a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Neuadd Les Tylorstown yn barod

    Mae'r llwyfan wedi ei osod yn y Neuadd Les yn Tylorstown yn barod ar gyfer yr achlysur heno.

    Ymhlith yr addurniadau y tu mewn i'r neuadd mae murlun trawiadol o Rob Page a Jimmy Murphy, y mab arall o'r Rhondda aeth â Chymru i Gwpan y Byd 'nôl yn 1958.

    Mae geiriau Hen Wlad Fy Nhadau hefyd yn addurno'r to - pob un o'r tri phennill.

    Tylorstown
    Tylorstown
    Tylorstown
    Tylorstown
  2. Ar ben y byd!

    Mae gwreiddiau rheolwr Cymru, Robert Page, yn nwfn yn y Rhondda, ac mae'r gymdeithas bêl-droed newydd gyhoeddi llun ohono yn edrych lawr o uchder dros y cwm heddiw.

    View more on twitter
  3. Tlws arall i gasgliad helaeth Gareth Bale

    Un sy'n siŵr o fod yn y garfan ydy Gareth Bale, ac fe lwyddodd capten Cymru i ychwanegu medal arall i'w gasgliad disglair dros y penwythnos wrth iddo helpu Los Angeles FC i ennill cwpan yr MLS am y tro cyntaf.

    Peniodd y Cymro i'r rhwyd ddwy funud cyn diwedd yr amser ychwanegol i unioni'r sgôr yn 3-3 yn erbyn Philadelphia Union, ac fe enillodd LAFC o 3-0 ar giciau o'r smotyn.

    Roedd Bale wedi dechrau ar y fainc ar ôl gwella o anaf i'w goes, ond bydd ei gyfraniad a'r ffaith ei fod wedi gwella o'i anaf yn hwb mawr i Rob Page.

    Allwn ni ond gobeithio y bydd yn sgorio goliau yr un mor bwysig i Gymru yn Qatar!

    Gareth Bale
  4. Pam bod y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Tylorstown?

    Mae'r cyhoeddiad heno yn cael ei wneud o bentref Tylorstown, neu Pendyrus, yn y Rhondda - ac mae 'na reswm da am hynny, fel mae Iolo Cheung yn esbonio.

    Video content

    Video caption: Pam bod y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Tylorstown?
  5. Wynebau cyfarwydd yn ymuno â thîm S4C yn Qatar

    Bydd is-reolwr Crystal Palace, Osian Roberts, yn ymuno â thîm cyflwyno S4C ar gyfer Cwpan y Byd eleni.

    Mae'r sianel hefyd wedi cadarnhau y bydd cyn-flaenwr Newcastle a Chymru, Malcolm Allen, yn dadansoddi'r gystadleuaeth.

    Bydd y ddau yn ymuno ag Owain Tudur Jones yn dadansoddi yn Qatar, gyda Dylan Ebenezer yn cyflwyno, Sioned Dafydd yn gohebu a Nic Parry a Gwennan Harries yn y blwch sylwebu.

    Bydd S4C yn darlledu pob un o gemau Cymru'n fyw yn ystod Cwpan y Byd.

    View more on twitter
  6. Dau leoliad go wahanol ar gyfer cyhoeddi carfan

    Mae'n deg dweud fod Cymru a'r Unol Daleithiau - un o wrthwynebwyr Cymru yng Nghwpan y Byd - wedi mynd am leoliadau go wahanol i gyhoeddi eu carfanau ar gyfer y gystadleuaeth.

    Bydd cyhoeddiad UDA yn cael ei wneud yn adeilad eiconig yr Empire State Building yn Efrog Newydd.

    Mae cyhoeddiad Cymru'n cael ei wneud yn y Neuadd Les yn Tylorstown, Cwm Rhondda - adeilad go wahanol, ond eiconig hefyd!

    Empire State
    Neuadd
  7. Gwrandewch ar gân swyddogol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd

    Fersiwn newydd o'r gân eiconig Yma o Hyd fydd anthem swyddogol Cymru yn y twrnament yn Qatar.

    Fe gafodd y gân ei recordio'n wreiddiol gan Dafydd Iwan ac Ar Log yn 1983 - cân brotest sy'n dathlu llwyddiant yr iaith Gymraeg er gwaethaf barn rhai amdani.

    Mae cefnogwyr Cymru wedi mabwysiadu'r gân dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae Dafydd Iwan wedi treulio amser gyda charfannau'r dynion a'r merched yn egluro ei phwysigrwydd diwylliannol.

    Roedd yn ei pherfformio yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn gemau tyngedfennol ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Awstria a Wcráin, a thra'n gwneud hynny y cafodd lleisiau'r Wal Goch eu recordio ar gyfer y fersiwn newydd.

    View more on twitter
  8. Beth allwn ni ei ddisgwyl gan Rob Page?

    A fydd 'na sioc wrth i Rob Page gyhoeddi ei garfan heno? Mae rheolwr Cymru wedi bod yn eithaf cyson gyda'i ddewisiadau dros y blynyddoedd diwethaf - ond mae'n hoffi taflu ambell sypreis i mewn bob hyn a hyn hefyd.

    Dyma ragolwg Iwan Griffiths.

    Video content

    Video caption: Rhagolwg Iwan Griffiths o garfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd
  9. Croeso i'r llif byw

    Prynhawn da, a chroeso i'n llif byw arbennig wrth i Rob Page gyhoeddi ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd Qatar.

    Diwrnod arbennig i gefnogwyr Cymru - dy'n ni wedi disgwyl 64 o flynyddoedd am foment o'r fath!

    Mae'r rheolwr wedi bod yn cyfarfod trigolion Cwm Rhondda yn ystod y dydd, a dyna ble bydd y garfan yn cael ei chyhoeddi hefyd.

    Mae 'na le i 26 o chwaraewyr ar yr awyren - arhoswch gyda ni i ddarganfod yn union pwy ydyn nhw!

    Cefnogwyr