a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Oes lle am gystadleuaeth fach arall?

    Mae Iago o Ruthun yn cynnal sioe ei hun tu allan y Pafiliwn Coch! Petai 'na gystadleuaeth dringo polyn, byddai'n siŵr o ennill y wobr gyntaf.

    Iago yn dringo polyn
  2. Merched y Wawr – falch bo' ni wedi dod o hyd i’r tebot!

    Mae’n braf bod nôl, meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr.

    “Dydyn ni ddim wedi cael Eisteddfod, wrth gwrs, ers 2019 a wir i chi ro’dd y tebot ar goll.

    “Mae mor braf cael cyfarfod wyneb yn wyneb â phawb eto a’i bod yn ddiogel i wneud hynny.

    “Mae yna groeso cynnes i bawb yn stondin Merched y Wawr.”

    tebot
    Image caption: Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr a'r tebot coll!
  3. Barod am bob tywydd!

    Dyw'r cymylau 'na ddim am stopio Awen, Tegid a Cadog o Gaerdydd rhag cael diwrnod i'w gofio ar y maes.

    Awen, Tegid a Cadog mewn gwisgoedd gwrth-ddwr
  4. 'Am i’r Urdd fod ar gael i bawb'

    Gydag ystadegau yn dangos fod 1 o bob 5 disgybl yng Nghymru yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim dywed prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, bod y mudiad “am sicrhau fod plant a phobl ifanc o bob cefndir cymdeithasol yn cael cynnig gwasanaethau’r Urdd”.

    “Mae’r mudiad yn chwilio’n barhaus am ddulliau arloesol i sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru, beth bynnag fo’u cefndir, yn cael manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy’r Urdd.”

    Y llynedd fe wnaeth yr Urdd gynnig aelodaeth blwyddyn i blant ysgol o gefndiroedd difreintiedig am £1.

    Sian Lewis
  5. Gwyliau am ddim i deuluoedd difreintiedig

    Fore Mawrth fe gyhoeddodd yr Urdd bod cyfle i 200 o blant a phobl ifanc o deuluoedd difreintiedig fwynhau gwyliau am ddim yn unrhyw un o Wersylloedd Haf yr Urdd eleni, diolch i gefnogaeth a haelioni cefnogwyr yr Urdd.

    Sefydlwyd Cronfa Cyfle i Bawb gan yr Urdd yn 2018, er mwyn rhoi’r cyfle i bob plentyn yng Nghymru i fwynhau gwyliau yn un o wersylloedd haf yr Urdd, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau ariannol.

    Cynhelir cyrsiau i bob grŵp oedran yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd yn ystod gwyliau’r haf eleni.

    Yn ogystal â thalu am drafnidiaeth, llety, a bwyd i blentyn neu berson ifanc, mae’r Gronfa yn talu am hyd at 35 o weithgareddau cyffrous, gan gynnwys canŵio, rafftio, weiren zip, beiciau modur, sgïo, nofio, canu a dawnsio, heb sôn am y cyfle i wneud ffrindiau newydd a chreu atgofion oes.

    Mae modd i rieni neu athrawon fel ei gilydd wneud cais i’r Gronfa ar ran plentyn neu berson ifanc sy’n dod o gefndir incwm isel drwy wefan yr Urdd: urdd.cymru/cronfa.

    Glan-llyn
  6. Awyr las ar y ffordd a digon o weithgareddau

    Mae Mistar Urdd yn ffyddiog bod awyr las ar y ffordd

    Tri pheth i’w wneud heddiw!

    1. Ym Mhentref Mr Urdd fe fydd ‘na weithdy perfformio stryd am 11 - a bydd cyfle i weld eu perfformiadau ‘pop up’ lliwgar o gwmpas y maes.
    2. ‘Bach o hwne’ – enillydd Cân i Gymru Morgan Elwy fydd ym mhabell y dysgwyr am 2.
    3. Ac yn ystod y dydd bydd y cogydd a'r cyflwynydd Beca Lyne-Pirkis yn beirniadu y gystadleuaeth Cogurdd.
    Mistar Urdd
  7. Cyffro'r Eisteddfod ar Radio Cymru

    BBC Radio Cymru

    Mae Ffion Emyr wrth ei bodd yn yr Eisteddfod - ac mae hi fel gohebwyr Cymru Fyw yn crwydro'r maes ac yn rhoi blas i chi o'r arlwy ar raglenni Radio Cymru.

    Mae'r prif gystadlaethau hefyd i'w clywed ar raglenni'r dydd.

    Radio Cymru
  8. 185 awr o ddarlledu ar S4C

    Mae prif weithredwr S4C, Sian Doyle hefyd yn dweud gair yn y gynhadledd gan ganmol y bartneriaeth gyda'r Urdd.

    Bydd hynny'n cynnwys darlledu 185 awr ar draws eu platfformau o'r Eisteddfod yr wythnos yma.

    "'Dyn ni'n ddiolchgar am y bartneriaeth ac yn edrych ymlaen at y cynnwys dros y ddwy, dair blynedd nesaf wrth i ni helpu'r Gymraeg," meddai.

    Sian Doyle
  9. Adnoddau i ysgolion i helpu gyda iechyd meddwl, ffitrwydd a hiliaeth

    Heddiw, mae'r Urdd yn cyhoeddi pecyn o adnoddau i ysgolion uwchradd sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles, hiliaeth, anabledd, ffitrwydd, gwirfoddoli a bwyta’n iach.

    Mae’r adnoddau wedi’u creu gan yr Urdd, Chwaraeon Anabledd Cymru, Dangos Cerdyn Coch i Hiliaeth ac arbenigwyr yn y maes gyda chefnogaeth gan y Llywodraeth.

    Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

    “Beth y'n ni'n ymwybodol ohono yw bod nifer o bobl ifanc erbyn heddi yn dioddef o broblemau iechyd meddwl a ni'n gw'bod bod chwaraeon yn helpu gyda hynny.

    "Hoffen i dalu teyrnged [i’r Urdd] am yr holl waith dros y can mlynedd diwethaf, ond yn sicr am y gwaith anhygoel yn ystod y pandemig, maen nhw wedi codi i’r sialens ac wedi neud gwaith anhygoel ac erbyn heddi mae clybiau maen nhw yn rhedeg wedi ailagor - 300 o glybiau a 11,000 o blant."

    Plant yn chwarae pel-droed
    Eluned Morgan
    Image caption: Eluned Morgan yn rhoi mwy o fanylion am y cynllun yn y gynhadledd i'r wasg
  10. 'Anrhydedd o'r mwyaf, ond gwneud i mi deimlo'n hen!'

    Y cyfansoddwr a'r cerddor, Robat Arwyn, yw Llywydd y Dydd ddydd Mawrth.

    Dywedodd ei fod yn "falch ofnadwy o’r cyfle i gydnabod rhan yr Urdd yn fy natblygiad fel cyfansoddwr".

    Mae Robat wedi ennill y Fedal Gyfansoddi ddwywaith ym 1983 a 1984, wedi ysgrifennu sioeau cerdd ac mae'n gyfarwydd iawn gyda gweld a chlywed ei ganeuon yn ymddangos o flwyddyn i flwyddyn yn y rhestr testunau.

    Ond, dywedodd ei fod yn gwneud iddo deimlo'n hen!

    Robat Arwyn
  11. Problem seddi wedi cael ei datrys

    Mae Siân Eirian hefyd wedi cadarnhau bod y broblem gyda seddi yn y pafiliynau bellach wedi ei datrys.

    Roedd dros 1,000 o seddi ddim ar gael i'w defnyddio ddoe oherwydd problem iechyd a diogelwch gyda'r rhai yng nghefn y pafiliynau oedd ar sgaffaldiau.

    seti steddfod
  12. Diwrnod prysuraf erioed?

    Mae Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, yn agor cynhadledd y wasg ddydd Mawrth gan ddweud eu bod nhw'n credu mai ddoe oedd y "dydd Llun prysuraf i ni gael erioed yn Eisteddfod yr Urdd".

    Mae hi hefyd yn canmol enillydd ieuengaf erioed un o brif gystadlaethau'r Urdd - Shuchen Xie, 12, wnaeth gipio'r Fedal Gyfansoddi ddoe.

    cyfansoddwr
  13. Wedi misoedd o ymarfer...

    Mae Anest o Bontsenni yn cael cyfle am un ymarfer bach sydyn cyn cystadlu yn yr unawd blwyddyn 5 a 6.

    Dyna'r gystadleuaeth gyntaf yn y Pafiliwn Coch ddydd Mawrth.

    Anest yn ymarfer ger y piano
  14. Gobeithion y bydd y broblem seddi yn cael ei datrys heddiw

    Does dim rhagbrofion eleni - yn hytrach, mae pob un o'r cystadleuwyr sydd wedi llwyddo yn yr eisteddfodau cylch a sir yn cael perfformio ar un o dri llwyfan ar y maes - yn hytrach na'r un prif bafiliwn arferol.

    Ond mae dros 1,000 o seddi ym mhafiliynau Eisteddfod yr Urdd - hanner y capasiti - wedi gorfod cael eu cau oherwydd problem iechyd a diogelwch.

    Cafodd y mudiad wybod ddiwedd wythnos ddiwethaf bod yr holl seddi ar oledd yn y tri phafiliwn ddim yn saff i'w defnyddio.

    Daw hynny yn dilyn problem gydag eisteddle mewn digwyddiad gafodd ei osod gan yr un contractwyr sy'n darparu seddi'r eisteddfod.

    Dywedodd yr Urdd eu bod yn "ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra", a wnaeth arwain at gannoedd yn ciwio y tu allan yn ystod y dydd.

    Ar Dros Frecwast dywedodd y prif weithredwr Sian Lewis ei bod yn gobeithio y bydd y broblem yn cael ei datrys heddiw.

    “Yn sicr mae’r broblem allan o’n dwylo ni. Fe gafon ni nifer fawr o drafodaethau ddoe efo HSC sydd yn rheoli yr holl ddigwyddiad o’r ochr yna.

    "Dwi’n hyderus y bydd y broblem wedi ei datrys.

    "Mae’n bwysig nodi hefyd nad oedd dim un person wedi colli allan ar weld eu plant a phobl ifanc yn cystadlu ac o gael y cyffro yna a’r mwynhad.

    "Felly yn sicr 'dan ni yn gobeithio erbyn heddi y bydd y broblem wedi ei datrys. Byddwn ni yn cael diweddariad yn fuan."

    Video content

    Video caption: Does dim modd eistedd ar y seddi sydd ar oleddf yn sgil problem iechyd a diogelwch
  15. Mae'r cystadlu wedi dechrau

    Plant hŷn yr ysgolion cynradd fydd wrthi ddydd Mawrth.

    Mae unawdau blwyddyn 5 a 6 wedi dechrau yn y Pafiliwn Coch a'r cyflwyniadau dramatig yn eu hanterth yn y Pafiliwn Gwyrdd.

    Bydd 'na sawl cyfle am hoe ac ychydig o gerddoriaeth gyda'r unawd llinynnol Bl.6 ac iau am 11:40 yn y Pafiliwn Gwyn a'r unawd pres am 14:45 yn y Pafiliwn Coch.

    Y corau a'r caneuon actol fydd yn cloi'r dydd.

    Cofiwch, gallwch chi ddod o hyd i restr lawn o'r holl gystadlaethau ar ap Eisteddfod yr Urdd.

    Video content

    Video caption: Y Pafiliwn Coch yn agor yn yr Eisteddfod
  16. Bws gwennol rhwng Dinbych a Maes yr Eisteddfod

    Os nad yn gyrru i’r maes mae modd mynd ar fws wennol o Ddinbych.

    Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi trefnu gwasanaeth bws wennol i gludo pobl sy’n parcio yng nghanol tref Dinbych draw i Faes Eisteddfod yr Urdd, yn rhad ac am ddim.

    Mae’r gwasanaeth bws yn ychwanegol at y maes parcio swyddogol a drefnir gan yr Urdd ger y Maes ar Ffordd yr Eglwys Newydd, tuag at gyfeiriad Llandyrnog.

    Bydd y gwasanaeth bws yn rhedeg o ddydd Llun, 30 Mai tan ddydd Sadwrn, 4 Mehefin gan ddechrau ym Mhwll y Grawys, Dinbych am 08.15 a bydd yn gweithredu bob hanner awr, gan deithio ar hyd Stryd y Dyffryn a Ffordd Rhuthun i’r Maes a galw ym mhob safle bws ar hyd y ffordd.

    Bydd y bws olaf yn gadael Pwll y Grawys am 18.45 ar y dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher.

    Bydd bysys ychwanegol yn gweithredu ar y dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn, er mwyn cludo pobl fydd yn dymuno mynychu Gwyl Triban ar y Maes.

    Bydd y bws olaf yn gadael Pwll y Grawys am 20.15. Bydd y bws olaf a drefnwyd yn gadael y Maes ar y dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher am 1900, a gadael am 22.30 ar y dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn.

    maes yr eisteddfod
  17. Oes mae'n rhaid cael paned ben bore!

    lle coffi

    Roedd hi braidd yn lawog ben bore ond mae tywydd gwell i ddod.

    Mae'n rhaid cael paned yn does wedi cyrraedd y maes ac roedd y stondin hon yn hynod boblogaidd!

    glaw
  18. Croeso i ddydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd

    Croeso i ail ddiwrnod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych 2022.

    Roedd diwrnod cyntaf yr eisteddfod yn hynod lwyddiannus gyda sawl elfen newydd wedi’i chyflwyno yn sgil eu llwyddiant yn yr Eisteddfod-T yn ystod y pandemig.

    Blynyddoedd hŷn yr Ysgol Gynradd fydd yn cystadlu heddiw ac mae’n ddiwrnod cyflwyno Medal y Dysgwyr.

    Mae gohebwyr Cymru Fyw yn parhau ar y maes.

    Arhoswch gyda ni i gael y diweddaraf.

    hetiau
    Image caption: A hithau'n ddiwrnod glawog ddydd Llun roedd nifer yn genfigennus o hetiau Lisa Jones a Lowri Carlisle