Crynodeb

  • Charles III wedi gwneud ei ymweliad cyntaf â Chymru fel Brenin, gyda'r Frenhines Gydweddog Camilla

  • Bu'r ddau yn mynychu gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf, cyn i'r Brenin gwrdd â'r dorf tu allan

  • Ar ymweliad â Bae Caerdydd bu'n annerch y Senedd yn Gymraeg wrth dderbyn Cynnig o Gydymdeimlad

  • Bu'r pâr Brenhinol yn cwrdd â'r dorf eto yn dilyn derbyniad yng Nghastell Caerdydd

  • Roedd torf fawr oedd yn gefnogol wedi ymgasglu tu allan, ond protestwyr yno hefyd

  • Daw wedi marwolaeth Brenhines Elizabeth II yn 96 oed

  1. Protest dawel yn erbyn y Frenhiniaeth ger y castellwedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Protest

    Mae protest yn erbyn y Frenhiniaeth hefyd wedi ei threfnu yn ardal Castell Caerdydd yn ystod ymweliad y Brenin.

    Trefnydd y "brotest dawel" ger Castell Caerdydd ydy cyn-AS Plaid Cymru, Bethan Sayed.

    Dywedodd: "Mae pobl yn dweud wrthym nad nawr yw'r amser i drafod y mater hwn, fodd bynnag, pan fydd y Frenhiniaeth yn trosglwyddo i Frenin newydd, nawr yw'r union amser i drafod y mater hwn.

    "Mae'n ymwneud â thegwch, cydraddoldeb, a'r Gymru yr ydym am ei llunio ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

    ProtestFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr mudiadau ac elusennau sy'n derbyn nawdd brenhinolwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn y castell mae'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn cwrdd â chynrychiolwyr mudiadau ac elusennau sy'n derbyn nawdd brenhinol ac aelodau cymunedau ffydd.

    Mae Is Arglwydd Raglaw De Morgannwg yn eu cyflwyno i Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Huw Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Dinas Caerdydd, Paul Orders a Rheolwr Castell Caerdydd.

    Yn ystod eu hymweliad mae yna dderbyniad yn y Neuadd Wledda i tua 80 o westeion.

    Y Prif Weinidog sy'n cyflwyno'r gwesteion i’r Brenin a’r Llywydd sy'n gwneud hynny i'r Frenhines Gydweddog yn y Neuadd Wledda.

    brenin
  3. Y dorf yn bloeddio 'God Save The King'wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Wrth i'r Brenin gyrraedd Castell Caerdydd - rhan olaf ei daith, roedd y dyrfa yn bloeddio 'God Save the King'.

    Yn gynharach canwyd yr anthem honno yn Yr Eglwys Gadeiriol - hynny ar ôl yr anthem genedlaethol.

    Disgrifiad,

    Brenin Charles III yn cyrraedd Castell Caerdydd

  4. Y pâr Brenhinol wedi cyrraedd canol y ddinaswedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn dilyn taith fer trwy ganol Caerdydd, mae'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog wedi cyrraedd Castell Caerdydd - lleoliad olaf eu hymweliad yng Nghymru.

    Caerdydd
  5. Y Brenin yn cwrdd â'r dorf tu allan i'r Seneddwedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Fel yn Llandaf, bu'r Brenin yn cwrdd â'r dorf tu allan i'r Senedd am rhyw 10 munud fel rhan o'i ymweliad yno.

    Ond mae'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog bellach ar y ffordd i ganol y ddinas, ble byddan nhw'n mynd i Gastell Caerdydd.

    Charles
    Charles
  6. Band pres a drymiau'n cyrraedd y castellwedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Mae Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol wedi cyrraedd Castell Caerdydd gyda chryn dipyn o sŵn!

    Disgrifiad,

    Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol

  7. Digon o ddefnydd o'r ffoniau symudol heddiw!wedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Wrth i'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog adael Bae Caerdydd roedd y dorf yn ysu i gael llun o'r ddau wrth iddyn nhw siarad â’r cyhoedd.

    torfFfynhonnell y llun, bbc
  8. Y Frenhines Gydweddog yn rhannu cariad Elizabeth II at gorgwnwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Roedd y Frenhines Elizabeth II yn enwog am ei chariad at gorgwn, ac yn amlwg mae'r Frenhines Gydweddog yn rhannu'r cariad hwnnw!

    Roedd corgi ymhlth y dorf fu'n croesawu y pâr Brenhinol yn Llandaf, ac fe wnaeth Camilla ffrindiau gyda'r ci bach.

    Disgrifiad,

    Y Frenhines Gydweddog a'r corgi

  9. Y paratoadau munud olaf yng Nghastell Caerdyddwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    I'r castell fydd y Brenin yn mynd nesaf.

    Mae'r dorf wedi bod yna ers ben bore ac ar hyn o bryd mae'r gwesteion yn cyrraedd - yn eu plith Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.

    Huw Thomas
  10. Adam Price: Diwrnod o alaru heddiw - y sgwrs genedlaethol i ddodwedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Gydol yr wythnos mae cryn drafodaethau wedi bod ar ddyfodol y frenhiniaeth, rôl Tywysog Cymru ac arwisgiad ond diwrnod o alaru yw hwn heddiw, medd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

    Disgrifiad,

    Adam Price: 'Diwrnod o alaru heddiw'

  11. Y Brenin Charles yn annerch y Senedd yn Gymraegwedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn dilyn Cynnig o Gydymdeimlad byr gan y Llywydd Elin Jones a'r Prif Weinidog Mark Drakeford, fe wnaeth y Brenin Charles annerch y Senedd yn Gymraeg.

    "Diolch o galon i chi am eich geiriau caredig," meddai.

    "Gwn y bydd Senedd a phobl Cymru yn rhannu fy nhristwch" am farwolaeth y Frenhines, ychwanegodd, gan ddweud y bu ganddi "le arbennig i Gymru yn ei chalon".

    Disgrifiad,

    Y Brenin Charles III yn ymateb yn y Gymraeg

  12. Arwyddocâd y byrllysgwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn ystod y seremoni agoriadol swyddogol yn Siambr y Senedd mae'r byrllysg seremonïol yn cael ei osod yn ei briod le i nodi Agoriad Swyddogol y Senedd.

    Mae'n bedair troedfedd (1.3m) o hyd wedi’i gerfio â llaw o aur, arian a phres.

    Mae’ n pwyso 4.5kg ac yn anrheg gan lywodraeth New South Wales yn Awstralia. Fe'i cyflwynwyd yn 2006 ac mae’n gofnod o’r 200 mlynedd o hanes sy’n cysylltu Cymru ag Awstralia.

    Cafodd ei greu yn 2002 gan y gof aur o Melbourne, Fortunato Rocca, ac fe gymerodd hi 300 o oriau i’w wneud.

    byrllysgFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  13. 'Anrhydedd mawr' cael cludo'r byrllysgwedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Shahzad Khan, aelod o dîm diogelwch y Senedd, a gafodd ei ddewis i gludo'r byrllysg ar gyfer ymweliad cyntaf y Brenin Charles III â'r Senedd.

    "Mae'n foment ddigalon, ond mae'n fraint hefyd," meddai.

    Dyma’r eildro i Shahzad Khan gyflawni'r ddyletswydd unigryw hon. Ef oedd cludwr y byrllysg yn Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd yn Hydref 2021 hefyd, sef ymweliad olaf y Frenhines â Chymru.

    Cyn y digwyddiad dywedodd: "Roedd yn anrhydedd mawr i mi gludo’r byrllysg pan ymwelodd y Frenhines â'r Senedd y llynedd ac roeddwn i’n methu â chredu’r peth pan ofynnwyd i mi ei wneud eto.

    "Rwy’n cofio’r cyfarfod yn fanwl – roedd yn deimlad anhygoel edrych arni’n dod i mewn i’r ystafell, ac fe allech chi deimlo bod rhywbeth wedi newid yn yr ystafell. Byddaf yn cadw’r atgof hwnnw yn fy nghalon am byth.

    "Byddaf yn cludo’r byrllysg y tro hwn o dan amgylchiadau trist iawn, ond rydw i a fy nheulu yn falch o fy rôl ar yr adeg hanesyddol hon.

    "Bydd yn teimlo'n wahanol iawn y tro hwn gan ei bod hi’n foment mor drist, ond mae hefyd yn fraint cael bod yn rhan o'r broses o drosglwyddo i deyrnasiad y Brenin newydd."

    Shahzad KhanFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  14. Protest fechan tu allan i'r Seneddwedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Wrth i'r Brenin newydd siarad y tu mewn i'r Senedd, mae grŵp bychan o brotestwyr wedi ymgasglu ymhlith y dorf tu allan.

    Maen nhw'n dangos darnau o bapur gyda baner Owain Glyndŵr arnynt, a'r geiriau "Nid fy mrenin".

    Protest Senedd
  15. Y Brenin yn ymateb yn Gymraeg yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn ystod ei ymweliad â'r Senedd fe wnaeth y Brenin siarad yn Gymraeg gan ddweud ei fod ef a'r Tywysog William yn hoff o Gymru.

    Ym Mhrifysgol Aberystwyth y dysgodd y Brenin Charles Gymraeg a hynny pan dreuliodd dymor yn y brifysgol cyn ei Arwisgiad yn 1969.

    Ymhlith y rhai a fu'n ei diwtora roedd y diweddar Tedi Millward - darlithydd Cymraeg a llenyddiaeth ac is-lywydd Plaid Cymru.

    Wyth wythnos ar ôl dechrau yn Aberystwyth trefnwyd fod Charles yn rhoi araith fawr yn Gymraeg yn yr Eisteddfod. Fis ar ôl hynny roedd yn rhoi ei araith yn Gymraeg yn ei Arwisgiad.

    Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth roedd y Charles ifanc yn aros yn Neuadd Pantycelyn.

    Y Brenin Charles ifanc yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Brenin Charles ifanc yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth

  16. Perthynas Cymru a'r Frenhiniaeth 'wedi'i gwreiddio mewn parch'wedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn ei haraith dywedodd Llywydd y Senedd Elin Jones ei bod hi’n gobeithio y bydd y “berthynas fodern rhwng y wlad hon, y Senedd hon, a'r Teulu Brenhinol wedi'i gwreiddio mewn parch”.

    Dywedodd bod y Frenhines, a fynychodd bob un o agoriadau swyddogol y Senedd ers dechrau datganoli yn 1999, “yn parchu’r Senedd hon oherwydd ei bod yn parchu dewisiadau democrataidd pobl Cymru”.

    Mae ymweliad y Brenin yn digwydd ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr – dathliad o’r Cymro diwethaf i fod yn Dywysog Cymru.

    Mae’r orymdaith flynyddol yng Nghorwen i ddathlu’r achlysur wedi ei chanslo heddiw yn sgil marwolaeth y Frenhines.

    Fe gyfeiriodd Ms Jones at Owain Glyndŵr yn ei haraith.

    “O Senedd gyntaf Glyndŵr yn y 15fed ganrif ym Machynlleth i'r un yr ydym wedi ymgasglu ynddi heddiw, mae ein stori’n hen ond mae ein democratiaeth yn ifanc ac yn uchelgeisiol.

    "Fy ngobaith diffuant yw y bydd y berthynas fodern rhwng y wlad hon, y Senedd hon, a'r Teulu Brenhinol wedi'i gwreiddio mewn parch a'i chynnal gan ddealltwriaeth.”

    Fe estynnodd y Llywydd hefyd gydymdeimlad y Senedd i’r Brenin a’i deulu.

    Llywydd
  17. Y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn cyrraedd y Seneddwedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Mae'r pâr brenhinol bellach wedi cyrraedd y Senedd, ble bu'r ddau yn cwrdd â'r Llywydd, y Prif Weinidog ac arweinwyr grwpiau'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

    Disgrifiad,

    Brenin Charles III yn cyrraedd Senedd Cymru

    Disgrifiad,

    Y Brenin Charles III yn cyrraedd y Senedd

  18. Y gyn-Delynores Frenhinol yn chwarae darn gan ei gŵr yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Claire Jones a Chris MarshallFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae’r gerddoriaeth yn orymdaith urddasol a chysegredig sy’n cynrychioli esgyniad y Brenin i’r Orsedd, medd Chris Marshall

    Wrth i'r Brenin a’r Frenhines Gydweddog fynd ar eu taith drwy’r Senedd i glywed cynnig o gydymdeimlad mae'r gyn-Delynores Frenhinol Claire Jones yn chwarae darn wedi’i gyfansoddi’n arbennig i nodi ymweliad cyntaf y Brenin â Chymru.

    Cafodd y darn, sy’n dwyn y teitl “Gorymdaith i’r Brenin Siarl”, ei gyfansoddi gan ŵr Claire, Chris Marshall.

    Yn y Senedd mae'r Brenin a’r Frenhines Gydweddog yn cael eu cyfarch gan Lywydd y Senedd a’r Prif Weinidog.

    Mae dwy delyn yn canu i nodi’r achlysur, gyda Cerys Rees a Nia Evans yn ymuno â Ms Jones.

    Claire Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Claire Jones yn Delynores Swyddogol i Dywysog Cymru rhwng 2007 a 2011

  19. Un wyneb cyfarwydd iawn i'r Brenin yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Arglwydd Raglaw De Morgannwg, Morfudd Meredith, Y Llywydd, Elin Jones a’r Prif Weinidog, Mark Drakeford sy'n croesawu’r Brenin a’r Frenhines Gydweddog i’r Senedd.

    Yna bydd y Llywydd a’r Prif Weinidog yn cyflwyno’r canlynol:

    • Arweinwyr y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies;
    • Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price;
    • Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds;
    • Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd, Manon Antoniazzi;
    • Dirprwy Lywydd, David Rees

    Mae Manon Antoniazzi yn wyneb cyfarwydd i'r Brenin - hi oedd Ysgrifennydd Preifat y Tywysog Charles rhwng Rhagfyr 2004 a Gorffennaf 2012 ac am gyfnod yn y 1990au.

    Manon Antoniazzi
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Manon Antoniazzi yn arfer bod yn Ysgrifennydd Preifat i'r Tywysog Charles

  20. Aelodau'r Senedd Ieuenctid ac ysgol leol i gwrdd â'r pâr brenhinolwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022

    Yn y Senedd bydd grŵp o 12 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd â’r Brenin a’r Frenhines Gydweddog a siarad am eu gwaith yn cynrychioli pobl ifanc.

    Bydd 30 aelod arall o’r Senedd Ieuenctid ymhlith y gwesteion fydd yn gwylio'r digwyddiad tu mewn i'r Senedd.

    Bydd disgyblion o ysgol gynradd leol - Ysgol Gymraeg Hamadryad - yn ymgynnull y tu allan i'r Senedd hefyd i gyfarch y pâr brenhinol wrth iddyn nhw adael yr adeilad.

    Bydd y disgyblion hefyd yn cyflwyno tusw o flodau i'r Frenhines Gydweddog wrth iddynt baratoi i adael ar gyfer eu digwyddiad nesaf yng Nghastell Caerdydd.

    Ysgol HamadrayadFfynhonnell y llun, Ysgol Hamadrayad
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd disgyblion Ysgol Hamadryad yn cyfarch y pâr brenhinol wrth iddyn nhw adael y Senedd