Crynodeb

  • Cyffro ar draws Cymru wrth i'r tîm cenedlaethol drechu Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd

  • Bydd Cymru yn yr un grŵp â Lloegr, UDA ac Iran

  • Mae trechu Wcráin yn golygu "mwy i Gymru 'na dim ond pêl-droed"

  • Cic rydd gan Bale a pheniad i'w rwyd ei hun gan Yarmolenko yn rhoi Cymru ar y blaen

  • 100 tocyn am ddim i ffoaduriaid Wcráin

  1. 'Rhaid rhoi emosiynau o'r neilltu heno'wedi ei gyhoeddi 15:26 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2022

    Mae Wcráin yn dîm cryf a byddai buddugoliaeth heno yn un arwyddocaol.

    Oleksandr Zinchenko o Manchester City yw'r seren amlycaf, ac ar ôl ennill Cynghrair Lloegr rai wythnosau yn ôl cafodd lluniau ohono yn dathlu gyda baner Wcráin eu gweld ar draws y byd.

    Ar ôl buddugoliaeth Wcráin yn erbyn yr Alban nos Fawrth, roedd straeon am filwyr ar y rheng flaen yn mwynhau eiliad o ddathlu yng nghanol erchylltra’r rhyfel.

    Mae rheolwr Cymru, Robert Page, wedi galw ar Gymru i wahanu'r emosiynau o'r achlysur a chanolbwyntio ar bêl droed yn unig am 90 munud.

    oleksandrFfynhonnell y llun, Getty
  2. Cyffro a nerfusrwydd cyn un o'r gemau mwya' erioedwedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2022

    Ydi mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd - ac mae cefnogwyr ar draws Cymru yn llawn cyffro a nerfusrwydd wrth i'r tîm pêl-droed cenedlaethol wynebu un o'r gemau mwya' erioed.

    Arhoswch gyda ni i gael y diweddara'.

    stadiwmFfynhonnell y llun, Getty Images