Crynodeb

  • Gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar 2022

  • Tim Weah yn sgorio unig gôl yr hanner cyntaf i UDA

  • Gareth Bale yn sgorio o'r smotyn gyda 10 munud yn weddill

  • Bydd Cymru'n herio Iran ddydd Gwener, ac yna Lloegr nos Fawrth nesaf

  1. Ble oedd y perfformiad yma yn yr hanner cyntaf?wedi ei gyhoeddi 20:28 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Dylan Griffiths
    Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar

    Mae Cymru'n cael gwell hwyl arni, ond mae Dylan Griffiths yn dal i gwestiynu a yw hi'n bryd dod â Brennan Johnson ymlaen?

    "Dwi'n teimlo gôl yn dod..."

  2. Dau gyfle da i Gymru!wedi ei gyhoeddi 66 mun

    Mae cyfleoedd da fel bysus...

    Cic rydd mewn safle da i Gymru. Harry Wilson yn croesi, ac wedi ychydig o ddryswch yn y cwrt cosbi mae Ben Davies yn llwyddo i gael peniad cryf, ond arbediad da gan Matt Turner.

    O'r gic gornel roedd cyfle da arall - y tro hwn, Kieffer Moore yn penio dros y trawst. Fe allai fod wedi gwneud yn well gyda honno yn bendant.

    BDFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Mwy o'r bêl, ond diffyg cyfleoeddwedi ei gyhoeddi 63 mun

    Er bod Cymru'n mwynhau llawer mwy o'r bêl yn yr ail hanner, maen nhw eto i greu unrhyw gyfleoedd da.

    Digon o bwyso, ond y bas olaf wastad yn mynd o chwith.

    Ond gobeithio mai mater o amser ydy hi nes y bydd hynny'n newid...

  4. Cefnogwyr Cymru'n ailddarganfod eu lleisiau!wedi ei gyhoeddi 20:21 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae presenoldeb Kieffer Moore eisoes yn gwneud gwahaniaeth ar ac oddi ar y cae - cefnogwyr Cymru wedi canfod eu llais eto!

    MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Mae pethau'n edrych yn fwy positifwedi ei gyhoeddi 20:19 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Nic Parry
    Sylwebydd Sgorio ar S4C

    Mae Cymru’n edrych fel tîm gwahanol.

    Mae hyn gymaint gwell gan Gymru - yr Unol Daleithiau sydd yn amddiffyn nawr.

  6. Ymateb hanner amser ym Methesdawedi ei gyhoeddi 20:18 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Dyma oedd yr ymateb gan gefnogwyr Cymru yn Neuadd Ogwen yn ystod yr egwyl.

    Saff dweud, doedd neb yn rhy hapus!

    Disgrifiad,

    Ymateb hanner amser ym Methesda

  7. Mae'n rhaid i ni sgorio o leiaf un...wedi ei gyhoeddi 20:15 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae'n rhaid i ni ymosod, mae'n rhaid i ni sgorio gôl - o leiaf un!

    Mae'n rhaid edrych ar chwaraewyr ymosodol.

    Mae Ramsey'n cyfrannu ychydig bach, ond ydy e'n ddigon? Sai'n siŵr.

    RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Ramsey yn fwy ymosodol wedi'r egwylwedi ei gyhoeddi 53 mun

    Mae Aaron Ramsey yn bendant yn chwarae'n uwch i fyny'r cae i Gymru yn yr ail hanner.

    Ydy Rob Page wedi rhoi rhwydd hynt iddo gefnu ar ei gyfrifoldebau amddiffynnol a chanolbwyntio ar ymosod?

  9. Dechrau llawer gwell i Gymruwedi ei gyhoeddi 50 munud

    Dechrau llawer gwell gan Gymru i'r ail hanner!

    Dy'ch chi'n cael yr argraff fod presenoldeb Moore eisoes yn hwb i Gymru.

    Cic gornel i Gymru, ond unwaith eto dyw hi'n dod i ddim oherwydd trosedd ar y golwr Matt Turner.

    Eiliadau'n ddiweddarach cafodd yr amddiffynnwr Tim Ream gerdyn melyn i UDA - eu trydydd o'r gêm.

    CmruFfynhonnell y llun, Reuters
  10. Iwan Roberts yn croesawu newidiadauwedi ei gyhoeddi 20:08 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Iwan Roberts
    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    'Sa Rob Page wedi gallu 'neud newidiadau ar ôl hanner awr a dweud y gwir

    Dwi'n meddwl bod rhaid iddo fo ymateb rŵan neu fydd o'n rhy hwyr.

  11. Kieffer Moore ymlaen i Gymruwedi ei gyhoeddi 45 mun

    Dyna ni'r cadarnhad, yn sefyll ar ochr y cae wrth i'r chwaraewyr ddod yn ôl i'r maes oedd Kieffer Moore!

    Dan James sy'n cael ei dynnu i ffwrdd. Ai dyma'r newid sydd ei angen ar Gymru?

    Mae'r chwarae wrthi'n ailddechrau - 45 munud enfawr i Gymru.

    MooreFfynhonnell y llun, FIFA
  12. Fydd newidiadau gan Page?wedi ei gyhoeddi 20:04 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mae Cymru angen tipyn o ysgogiad yn ystod yr egwyl.

    Ond os oes na ddyn perffaith ar gyfer y dasg honno...

    PageFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Mark Drakeford yn y dorfwedi ei gyhoeddi 20:03 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media

    Er gwaethaf beirniadaeth o sawl cyfeiriad oherwydd natur ddadleuol y twrnament yn Qatar, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn y stadiwm yn gwylio'r gêm.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi trefnu nifer o gyfarfodydd gyda "phwysigion yn y diwydiant busnes" ac y bydd yn meithrin "perthynas ddiwylliannol o bwys" yn ystod ei ymweliad.

  14. Yr achlysur wedi cael effaith ar y chwaraewyr?wedi ei gyhoeddi 20:02 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Owain Tudur Jones
    Cyn-chwaraewr Cymru ar S4C

    Dwi’n teimlo bod nerfau wedi chwarae rhan fawr. Dydyn nhw heb ymdopi efo’r cyffro sydd wedi arwain at heddiw.

    Dwi’n teimlo fod yr achlysur wedi cael y gorau ohonyn nhw. Un camgymeriad ar ôl y llall yn anffodus.

  15. Kieffer i achub y dydd?wedi ei gyhoeddi 20:00 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru Fyw yn Qatar

    Mae’r awyrgylch yn y stadiwm yn eitha’ fflat ers gôl UDA.

    Ond prin ydy’r cefnogwyr Cymru sy’n gwadu nad ydyn nhw’n haeddu bod ar ei hôl hi.

    Roedd ‘na groeso mawr pan welwyd Kieffer Moore yn cynhesu i fyny - pryd fydd o ‘mlaen?

  16. Mwy o ymateb ar QatAr y Marc am 21:00wedi ei gyhoeddi 19:57 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    BBC Radio Cymru

    Cofiwch ymuno gyda Dylan Jones a'r criw am ragor o ymateb am 21:00.

    Gan obeithio y bydd pethau ychydig yn fwy positif erbyn hynny!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Siom ar yr hannerwedi ei gyhoeddi 19:55 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Dyw'r awyrgylch ddim mor danllyd mewn neuaddau a thafarndai ar draws Cymru erbyn hyn...

    Felinheli
    Disgrifiad o’r llun,

    Neuadd Y Felinheli

    Depot Caerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Depot, Caerdydd

  18. Cymru'n gwneud i UDA edrych yn ddawedi ei gyhoeddi 19:53 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Dylan Griffiths
    Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar

    Mae Cymru'n gwneud i'r UDA edych fel un o dimau gorau'r byd ar hyn o bryd.

    Yr unig gysur o'r hanner cyntaf yw ei fod drosodd, ychwanegodd Iwan Roberts.

  19. Gwennan Harries eisiau gweld Moore ar y maeswedi ei gyhoeddi 19:53 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Gwennan Harries
    Cyn-ymosodwr Cymru ar S4C

    Bydde fe’n ddiddorol gweld Kieffer Moore yn dod 'mlaen.

    Licen i weld Ramsey mewn safle mwy ymosodol hefyd. Mae angen newid yn y strwythur.

  20. Hanner amser: Cymru 0-1 UDAwedi ei gyhoeddi 19:52 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Hanner cyntaf siomedig i Gymru!

    Os unrhywbeth, mae'r tîm yn ffodus i fod un gôl yn unig ar ei hôl hi.

    Fydd Rob Page yn gallu ysbrydoli'r chwaraewyr yn ystod yr egwyl? Croesi bysedd!

    UDAFfynhonnell y llun, Getty Images