
  12. Cwis: Pryd ymwelodd yr Eisteddfod yr Urdd â Dinbych olaf?

    Wel yn 2006 ac enillydd y gadair oedd Eurig Salisbury.

    Fe eleni a Peredur Lynch yw beirniaid cystadleuaeth y gadair.

    Yn 2004 roedd Eurig yn ail am y gadair ac un o'i ddisgyblion cynganeddol a enillodd - Hywel Griffiths.

    Eurig
    Image caption: Eurig Salisbury enillodd y gadair y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â 'r ardal yn 2006
  13. Atgofion o ennill Medal y Dysgwyr yn 2019 yn 'emosiynol a bythgofiadwy'

    Francesca Sciarillo o'r Wyddgrug oedd enillydd Medal y Dysgwyr, Eisteddfod yr Urdd 2019.

    Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Mawrth, dywedodd bod y wobr wedi "newid ei bywyd".

    "I fi, yn tyfu i fyny, ro'n i wastad yn gweld yr Eisteddfod yn mynd ymlaen ac ro'n i isio cymryd rhan, ac ro'n i'n teimlo am mai dysgwr ydw i mai'r peth mwyaf Cymraeg mewn ffordd ydi cystadlu yn yr Eisteddfod.

    "Byddaf yn gallu ystyried fy hun fel siaradwr Cymraeg yn lle dysgwr Cymraeg os ydw i'n mynd i'r Eisteddfod ac ymgolli fy hun yn y profiad.

    "Mi wnaeth o newid fy mywyd a dwi mor ddiolchgar amdano."

    Bydd enillydd y fedal eleni yn cael ei ddatgelu yn ddiweddarach ddydd Mawrth, wrth i'r cystadleuwyr barhau i gael eu hasesu yn ystod y dydd.

    Francesca Sciarrillo
    Image caption: Francesca oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn 2019
  14. Trio pob math o driciau ar y maes

    Mae Lleucu o Ruthun yn barod i ymuno â’r syrcas ar ôl cael tro ar wahanol driciau yn Nhipi Comisiynydd Plant Cymru.

    Lleucu o Ruthun ar olwynion
  15. Rhywun yn cofio pwy enillodd cadair Eisteddfod yr Urdd yn 1962?

    Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Mae'r ateb gan y Llyfrgell Genedlaethol!

    View more on twitter
  16. Canlyniadau cynta'r dydd ...

    Eisteddfod yr Urdd

    Enillwyr y Parti Unsain i Flwyddyn 6 ac iau (Dysgwyr) oedd Parti Cwmafan, roedd Parti Padarn yn ail a Pharti Unsain Penygloddfa yn drydydd.

    Roedd yna gryn ddathlu ymhlith aelodau Adran Bro Alaw, Ynys Môn hefyd - nhw enillodd y gystadleuaeth i'r Grŵp Cerddoriaeth Greadigol Bl. 6 ac iau, roedd Grŵp Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd yn ail a Grŵp Ysgol Santes Helen, Caernarfon yn drydydd.

  17. Digon o le i'r dorf

    Yn dilyn trafferthion ddydd Llun gyda seddi'r tri phafiliwn, mae 'na ddigon o le yno heddiw.

    Mae'r Pafiliwn Gwyn yn prysur lenwi wrth i gystadlaethau'r Ddawns Greadigol Bl.6 ac Iau a'r unawd llinynnol ddenu'r dorf.

    Mae 'na ambell sedd sbâr hefyd!

    Pafiliwn Gwyn yn llawn
  18. Eisteddfodwr mwyaf poblogaidd y maes?

    Bydd 'na blant gwyllt ar y maes heddiw... mae'r candi-fflos wedi cyrraedd.

    Byddwch yn barod, rieni!

    Dynes yn cario candi-fflos ar y maes
  19. Eryri ac Ynys Môn ar y blaen - hyd yma!

    Wedi'r cystadlu ddydd Llun rhanbarthau Eryri ac Ynys Môn sydd ar y blaen o ran y medalau - ond fe all y sefyllfa newid heddiw.

    Mae canlyniadau'r dydd i'w gweld ar ap yr Eisteddfod.

    View more on twitter