a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Newydd dorriGraddau'n is na'r llynedd ond uwch na chyn y pandemig

    Mae graddau TGAU Cymru yn is o'i gymharu â'r llynedd wrth i'r patrwm ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig.

    Ond, fel gyda chanlyniadau Safon Uwch yr wythnos diwethaf, mae'r canlyniadau uchaf heddiw yn dal yn uwch nag yn 2019.

    Roedd 21.7% o'r graddau TGAU eleni yn A neu'n uwch ac roedd bron i 65% yn A*- C.

    Dywedodd y rheoleiddiwr arholiadau fod ffiniau graddau yn is i rai pynciau er mwyn cefnogi disgyblion a brofodd heriau yn sgil y pandemig.

  2. Dweud eich dweud wrth edrych 'nôl ar gyfnod yr arholiadau

    Mae Senedd Ieuenctid Cymru'n casglu barn ac yn gofyn a fyddai amser ychwanegol yn yr ysgol ar gyfer gweithgareddau llesiant wedi helpu gyda straen arholiadau?

    View more on twitter
  3. Y ddwy Catrin yn falch!

    Dyma Catrin gyda’i phrifathrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Mrs Catrin Pritchard.

    Catrin a Catrin
    Image caption: Catrin (chwith) gyda phennaeth Ysgol Morgan Llwyd Mrs Catrin Pritchard (dde)

    Mae Mrs Pritchard wedi bod yn disgwyl yn eiddgar ers yn fore i’r plant gyrraedd!

    Mae hi’n “hynod falch” dros yr holl blant.

    Mae Catrin wedi gwneud yn dda yn ei TGAU ond yn ansicr ble yr aiff ym mis Medi o ganlyniad i "ddiffyg trafnidiaeth" dywedodd.

    "Yr opsiynau sydd gen i ydi mynd i Ysgol Y Creuddyn neu Glan Clwyd," meddai.

    "Mae’r ddwy ysgol yno’n newydd i mi, dydi ‘run o’r ddwy yn cynnal gwleidyddiaeth fel pwnc, sydd yn rhywbeth ‘dwi eisiau ei wneud er mwyn gallu astudio’r gyfraith yn y brifysgol.

    "Ysgol Morgan Llwyd ydi’r unig ysgol sy’n gwneud gwleidyddiaeth yn y Gymraeg.”

  4. Chweched dosbarth, coleg neu'r byd gwaith?

    Cofiwch am yr holl opsiynau ac nad yw'n rhy hwyr i newid cyfeiriad ar gyfer y cam nesaf.

    Dyna mae Coleg Gwent yn atgoffa y bore 'ma...

    View more on twitter
  5. Neges o longyfarchiadau gan y Prif Weinidog

    Wrth rannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Llongyfarchiadau i bawb sy’n derbyn canlyniadau heddiw.

    "Chi wedi gweithio mor galed, ac mae pawb yn falch iawn ohonoch chi.

    "Pob lwc i chi gyd, beth bynnag yw eich cam nesaf".

    Mark Drakeford
  6. 'Syrthio mewn cariad' gyda gwaith coed

    BBC Radio Cymru

    Prentisiaeth fydd y cam nesaf i rai myfyrwyr yn hytrach na'r chweched dosbarth, ar ôl derbyn eu canlyniadau heddiw.

    Dyna'r trywydd i Cian o Ruthun, sydd ar fin dechrau ar brentisiaeth fel saer coed.

    Video content

    Video caption: Dechrau Gyrfa: Cian o Ruthun wedi cael prentisiaeth fel saer coed

    "Pan o'n i'n cychwyn fy TGAU do'n i ddim yn gw'bod be' i 'neud," meddai wrth raglen Dros Frecwast.

    Ond wedi "rhyw awr" o sgwrs gyda swyddog o wasanaeth Gyrfa Cymru fe ddaeth i'r amlwg ei fod wedi "syrthio mewn cariad" gyda gwaith coed ar ôl dechrau cwrs Adeiladwaith ym Mlwyddyn 10.

    Aeth y swyddog ati i "ffeindio dyn lleol ma' o Ruthun" oedd yn fodlon ei hyfforddi i fod yn saer maen.

  7. Rhieni balch Wrecsam!

    Cathy Whitley, Aloma Roberts a Faye Jones sydd yn hynod falch dros eu plant yn Ysgol Morgan Llwyd.

    Er nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg, fe benderfynon anfon eu plant i ysgol Gymraeg.

    Cathy Whitley, Aloma Roberts a Faye Jones
    Image caption: Cathy Whitley, Aloma Roberts a Faye Jones

    Dywedodd Aloma: “Roedd ei thaid yn siarad Cymraeg felly roedd hynny'n un rheswm ond hefyd, y sgil ychwanegol sydd gennych chi o siarad iaith arall - mae'n ased wrth ymgeisio am swyddi."

    "Es i i'r ysgol Saesneg yn Wrecsam ond ro'n i eisiau anfon y mhlentyn i ysgol Gymraeg," meddai Cathy.

    Mae’r dair yn hynod falch o’u merched.

  8. Nid graddau yw popeth!

    Ysgol Gymraeg Bro Dur sy'n atgoffa - gyda cherdd gan Elin Angharad Davies - nad graddau sy'n mesur llwyddiant...

    View more on twitter
  9. Pryderus ond cyffrous

    Mae Bowen, 16 o Abertawe, yn gobeithio mynd i'r coleg i wneud ei Safon Uwch ar ôl derbyn ei ganlyniadau TGAU.

    Bowen

    Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, gwleidyddiaeth yw un o'r pynciau y mae am astudio.

    Mae'n teimlo "tipyn bach yn bryderus" ond yn gyffrous hefyd.

    "Mae'n amser am newid, ac i dyfu lan ac i wneud pethau newydd," dywedodd.

  10. Cefnogaeth ychwanegol yn sgil tarfu'r pandemig

    Mae yna gefnogaeth ychwanegol wedi bod i ddisgyblion eto eleni yn sgil tarfu'r pandemig.

    Roedd hynny'n cynnwys rhoi rhywfaint o wybodaeth o flaen llaw ynglŷn â chynnwys arholiadau a gosod ffiniau graddau'n is.

    Yn Lloegr, y penderfyniad oedd i ddychwelyd at y drefn cyn y pandemig eleni.

    Mae Cymwysterau Cymru wedi dweud mai'r bwriad yw gollwng y cymorth ychwanegol y flwyddyn nesaf.

  11. Mae'r amlenni cyntaf wedi eu hagor!

    Edie, Charlotte, Erin a Charlie.
    Image caption: Edie, Charlotte, Erin a Charlie.

    Roedd 'na ddigon o sêr i’w gweld ar bapurau’r merched cyntaf i agor eu canlyniadau yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam.

    Edie, Charlotte, Erin a Charlie sy'n dathlu!

    Mae Charlotte ac Erin yn bwriadu aros yn y Chweched Dosbarth.

    Bydd Charlotte yn astudio Bioleg, Cemeg ac Hanes, ac Erin am astudio’r gwyddorau.

    I Goleg Cambria aiff Erin er mwyn astudio chwaraeon - mae hi yn chwarae rygbi i RGC ac eisiau bod yn ffisiotherapydd yn y dyfodol.

    Llongyfarchiadau!

  12. 'Ar bigau'r drain eisiau gwybod be' dwi 'di gael'

    Rhodd
    Image caption: Dywedodd Rhodd ei bod wedi bod yn "cyfri'r diwrnodau" wrth agosáu at y canlyniadau

    Dywedodd Rhodd, o Rosllannerchrugog, ei bod wedi llwyddo i anghofio am yr arholiadau "am wythnos neu ddwy" ar ôl gorffen, ond mae wedi bod yn "cyfri'r diwrnodau" wrth agosáu at y canlyniadau.

    Mae'n disgrifio cyfnod TGAU fel "dwy flynedd galed" ac yn yr haf, ar ddiwedd blwyddyn 11, roedd ganddi 18 arholiad.

    Yn bersonol, dyw hi ddim yn teimlo bod cyfnod y pandemig wedi effeithio ar ei haddysg yn ormodol.

    "Ro'n i'n mwynhau'n gweithio'n annibynnol ac ar-lein a dysgu ar ben fy hun, ond dwi wedi sylwi bod llawer o'n ffrindiau i wedi stryglo cadw'r meddylfryd o weithio adre a gwneud yn siŵr bo' nhw'n codi yn y bore i weithio", meddai.

  13. Bore da a chroeso i'r llif byw!

    Mae'n fore canlyniadau TGAU a miloedd o ddisgyblion ar bigau'r drain.

    Agor canlyniadau y llynedd

    Wythnos yn ôl, fe ddangosodd canlyniadau Safon Uwch Cymru fod nifer y graddau uchaf yn is na'r llynedd ond yn uwch na chyn y pandemig.

    Patrwm tebyg sydd i'w ddisgwyl gyda'r canlyniadau TGAU heddiw.

    Dilynwch y cyfan - y straeon, lluniau a fideos - o bob cwr o Gymru yma ar ein llif byw.