Diwrnod hanesyddol yn hanes Cymru wrth i dîm Rob Page sicrhau eu lle yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn Qatar.
Darllenwch yr adroddiad yma https://bbc.in/3xkDl8w
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Braidd yn wlyb ond mae Cymru wedi ennill!!!
Taith i Qatar yw'r wobr ond ...
Taith i Qatar yw'r wobr i Gymru ond mae'n sicr y bydd tipyn o drafod a gofyn cwestiynau cyn gwneud y daith.
Mae’r wlad yn adeiladu saith stadiwm, maes
awyr, system metro a ffyrdd newydd ar gyfer pedair wythnos o gystadlu ond mae'r paratoadau
ar gyfer y bencampwriaeth wedi’u cymylu yn sgil honiadau am gaethwasiaeth fodern.
Mae yna gwestiynau hefyd a fydd y wlad yn gyfeillgar i bobl LHDTC+
Dyma fel oedd hi yn Nhafarn yr Eryrod yn Llanuwchllyn
Y cefnogwyr wrth eu boddau!
Sefyll gyda'n gilydd!
Llywodraeth Cymru
Dyma neges gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn dilyn y chwiban olaf.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Mae Cymru ar ei ffordd i Qatar!
BBC Cymru Fyw
Diolch i chi gyd am ddilyn y llif byw heddiw.
Diwrnod hanesyddol yn hanes Cymru wrth i dîm Rob Page sicrhau eu lle yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd yn Qatar.
Darllenwch yr adroddiad yma https://bbc.in/3xkDl8w
Braidd yn wlyb ond mae Cymru wedi ennill!!!
Taith i Qatar yw'r wobr ond ...
Taith i Qatar yw'r wobr i Gymru ond mae'n sicr y bydd tipyn o drafod a gofyn cwestiynau cyn gwneud y daith.
Mae’r wlad yn adeiladu saith stadiwm, maes awyr, system metro a ffyrdd newydd ar gyfer pedair wythnos o gystadlu ond mae'r paratoadau ar gyfer y bencampwriaeth wedi’u cymylu yn sgil honiadau am gaethwasiaeth fodern.
Mae yna gwestiynau hefyd a fydd y wlad yn gyfeillgar i bobl LHDTC+
Dyma fel oedd hi yn Nhafarn yr Eryrod yn Llanuwchllyn
Y cefnogwyr wrth eu boddau!
Sefyll gyda'n gilydd!
Llywodraeth Cymru
Dyma neges gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn dilyn y chwiban olaf.
'Yma o Hyd' gyda Dafydd Iwan, Bale a Ramsey!
Mae'r parti yn parhau yn Stadiwm Dinas Caerdydd - a Dafydd Iwan wedi ail-ddechrau canu Yma o Hyd.
Golygfeydd rhyfeddol wrth i garfan Cymru gyfrannu'r lleisiau cefndir.
Edrych ymlaen i Qatar
Dyma ni,
Mae Grŵp B wedi'i gwblhau, dyma pwy fydd gwrthwynebwyr Cymru yn Qatar ym mis Tachwedd.
Heno yn wlad wahanol!
Dyma ymateb y bardd Mei Mac ar Twitter:
Mae fy ngwlad fach eithriadol - a’i wal goch
o liw gwaed arwrol,
un ac oll, yn sgil un gôl
heno yn wlad wahanol.
Diwrnod bythgofiadwy
Dylan Griffiths
Chwaraeon BBC Cymru
Golygfeydd anhygoel yng Nghaerdydd
BBC Cymru Fyw
Ar ddiwedd y gêm mae chwaraewyr Cymru yn gwneud eu ffordd tuag at gefnogwyr Wcráin ac yn eu cymeradwyo.
Mae cefnogwyr Wcráin yn cymeradwyo yn ôl.
Golygfeydd hyfryd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
64 mlynedd yn ddiweddarach
BBC Cymru Fyw
64 mlynedd ers i Cymru gyrraedd Cwpan y Byd.
Ond nawr, mae Cymru ar ei ffordd i Qatar wedi buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Wcràin.
Mae hyn yn rhyfeddol!
Creu Hanes!!!!
Cymru 1-0 Wcráin
Cerdyn melyn
Cerdyn Melyn
Mudryk yn gweld y garden felen am dacl hwyr ar Ampadu.
Mae'r cloc yn tician i lawr ....
Neco annwyl
Eilyddio
Neco Williams yn gadael y maes gyda llai na thri munud yn weddill a Rhys Norrington-Davies sy'n camu ymlaen am y munudau olaf.
Pum munud!
BBC Cymru Fyw
Pum munud wedi'i ychwanegu at ddiwedd y gêm!
Pum munud rhwng Cymru a Qatar!
Un ymdrech arall!
Iwan Roberts
Cyn-ymosodwr Cymru
"Un ymdrech arall gan bawb o'r tîm" medd Iwan Roberts
Llai na munud o'r 90 sydd ar ôl!
Amddiffyn arwrol!
Mae Wayne Hennessey wedi cael gêm wych ac mae newydd arbed Cymru eto!
Ar ôl cymaint o drafod am bwy ddylai gychwyn rhwng y pyst, fe fydd Robert Page yn falch iawn o berfformiad y gŵr o Ynys Môn hyd yma.
Ond cofiwch, gall hon dal fynd i amser ychwanegol a chiciau o'r smotyn...
Bale i ffwrdd, Wilson ymlaen
Eilyddio
'Viva Gareth Bale' meddai'r dorf.
Mae Gareth Bale wedi camu i ffwrdd o'r maes ac mae Harry Wilson ymlaen am yr wyth munud olaf.
10 munud anferthol!!!
BBC Cymru Fyw
Mae nerfau pawb yn rhacs yma yn swyddfa Cymru Fyw, Arhoswch hefo ni, arhoswch gyda'r tîm.
10 munud i fynd!!!!!!!