Diolch a nos dawedi ei gyhoeddi 22:21 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022
Pwynt o'r gêm gyntaf felly. Mae gemau cyfartal weithiau yn gallu teimlo fel colled, ond yn teimlo fel buddugoliaeth ar adegau eraill.
Wedi'r perfformiad trychinebus yn yr hanner cyntaf, roedd hon yn bendant yn teimlo'n nes at fuddugoliaeth na cholled.
Cofiwch hefyd fod yr Unol Daleithiau yn uwch na Chymru yn netholion FIFA, a nhw oedd y ffefrynnau o dipyn heddiw.
Fel sydd wedi digwydd degau o weithiau yn y gorffennol, Gareth Bale oedd yr arwr - ei gic o'r smotyn yn arwain at gôl gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958.
Fe allwch chi ddarllen yr adroddiad yn llawn ar ein hafan.
Fe fyddwn ni 'nôl fore Gwener ar gyfer y gêm yn erbyn Iran, ble bydd Cymru'n siŵr o fod yn ffefrynnau i gipio'r triphwynt.
Os lwyddan nhw i wneud hynny, fe fyddai'n hwb anferth i'w gobeithion o orffen yn y ddau uchaf yn y grŵp a sicrhau eu lle yn yr 16 olaf.
Ond am heno, ar noson emosiynol, diolch yn fawr am ddilyn ein llif byw, a hwyl fawr tan y tro nesa'.