a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    A dyna ni ar ddiwrnod hanesyddol yng Nghymru - y diwrnod y daeth Charles III am y tro cyntaf i Gymru fel Brenin.

    Yn gwmni iddo roedd ei wraig y Frenhines Gydweddog Camilla.

    Yn ystod ei daith bu mewn tri lleoliad - Cadeirlan Llandaf, y Senedd a Chastell Caerdydd - ac yn y tri llecyn roedd yna edrych yn ôl ar deyrnasiad ei fam, y Frenhines Elizabeth II, a bwrw golwg ymlaen at ei deyrnasiad ef.

    Yn sicr, mae mwy o drafodaethau i ddod am ddyfodol y Teulu Brenhinol yng Nghymru.

    Ddydd Llun fe fydd angladd y Frenhines Elizabeth II yn cael ei gynnal yn Llundain.

    Bydd y diweddaraf yma gan gynnwys argraffiadau pobl ar draws Cymru.

    Tan hynny - hwyl am y tro.

    Cam a Charles
  2. Y Brenin yn ffarwelio â Chymru

    Ar ôl ffarwelio â'r castell mae'r Brenin yn gwneud taith fer i gaeau Pontcanna at ei hofrennydd, ble bydd yn gadael Cymru am Lundain.

    Video content

    Video caption: Brenin Charles III yn gadael Castell Caerdydd
  3. Cyfarfodydd y Brenin 'wedi bod yn rhai sensitif'

    Newyddion S4C

    Ar raglen arbennig Newyddion S4C bu'r hanesydd, Hefin Mathias, yn dyfalu am yr hyn fyddai'r Brenin newydd wedi'i drafod yn y cyfarfodydd preifat a gafodd eu cynnal yn y castell dros yr awr ddiwethaf.

    "Yr hyn sydd yn amlwg yw fod y trafodaethau sydd wedi cael eu cynnal y prynhawn 'ma yn rhai sensitif, a buaswn i’n dychmygu, y mater o deitl Tywysog Cymru yn mynd i fod yn bwysig iawn.

    “Ond wrth gwrs mae yna faterion eraill i drafod hefyd, sef y ffaith y bod y Senedd yn mynd i newid. Mae’r Senedd yn mynd i gynyddu o ran maint.

    “Peth arall wnaeth daro fi hefyd oedd ei fod yn mwynhau siarad â phobl, ac yn sgwrsio gyda phobl, a fydd hwnna’n bwysig iddo fe o ran cadw eu teyrngarwch nhw iddo fe.”

    Charles
  4. Y Brenin yn gadael Castell Caerdydd

    Mae'r Brenin bellach yn gadael Castell Caerdydd i fonllefau'r dorf gyda baneri Cymru naill ochr iddo a hynny wrth i'r ymweliad bara ychydig yn hwy na'r disgwyl.

    Mae'r car bellach yn teithio yn y brifddinas ac yn anelu am yr hofrennydd.

    brenin
  5. Y Brenin yn cwrdd â'r dorf tu fewn i waliau'r castell

    Ar ôl cwblhau eu dyletswyddau tu mewn i'r castell, mae'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog bellach wedi dychwelyd yn ôl i'r awyr agored er mwyn cwrdd â'r dorf sydd wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdanynt.

    Charles
    Charles
  6. 'Gwasanaeth parchus, hyfryd a chreadigol'

    “Y peth pwysig yw fod Cymru wedi cael dweud ei ffarwél, a hefyd cael croesawu’r Brenin," meddai Archesgob Cymru, Andy John, wrth ein gohebydd Craig Duggan wedi'r gwasanaeth yn Llandaf.

    Video content

    Video caption: Yr Archesgob Andy John
  7. Y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn 'bobl mor dda'

    Tu allan i'r Senedd roedd Carys Jones - mam Claire Jones, telynores Tywysog Cymru am bedair blynedd a fu'n chwarae i’r Brenin yn y Senedd heddiw.

    “Roedd Claire yn canu darn heddi oedd wedi cael ei gyfansoddi gan ei gŵr Chris Marshall a wedd hi’n chwarae tra bod y Brenin yn cerdded i mewn ac ar y ffordd allan hefyd," meddai Carys.

    "Gaethon ni gwrdd gyda fe pryd wedd Claire yn y swydd, a gaethon nhw fynd i Gastell Caerdydd a mewn ystafell fach a jest siarad gyda fe, a Camilla hefyd.

    "Maen nhw yn bobl mor dda. Fuon nhw mor supportive pan oedd Claire yn y swydd."

    Carys Jones gyda'i wyres Cadi
    Image caption: Carys Jones gyda'i hwyres Cadi
  8. Un golwg bach cyn iddo adael?

    Gyda’r Brenin wedi cyrraedd ers awr bellach, mae’r dorf â’u camerau allan yn gobeithio cael ei weld unwaith eto.

    Maen nhw’n gobeithio hefyd am gael ei gyfarch wyneb yn wyneb a nifer wedi dod â blodau a rhoddion.

    torf
  9. 'Mae’n hanesyddol ond yn amser trist iawn'

    Tu allan i Gastell Caerdydd mae Fiona Rees o Frynaman, sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd, yn teimlo’n “emosiynol”.

    “O'n i isie dod lawr i ddangos parch at y Frenhines Elizabeth a’r Brenin Charles a’r teulu i gyd mewn gwirionedd," meddai.

    "Ma' fe’n emosiynol iawn a ni moyn bod yma. Mae’n hanesyddol ond yn amser trist iawn.”

    Fiona Rees
  10. Cyffro mawr yng nghyffiniau castell Caerdydd

    Yng nghanol Caerdydd mae'r castell wedi bod ar gau ers dyddiau ac mae siopau a busnesau ar hyd Heol Santes Fair wedi bod yn paratoi.

    Yn y siop anrhegion gyferbyn â'r castell does dim baner Jac yr Undeb ar werth fel arfer, ond maen nhw wedi archebu stoc newydd ar gyfer yr achlysur.

    Yn ôl Charlotte Rice-Ward sy'n gweithio yno, mae teimlad o gyffro mawr. "Fi'n meddwl bydd lot o bobl yn dod i'w weld e," meddai cyn yr achlysur.

    Ddydd Sul fe wnaeth miloedd o bobl ymgynnull yng nghastell Caerdydd a lleoliadau eraill yng Nghymru ar gyfer proclamasiwn Brenin Charles III.

    siop
    Image caption: Mae Charlotte Rice-Ward yn disgwyl i'w siop anrhegion fod yn brysur
  11. 'Profiad cyffrous iawn ond aros am oesoedd!'

    Cafodd Osian, 11, o Ysgol Hamadryad ym Mae Caerdydd, ei ddewis i gyflwyno tusw o flodau i'r Brenin newydd.

    Roedd e a gweddill disgyblion yr ysgol ymhlith y rhai a fu'n croesawu'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn y Senedd.

    "Roedd e'n brofiad cyffrous," meddai, "ond roeddwn yn nerfus iawn.

    "Bu'n rhaid i fi aros oesoedd wrth iddo siarad â llawer iawn o bobl."

    osian
  12. Cyfarfodydd y Brenin yn y castell yn parhau

    Wrth i'r dorf barhau i ddisgwyl yn eiddgar tu fewn a thu allan i'r castell iddyn nhw geisio cael cip, ysgwyd llaw neu sgwrs gyda'r Brenin newydd, mae'r cyfarfodydd yn parhau tu mewn i'r waliau - y tro hwn gyda Llywydd y Senedd Elin Jones

    Charles ac Elin Jones
  13. Y Teulu Brenhinol 'angen addasu os yw am oroesi'

    Newyddion S4C

    Ar raglen arbennig Newyddion S4C, dywedodd yr hanesydd Hefin Mathias ei fod yn credu bod Charles III yn "gwybod yn iawn bod angen addasu'r sefydliad yma [y Teulu Brenhinol] os yw am oroesi".

    Wedi cwymp yn y gefnogaeth tuag at y Teulu Brenhinol yn dilyn marwolaeth Diana, Tywysoges Cymru, ar ddiwedd y 90au, dywedodd fod y poblogrwydd wedi cynyddu eto "yn bennaf oherwydd ei fod wedi mynd yn fwy anffurfiol".

    "Maen nhw wedi dod yn fwy ymwybodol o'r angen i gysylltu â'r bobl," meddai.

    Video content

    Video caption: 'Maen nhw wedi dod yn fwy ymwybodol o'r angen i gysylltu â'r bobl'
  14. 'Fi'n credu y bydd e'n Frenin da'

    Un o'r rheiny sydd yn y dorf tu allan i'r castell ydy Edwina Evans o Gwmbrân.

    Dywedodd ei bod yn teimlo'n "rhan o hanes" yn mynychu ymweliad cyntaf Charles III â Chymru fel Brenin.

    "Fi'n credu y bydd e'n Frenin da," meddai, gan ychwanegu y bydd yn dilyn traddodiadau ei fam, y Frenhines Elizabeth II.

    Video content

    Video caption: Edwina Evans
  15. Bwio amlwg mewn rhan o'r dorf tu allan i'r castell

    Er fod y mwyafrif llethol o'r rheiny sydd wedi casglu tu allan i Gastell Caerdydd i weld yn gefnogol o'r Teulu Brenhinol, mae'n deg dweud nad ydy pawb yn rhannu'r farn honno.

    Roedd rhan o'r dorf ble roedd bwio amlwg wrth i gerbyd y Brenin newydd wneud ei ffordd i mewn i'r castell.

    View more on twitter
  16. Be ry'n yn ei wybod am Y Frenhines Gydweddog?

    Fe'i ganwyd ar 17 Gorffennaf 1947 yn Llundain, yn ferch i’r Major Bruce Middleton Hope Shand a’r Anrhydeddus Rosalind Maud Shand, merch 3ydd Barwn Ashcombe.

    Hi yw’r hynaf o dri o blant. Mae ganddi chwaer, Annabel a brawd Mark (a fu farw yn 2014).

    Ar ôl cael ei magu yng nghefn gwlad Sussex, mynychodd ysgol Queen’s Gate yn Kensington ac yna Ysgol Berffeithio (Finishing School) yn Ffrainc a’r Swistir.

    Yn 1973 priododd ag Andrew Parker Bowles, swyddog y marchoglu. Fe gafon nhw ddau o blant, Tom (yn 1974) sy’n awdur a beirniad bwyd a Laura (yn 1978).

    Yn raddol daeth Camilla, Y Frenhines Gydweddog bellach, yn gydymaith i’r Brenin.

    Yn 2005 ar Ebrill fe briododd y ddau yn y Guildhall yn Windsor mewn seremoni sifil.

    Ers 2005 mae'n noddwr neu'n llywydd 90 o elusennau. Mae’r elusennau yn ymwneud ag iechyd, llythrennedd a darllen, cefnogi dioddefwyr trais a cham-drin domestig, bwyd, anifeiliaid a threftadaeth a’r celfyddydau.

    Ar ôl colli ei mam (1994) a’i nain (1986) i osteoporosis, daeth yn noddwr y Gymdeithas yn 1997, ac yna’n llywydd yn 2001.

    Camilla
  17. Y Brenin a'r Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod

    Tu fewn i furiau'r castell mae'r Brenin Charles yn cael sgyrsiau gydag amryw o bobl, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford.

    Charles a Mark Drakeford
  18. 'Mae’r awyrgylch yn lyfli' yng Nghastell Caerdydd

    Er bod lle i tua 2,000 o bobl tu fewn i waliau Castell Caerdydd, mae'n debyg fod llai na hynny wedi penderfynu mynd i mewn, er bod rhai miloedd yn rhagor tu allan.

    Mae Denise a Megan Morgan ymysg y dorf sydd wedi penderfynu mynd mewn i'r castell.

    Dywedodd Denise, o Frynaman, ei bod wedi gweld y Frenhines ar ei hymweliad yn ystod y Jiwbilî Arian yn 1977, ac yn edrych 'mlaen i weld y Brenin.

    Mae Megan, o Gaerdydd, yno gyda’i mab Hendrix, ac yn dweud bod e’n “ffantastig".

    "Grêt i fod ‘ma a gweld cymaint o bobl. Mae’r awyrgylch yn lyfli," meddai.

    Denise a Megan
  19. 'Democratiaeth go iawn yn golygu dim Brenhiniaeth'

    Ar raglen arbennig Newyddion S4C o'r ymweliad Brenhinol bu trefnydd y brotest tu allan i'r castell, Bethan Sayed, yn egluro pam eu bod nhw wedi teimlo'r "rheidrwydd" i wrthdystio heddiw.

    Dywedodd cyn-AS Plaid Cymru nad oedden nhw wedi bwriadu cynnal protest heddiw nes i'r Brenin Charles gyhoeddi y byddai ei fab, William, yn ei olynu fel Tywysog Cymru.

    Ond dywedodd ei bod yn teimlo "rheidrwydd" i brotestio am fod hynny wedi digwydd "heb unrhyw fath o drafodaeth gyda phobl Cymru".

    "Ni eisiau cael democratiaeth go iawn ac mae hwnna'n meddwl dyfodol heb Frenhiniaeth," meddai.

    Video content

    Video caption: Bethan Sayed
  20. 'Dim hunlun tan y genhedlaeth nesaf!'

    “Dwi heb weld hunlun hyd yn hyn na unrhyw lun gyda'r Brenin Charles III… dyna fydd y genhedlaeth nesa ma’n 'neud.

    "Mae’r meibion yn hapus iawn i wneud hynny, William a Harry," medd Catrin Haf Williams, un o sylwebyddion Radio Cymru yn ystod y dydd.

    brenin