Crynodeb

  • Gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar 2022

  • Tim Weah yn sgorio unig gôl yr hanner cyntaf i UDA

  • Gareth Bale yn sgorio o'r smotyn gyda 10 munud yn weddill

  • Bydd Cymru'n herio Iran ddydd Gwener, ac yna Lloegr nos Fawrth nesaf

  1. 'Dim lot o bobl yn dilyn pêl-droed yn UDA'wedi ei gyhoeddi 18:06 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Bu Gruff Stead (trydydd o’r dde) yn byw yn UDA am chwe mis yn gynharach eleni.

    Mae’n dweud y bydd carfan yr Unol Daleithiau yn disgwyl “gêm iawn” gan Gymru, ond bod Americanwyr yn gyffredinol ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

    “Does ‘na ddim lot o bobl yn dilyn pêl-droed yna. Os na ti yn y gymuned bêl-droed, dy’n nhw’m yn gwybod llawer amdana ni," meddai.

    Mae Gruff a’i ffrindiau hefyd wedi cael baner drawiadol newydd ar gyfer y twrnament!

    Gruff Stead a'i ffrindiau
  2. 'Dim bai ar chwaraewyr Cymru am beidio gwisgo rhwymyn OneLove'wedi ei gyhoeddi 18:04 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    BBC Radio Cymru

    Ar raglen Post Prynhawn, bu'r cyn-ddyfarnwr rygbi, Nigel Owens, yn trafod y bygythiad gan FIFA i gosbi unrhyw chwaraewr neu wlad sy'n gwisgo'r rhwymyn enfys.

    Dywedodd nad oes bai ar chwaraewyr Cymru am benderfynu peidio gwisgo'r rhwymyn OneLove.

    "Pam wanethon nhw rhoi fe [Cwpan y Byd] i wlad sydd â'r hanes 'ma am gydraddoldeb a chyfartaledd?

    "Does dim bai ar y chwaraewyr o gwbl fan hyn, ond bai ar yr awdurdodau a FIFA."

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images

    Ond, fe awgrymodd Nigel Owens, bod hyn wedi rhoi hyd yn oed mwy o sylw i'r pwnc nag y byddai gwisgo'r symbol.

    "Mae wedi uwcholeuo'r achlysur a'r problemau sydd 'na... o beth drwg, fe ddaw peth da gobeithio."

  3. Criw Radio Cymru yn barod amdani!wedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Cofiwch bod modd i chi ddilyn y gêm gyda Radio Cymru hefyd, ac mae modd gwneud hynny heb orfod gadael ein llif byw.

    Mae eu rhaglen nhw newydd ddechrau, a gallwch wrando trwy glicio ar yr eicon ar frig y llif byw.

    Owain Llŷr sy'n cyflwyno, tra mai Dylan Griffiths, cyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts a chyn-gapten Cymru Kath Morgan yw'r tîm sylwebu yn Qatar.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. A dyma dîm y gwrthwynebwyr...wedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Gall Moore ddod oddi ar y fainc'wedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Cefnogwyr

    Mae Harry (canol) a Joe (dde) yn synnu gweld Harry Wilson yn dechrau o flaen Kieffer Moore yn yr ymosod.

    “Mae’n cynnig rhywbeth gwahanol nag yw e,” meddai Harry am yr ymosodwr tal.

    Ond mae eu tad Matt yn hapus gyda’r tîm: “Gall Moore ddod oddi ar y fainc wedyn.”

  6. 'Tîm ymosodol, sy'n mynd allan i ennill'wedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Dylan Griffiths
    Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar

    Harry Wilson yn lle Kieffer Moore, meddai'r sylwebydd Dylan Griffiths, yw'r unig sioc o ran dewis Rob Page.

    "Mae 'na goesau yna... ond mae 'na gyfrifoldeb ar Wilson a Dan James.

    "Ond chwaraewyr sydd â phrofiad - Wayne Hennessey a Gareth Bale - mi ddylia' hynny fod yn ddigon i setlo'r nerfau.

    "Mae'n dîm ymosodol ac yn dîm sy'n mynd allan i ennill y gêm.

    "Os allith Cymru gael y fuddugoliaeth yma, mi fyddan nhw mewn sefyllfa eithriadol o gry'."

  7. Ai fel hyn y bydd y tîm wedi'u gosod ar y cae?wedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Y tîm wedi'i gyhoeddi!wedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Cymysg yw barn rhai o gefnogwyr UDA...wedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Cefnogwyr UDA

    Mae Vivian a Jonathan wedi teithio o Georgia yn yr Unol Daleithiau, ac wedi gwneud ymdrech arbennig gyda’u gwisgoedd ar gyfer Cwpan y Byd.

    Ond dydyn nhw ddim yn hyderus “o gwbl” am obeithion eu tîm. “Mae’n mynd i fod yn agos,” meddai Jonathan.

    Cefnogwyr UDA

    Ond, mae Miguel, Luis a Marco o Long Beach, California yn hyderus mai’r Americaniaid fydd yn fuddugol.

    “2-0,” meddai Marco, “mae gennym ni dîm ifanc, cyffrous.”

    Ychwanegodd mai Cristian Roldan a Gio Reyna yw’r chwaraewyr i wylio.

  10. Dylanwad Tad-cu o Landybie yw ysbrydoliaeth un teulu sy'n byw yn Qatarwedi ei gyhoeddi 17:42 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Chris, Camela a Marla

    Mae ein gohebydd tu allan i'r stadiwm wedi bod yn holi cefnogwyr Cymru a'r Unol Daleithiau am eu gobeithion heno.

    Mae Chris O’Connor yn dod o Harrogate yn Lloegr.

    “Dwi’n cefnogi Cymru gan achos dyna o le roedd fy nhad-cu yn dod, o Landybie,” meddai.

    Mae bellach yn byw yn Qatar gyda’i bartner Carmella, o’r Phillipines, a’u merch Marla - a’r ddwy hefyd yn gefnogwyr Cymru pybyr erbyn hyn!

    Teulu

    Mae Teifion ac Angharad o Garmel, Sir Gâr gyda’u plant Elan Mai, 9, Delyn, 7, ac Osian, 11, yn obeithiol.

    Mae Osian yn hyderus fod Cymru am ennill 2-1, a’r plant i gyd yn gytûn am eu hoff chwaraewr. “Gareth Bale wrth gwrs!”

  11. A'r Barry Horns hefyd!wedi ei gyhoeddi 17:40 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Barry Horns
  12. Mae'r chwaraewyr wedi cyrraedd!wedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
    JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
    WilsonFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Lloegr wedi rhoi cweir i Iran yn y gêm arall yng Ngrŵp Bwedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mae'r gêm arall yng Ngrŵp B eisoes wedi'i chwarae y prynhawn 'ma, ble bu Lloegr yn herio Iran yn Stadiwm Khalifa.

    Lloegr oedd yn fuddugol o 6-2, gyda goliau gan Jude Bellingham, Raheem Sterling, Marcus Rashford, Jack Grealish a dwy gan Bukayo Saka.

    Mehdi Taremi sgoriodd y ddwy gôl i Iran - un ohonynt o'r smotyn.

    Bydd y canlyniad yn galonogol ar un ystyr i Gymru. Roedd Iran yn sâl - hwb felly i'w gobeithio cyn y gêm ddydd Gwener.

    Ond ar yr ochr arall, roedd Lloegr yn dda, sydd ddim yn newyddion gwych i Gymru cyn nos Fawrth nesaf!

    Bukayo SakaFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Sgoriodd Bukayo Saka ddwywaith i dîm Gareth Southgate

  14. Argraffiadau cyntaf tu fewn i'r stadiwmwedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Kath Morgan
    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae Kath Morgan, sy'n rhan o dîm sylwebu Radio Cymru heno, wedi cyrraedd stadiwm Ahmad Bin Ali ond doedd hi ddim yn broses hawdd i fynd mewn, meddai.

    "Roedd hi'n eitha' anodd i gyrraedd, roedd lot o heddlu yn checkio tocynnau, felly roedd hi'n dipyn o broses jyst i gyrraedd mewn yma.

    "Ond nawr bo' ni yma, mae'n teimlo fel bod breuddwyd yn mynd i gael ei gwireddu."

    Ychwanegodd bod goleuadau llachar ym mhob man a'r lle yn dechrau llenwi.

    "Dyw e ddim yn enfawr, lle i tua 40,000 sydd yma. Maen nhw'n rhagdybio bod hanner y stadiwm yn mynd i fod yn llawn."

    StadiwmFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Y 'stafell newid yn barod am y chwaraewyr...wedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Ystafell newidFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Ni fydd Cymru'n gwisgo rhwymyn enfyswedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Daeth cadarnhad fore heddiw na fydd Gareth Bale, capten Cymru, yn gwisgo rhwymyn OneLove yng Nghwpan y Byd.

    Mae'r rhwymyn braich yn rhan o ymgyrch i hybu amrywiaeth a chynhwysiad.

    Daw'r penderfyniad wedi i FIFA gadarnhau y byddai cosb i'r rheiny sy'n ei ddefnyddio.

    Mae record hawliau dynol ac agweddau tuag at bobl LHDT+ yn Qatar wedi bod dan y chwyddwydr ers i Gwpan y Byd gael ei rhoi i'r wlad.

    Roedd Cymru'n un o saith gwlad Ewropeaidd oedd yn bwriadu gwisgo'r rhwymyn: Cymru, Lloegr, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Denmarc, Yr Almaen, a'r Swistir.

    Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd eu cymdeithasau pêl-droed eu bod yn "rhwystredig iawn" gyda phenderfyniad "digynsail" FIFA.

    Mae FIFA wedi cyflwyno rhwymyn braich 'No Discrimination', fydd yn cael ei ganiatáu.

    Gareth Bale yn gwisgo rhwymyn OneLoveFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Dim alcohol ar werth i gefnogwyr yn y stadiwmwedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Ddydd Gwener fe wnaeth FIFA gadarnhau na fydd alcohol bellach yn cael ei werthu yn yr wyth stadiwm fydd yn cynnal gemau Cwpan y Byd.

    Roedd disgwyl byddai alcohol yn cael ei werthu "o fannau penodol" oddi fewn y meysydd, er bod gwerthiant yn cael ei reoli'n dynn yn y wlad.

    Fe ddaeth y tro pedol ddeuddydd yn unig cyn gêm gyntaf y gystadleuaeth.

    Mae'r penderfyniad wedi ei feirniadu gan gorff sy'n cynrychioli cefnogwyr pêl-droed, sy'n dadlau bod amseriad y cyhoeddiad yn adlewyrchiad o "broblem ehangach".

    Dywedodd y Gymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed (FSA) mewn datganiad: "Mae rhai cefnogwyr yn hoffi yfed cwrw mewn gêm a rhai ddim, ond y mater go iawn yw'r tro pedol munud olaf sy'n adlewyrchu problem ehangach - diffyg cyfathrebu llwyr ac eglurder gan y pwyllgor trefnu tuag at gefnogwyr.

    "Os ydyn nhw'n gallu newid eu meddwl ar hyn gyda chyn lleied o rybudd, heb unrhyw esboniad, bydd gan gefnogwyr bryderon dealladwy a fyddan nhw'n cyflawni addewidion eraill yn ymwneud â llety, trafnidiaeth neu faterion diwylliannol."

    Stadiwm Ahmad Bin AliFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd tair gêm grŵp Cymru'n cael eu chwarae yn Stadiwm Ahmad Bin Ali

  18. 'Ni'n gryfach na America'wedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Roedd Jonny Williams (na, nid yr un yna!) a’i ffrindiau o Landrindod yn crwydro’r Corniche cyn y gêm.

    “Fi’n hyderus,” meddai. “Fi’n meddwl bod ni’n gryfach na America. Gallwn ni ennill heno.”

    Pump dyn ifanc mewn crysau Cymru a hetiau bwced
    Disgrifiad o’r llun,

    Criw hyderus o Landrindod cyn y gêm fawr heno

  19. Dim Joe Allen i Gymru henowedi ei gyhoeddi 17:16 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Cafodd cefnogwyr Cymru newyddion drwg - er nid yn annisgwyl - ddoe o ran ffitrwydd un o chwaraewyr allweddol y garfan.

    Cadarnhaodd Robert Page na fydd Joe Allen ar gael am nad yw wedi gwella o anaf i linyn y gar.

    Dyw Allen heb chwarae ers 17 Medi, ond roedd y chwaraewr canol cae wedi dweud yr wythnos ddiwethaf ei fod yn gobeithio y byddai'n holliach i herio UDA.

    "Fe fydden ni wedi gallu ei wthio fe," meddai Page, "ond petai rhywbeth yn digwydd iddo fe fyddai'n bendant allan o'r twrnament."

    Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Awyrgylch parti'r cefnogwyr 'ddim cweit fel y disgwyl'wedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2022

    Mae tipyn o gefnogwyr wedi bod yn cwyno am flerwch yn y trefniadau ym mharti’r cefnogwyr, gyda phobl ddim yn cael y bwydydd neu ddiodydd oedd i fod i ddod gyda’u pecynnau.

    Roedd rhaid talu o leiaf £80 am becynnau diod alcoholig, a nifer heb gael beth gafodd ei addo iddynt.

    “Mae’n grêt bod cymaint yn dod at ei gilydd, ond dydi’r awyrgylch ddim cweit be’ o’n ni ‘di ddisgwyl," meddai Trystan Dafydd.

    "Dwi’m yn meindio talu mwy na’r arfer achos ‘dan ni mewn gwlad ddrud, ond ti’n disgwyl gwasanaeth o safon.”

    Trystan Dafydd