Ffyrdd ynghau ar draws y brifddinaswedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 16 Medi 2022
Bydd nifer o ffyrdd ar gau yn ystod yr ymweliad brenhinol, ac fe fydd mesurau diogelwch llym mewn grym.
Mae yna gynllun wrth gefn hefyd i gau ardal ehangach i gerbydau os fydd yna dorfeydd mawr.
Dywed Cyngor Caerdydd eu bod wedi trefnu nifer "sylweddol" o stiwardiaid i gydweithio â swyddogion heddlu fel rhan o'r cynlluniau sydd hefyd yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Heddlu De Cymru.
Mae'r cyngor hefyd yn cynghori pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheisio gyrru a pharcio yng nghanol y ddinas.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhagweld y bydd gwasanaethau trên yn brysur iawn, ac yn annog pobl i ganiatáu mwy o amser i deithio ac i gadw golwg ar y sefyllfa ddiweddaraf, dolen allanol.
Yn ogystal â'r cyfyngiadau yng nghanol y ddinas, bydd rhai ffyrdd hefyd ynghau yng Ngerddi Sophia, yn Llandaf ac yn y Bae.
Mae'r manylion yn llawn i'w gweld ar wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol.