Crynodeb

  • Mark Drakeford yn dweud ei bod yn "rhyfeddol" bod Boris Johnson wedi gwrthod cyfarfod â'r gwledydd datganoledig

  • Honnodd Drakeford hefyd bod Johnson yn "absennol i raddau helaeth" o drafodaethau

  • Dywedodd y dylai cyfnod clo fod wedi digwydd dros y DU yn gynharach

  • Ond roedd effaith cyfnodau clo, yn enwedig ar blant, yn "pwyso'n drwm" arno

  • Cafodd Ysgrifennydd Iechyd y DU fanylion "sylfaenol" am ddatganoli yn "gyfan gwbl anghywir"

  • Defnydd o WhatsApp dan y chwyddwydr eto, gyda Mr Drakeford yn dweud mai 11 o weithiau y defnyddiodd y cyfrwng

  • Disgrifiodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart fel ffigwr "ymylol" oedd yn "llenwi ei ddyddiau drwy ysgrifennu llythyrau ataf"

  1. Cartrefi gofal - 'doedd dim digon o brofion'wedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Cafodd Mr Drakeford ei holi am bolisi Llywodraeth Cymru ar gartrefi gofal, a dywedodd ei fod o flaen yr ymchwiliad i "esbonio nid i gyfiawnhau".

    Dywedodd nad oedd y risgiau o gadw pobl fregus iawn yn yr ysbyty pan fyddant yn ffit i gael eu rhyddhau, ar adeg pan oedd ysbytai ar fin dod yn "ganolbwynt y lle mwyaf peryglus i fod" yn ffordd o weithredu â rhinwedd.

    Gofynnodd Mr Poole iddo pam nad oedd Llywodraeth Cymru wedi newid ei pholisi i brofi pob claf oedd yn cael ei ryddhau i gartrefi gofal, yn gynharach na 29 Ebrill 2020.

    Dywedodd Mr Drakeford pe bai wedi cael ei gymryd yn gynt, byddai'n rhaid bod wedi cymryd profion o ardaloedd eraill a bod penderfyniad wedi'i wneud i flaenoriaethu staff rheng flaen mewn ysbytai.

    “Nid oedd digon o brofion i wneud popeth yr hoffem fod wedi’i wneud gyda nhw,” ychwanegodd.

    Cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Kirsty Williams wedi cynnig ymddiswyddo dros arholiadau 'annheg'wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams oedd yn gyfrifol am addysg ar y prydFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams oedd yn gyfrifol am addysg ar y pryd

    Y tu hwnt i dystiolaeth Mark Drakeford heddiw, mae'r ymchwiliad wedi clywed bod gweinidog addysg Cymru ar y pryd wedi cynnig ymddiswyddo dros y modd y deliodd gyda chanslo arholiadau yn 2020.

    Mewn datganiad i'r ymchwiliad, dywedodd Kirsty Williams ei bod wedi drafftio llythyr yn cynnig ymddiswyddo ddyddiau ar ôl i ganlyniadau "annheg" gael eu cyhoeddi.

    Roedd y canlyniadau wedi eu penderfynu gan algorithm ar sail graddau athrawon.

    Dywedodd Ms Williams bod y prif weinidog wedi ei hannog i barhau yn ei swydd.

  3. Seibiant ciniowedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae'r ymchwiliad yn cymryd seibiant am ginio, fe fyddwn yn ôl am 13:45.

  4. Moment 'digalon' ar gyfer cydweithiowedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Wrth drafod newid negeseuon gan Lywodraeth y DU ym mis Mai 2020, o "aros adref" i "aros yn effro", dywed Mr Drakeford nad oedd hyn yn rhywbeth yr oedd yn ei ddeall nac yn cytuno iddo i Gymru.

    “Heb y gallu i egluro i mi beth oedd y neges yn ei olygu, doeddwn i ddim yn barod i gytuno iddi,” meddai.

    Mae’n dweud ei fod yn “gwneud hyn yn glir iawn” i’r Prif Weinidog Boris Johnson mewn cyfarfod ar 10 Mai, ac mae’r holl wledydd datganoledig yn ailadrodd pwysigrwydd bod Johnson yn nodi mai dim ond ar gyfer Lloegr y mae’r canllawiau yn ei gynhadledd i’r wasg sydd ar ddod.

    Dywedodd Mr Drakeford fod Johnson wedi rhoi “sicrwydd y bydd yn gwneud ei orau glas i wneud yn siŵr ei fod yn gwneud hynny” ond wedyn "dim ond cyfeirio at y gwledydd datganoledig yn y cyd-destun y mae’n siarad fel prif weinidog y pedair gwlad a wnaeth e".

    “Mae’n arwydd clir bod yr hyn y mae ar fin ei ddweud yn berthnasol i’r DU gyfan ac nid yw byth yn dweud nad yw,” meddai Drakeford.

    Dywed Mr Drakeford fod hon yn “foment digalon” ar gyfer cydweithio rhwng y llywodraethau yn ystod y pandemig.

  5. Salwch Johnson wedi cael effaith 'iasoer'wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Cafodd y ffaith bod Boris Johnson wedi dal Covid yn ystod camau cynnar y pandemig “effaith iasoer” ac arweiniodd at oedi wrth wneud penderfyniadau, meddai Mr Drakeford.

    Dywedodd Mr Drakeford wrth yr ymchwiliad: “Yr effaith iasoer yw’r petruster y mae’r system gyfan yn ei deimlo ynglŷn â gwneud penderfyniadau mawr pan nad yw’r prif weinidog ei hun wrth y bwrdd ac yn methu â chymryd rhan ynddynt.”

    Ychwanegodd Mr Drakeford nad oedd ganddo unrhyw gwynion am y modd yr ymdriniodd Dominic Raab â'r cyfarfodydd yn absenoldeb Johnson.

    Raab oedd y dirprwy brif weinidog yn ystod y cyfnod hwnnw.

  6. 'Dylai’r DU fod wedi cyflwyno'r clo wythnos ynghynt'wedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Ynys y Barri ar y diwrnod cyn i'r cyfnod clo gael ei gyhoeddiFfynhonnell y llun, Wales News Service
    Disgrifiad o’r llun,

    Ynys y Barri ar y diwrnod cyn i'r cyfnod clo gael ei gyhoeddi

    Dywed Mr Drakeford, er bod cael cyfnod clo yng Nghymru ym mis Mawrth 2020 yn “benderfyniad y bu’n rhaid i mi ei wneud yn y fan a’r lle”, mae’n “hollol hyderus” ei fod yn dilyn dymuniadau ei gydweithwyr yn y cabinet.

    Roedd hyn oherwydd “cydymffurfiaeth annigonol” â’r mesurau eisoes ar waith, ychwanega.

    Dywedodd Mr Drakeford ar benwythnos 21 a 22 Mawrth 2020, iddo gael gwybod bod “Ynys y Barri dan ei sang”, ei fod yn “brysur yn Llanelli” a bod “cannoedd o bobl yn ymgynnull” ar Ben y Fan.

    Dywedodd mai ei farn ef oedd bod cyfnod clo yn “hollol angenrheidiol” a “dylai fod wedi digwydd yn gynharach”.

    Pan ofynnwyd iddo pryd y dylai’r DU fod wedi cyflwyno'r clo, mae’n dweud ei fod yn “dyst amatur yn y mater hwn” ac nad oes ganddo unrhyw reswm i anghytuno â’r “consensws y cytunwyd arno’n eang” y byddai wythnos ynghynt wedi bod yn dda.

  7. 'Dim dewis a dethol cyngor meddygol'wedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Dywed Mr Drakeford na wnaeth “ddewis a dethol” a oedd yn dilyn cyngor meddygol a ddarparwyd, gan honni y byddai hyn yn achosi “datod penderfyniadau priodol”.

    “Fel penderfynwr, rwy’n meddwl bod hwnnw’n llethr llithrig iawn, iawn ac roeddwn yn benderfynol iawn i beidio â mynd i lawr y ffordd honno,” meddai wrth yr ymchwiliad.

    “Weithiau doedden ni ddim yn cytuno â rhai o’r pethau roedden ni’n cael ein cynghori ond… fe wnaethon ni ddilyn y cyngor a gawson ni trwy’r llwybrau sefydledig.”

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi “meddwl yn hir ac yn galed” am fynychu cyfarfod o grŵp “annibynnol Sage (Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau)” y gwahoddwyd iddo, ond gwrthododd, “nid oherwydd nad oeddwn yn chwilfrydig… ond penderfynais y byddai'n tanseilio’r berthynas oedd gennym gyda Sage”.

    Mae’r Farwnes Hallett yn gwthio Mr Drakeford i egluro pam na allai gyfiawnhau dilyn ffynonellau allanol pe bai’n eu gweld yn dda, ac mae’n ymateb i hynny: “Ni fyddwn wedi bod yn barod i wneud hynny.”

  8. Union pedair blynedd ers gohirio gêm ar y funud olafwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Ben Price
    Gohebydd BBC Cymru

    Cefnogwr yr AlbanFfynhonnell y llun, Getty Images

    Un o'r digwyddiadau torfol dan sylw ar y pryd oedd gêm rygbi rhwng Cymru a’r Alban yn y Chwe Gwlad - union pedair blynedd yn ôl.

    Cafodd y gêm ei gohirio llai na 24 awr cyn y gic gyntaf ac ar ôl i 20,000 o gefnogwyr Albanaidd deithio i Gaerdydd.

    Mae’r penderfyniad munud olaf gan Undeb Rygbi Cymru i ohirio wedi bod yn destun trafod cyson yn ystod yr ymchwiliad yng Nghymru.

    Dywedodd Mark Drakeford wrth yr ymchwiliad, er ei fod yn erbyn digwyddiadau torfol ar y pryd, doedd ganddo ddim y pŵer i ganslo’r gêm a phenderfyniad i’r undeb oedd hynny.

    Ar fore 13 Mawrth 2020 fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y byddai’r gêm yn mynd yn ei blaen.

    Erbyn canol dydd mi oedd uwch-gynghrair pêl-droed Lloegr wedi gohirio pob gêm. Cafodd y gystadleuaeth golff, y Masters, ei gohirio yn ogystal â'r rhan fwyaf o chwaraeon eraill.

    Erbyn canol y prynhawn, fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru na fyddai Cymru a’r Alban yn chwarae.

  9. 'Mae Dom yn dweud na'wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Holwyd Mr Drakeford am gyfarfod COBRA ar 12 Mawrth, pan drafodwyd gohirio cynulliadau torfol, gyda heintiau ar gynnydd.

    Roedd cynghorwyr gwyddonol o'r farn mai hwn oedd yr ymyriad anoddaf i'w alw, yn enwedig y rhai awyr agored.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn credu bod digwyddiadau torfol yn ddigroeso i’r gwasanaethau brys ac yn poeni am y gwrth-ddweud ynghylch negeseuon cyhoeddus ynghylch aros gartref, tra gallai pobl fynychu gŵyl Cheltenham neu gyngherddau.

    “Dadleuais yn y cyfarfod COBRA hwn i ni gytuno na ddylai cynulliadau torfol fynd yn eu blaenau. Dadleuais mor gryf ag y gallwn.”

    Dywedodd fod y Prif Weinidog Boris Johnson wedi mynd o amgylch yr ystafell i ofyn am farn unrhyw un oedd am gyfrannu.

    Dywedodd Mr Drakeford fod ganddo gof byw o’r drafodaeth oherwydd ar ôl mynd o amgylch y bwrdd, fe wnaeth y Prif Weinidog Johnson grynhoi yn erbyn y camau hynny trwy ddweud 'mae Dom yn dweud na.'... "doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd Dom [Dominic Cummings] bryd hynny.”

    Dominic CummingsFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Dominic Cummings yn gynghorydd Rhif 10

  10. 'Salwch ysgafn' meddai Boris Johnsonwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Y ddau brif weinidogFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dywedodd Mr Drakeford fod agwedd y Prif Weinidog Boris Johnson wedi cael effaith uniongyrchol ar ba mor ddifrifol yr oedd pobl yn cymryd Covid yn nyddiau cynnar y pandemig.

    “Barn y prif weinidog, a fynegodd fel mater o drefn ym mis Mawrth, yw bod yn rhaid i ni barhau, mae’n rhaid i ni ddweud wrth bobl mai salwch ysgafn yw hwn, nad ydyn nhw i fod yn bryderus yn ei gylch,” meddai Mr Drakeford.

    Dywed y gallai Boris Johnson fod wedi teimlo ei fod yn dilyn cyngor ynglŷn â pheidio â symud yn rhy fuan, ond ychwanega fod hyn “yn creu rhwystr penodol rhag i’r cyngor gael ei gymryd mor ddifrifol”.

  11. Pryd wnaeth Llywodraeth Cymru ddechrau cymryd Covid o ddifrif?wedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae Tom Poole KC yn gofyn i Drakeford pryd wnaeth Llywodraeth Cymru ddechrau cymryd Covid o ddifrif, gan gyfeirio at awgrymiadau blaenorol i’r ymchwiliad fod hyn tua chanol mis Mawrth 2020.

    Mae Mr Drakeford yn dweud y byddai’n ei roi “ychydig yn gynt” na hynny, ond bod hyn yn debygol oherwydd ei fod “yng nghanol” trafodaethau ac wedi gweld mwy o’r hyn oedd yn digwydd y tu ôl i’r llenni nag eraill.

    “Pe bai’n rhaid i mi ddewis dyddiad, 4 Mawrth mae’n debyg, oherwydd erbyn 4 Mawrth roeddem yn cyfarfod bob wythnos fel cabinet ar y mater hwn,” meddai.

    Ychwanegodd fod y gweinidog iechyd ar y pryd Vaughan Gething wedi gofyn i’w swyddfa glirio ei ddyddiadur ar gyfer mis Mawrth cyfan, fel y gallai ganolbwyntio’n “unig” ar Covid.

  12. 'Dim cynllun i atal y feirws rhag lledaenu i Gymru'wedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Dywed Mr Drakeford nad oes ganddo “atgof digon manwl” i nodi’r hyn a drafodwyd a’r hyn na chafodd ei drafod ym mis Chwefror 2020, ond mae’n cadarnhau “nad oedd unrhyw gynllun i atal y feirws rhag lledaenu i Gymru - byddai hynny yn uchelgais ymhell y tu hwnt i’r hyn gallem gyflawni".

    Mae hefyd yn trafod cofnodion “anghywir” cyfarfod y cabinet ar 25 Chwefror 2020 – y cyntaf y trafodwyd Covid ynddo – y soniodd Vaughan Gething amdanynt yn flaenorol.

    Roedd drafft cyntaf y cofnodion yn nodi nad oedd unrhyw achosion o Covid wedi’u mewnforio i’r DU ar y pryd, ac nid oedd hynny’n wir. Yr hyn a olygwyd, oedd bod dim wedi ei fewnforio i Gymru eto.

    Mae Mr Drakeford yn cadarnhau iddo ddarllen y cofnodion cyn cyhoeddi a gofynnodd am gael gwared ar y llinell yn gyfan gwbl.

  13. 'Hŷn, yn dlotach ac yn fwy sâl'wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Dwy ddynesFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae Mr Drakeford yn dweud wrth yr ymchwiliad fod pobl yng Nghymru yn "hŷn, yn dlotach ac yn fwy sâl" ac fe awgrymwyd iddo y dylid bod wedi cymryd camau cynharach i gynyddu'r ymateb brys. Dywedodd "nad oedd yn bwynt annheg i'w wneud."

    "P'un a oedd hynny ar ei ben ei hun yn ddigon i wneud Cymru'n allanolyn yn y paratoadau sy'n cael eu gwneud ar draws y DU... dydw i ddim yn siŵr."

    Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig, dywed Mr Drakeford: "Wrth edrych yn ôl ar faterion ac o ystyried yr hyn rydyn ni'n ei wybod nawr, mae tystiolaeth gref i awgrymu y gallai ac y dylai Cymru fod wedi cymryd camau llymach yn gynt."

    Mae’n dweud nad oedd yn ymwybodol o farn Iechyd Cyhoeddus Cymru fod yna syndod nad oedd Llywodraeth Cymru erbyn dechrau mis Mawrth 2020 yn ei drin fel digwyddiad mawr ac argyfwng sifil.

    Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn siarad â gweinidogion yn uniongyrchol, fel mater o drefn, meddai.

  14. Drakeford yn rhannu manylion syfrdanol gyda'r ymchwiliadwedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Ben Price
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae perthynas Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod y pandemig wedi bod yn fater sydd wedi denu tipyn o sylw yn ystod yr ymchwiliad dros y tair wythnos ddiwethaf.

    Unwaith eto y bore 'ma - beirniadaeth gan Mark Drakeford o gyn-Brif Weinidog y DU, Boris Johnson.

    Dyn oedd yn aml yn blaenoriaethu gwleidyddiaeth dros beth sy’n ymarferol, meddai Mr Drakeford.

    Fe wrthododd Mr Drakeford hefyd yr honiad gan gyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau ar wahan i Lywodraeth y DU heb reswm.

    Ac un o’r pethau mwyaf syfrdanol yn nhystiolaeth Prif Weinidog Cymru y bore 'ma oedd y ffaith bod hi wedi dod i’r amlwg yn ystod y pandemig nad oedd cyn-Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock, yn ymwybodol bod cyfreithiau iechyd cyhoeddus wedi’u datganoli.

  15. Dim trafodaeth yn y cabinet tan 25 Chwefrorwedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae Mr Drakeford yn dadlau bod lefel rhagweithiol Llywodraeth Cymru ar ddechrau’r pandemig yn seiliedig ar gyngor yn cael ei hidlo drwodd gan y prif swyddog meddygol ar lefel y risg, a dywed “nad oedd y signal yno ar y pryd” bod hyn yn uchel.

    Ond mae’n cyfaddef “mae achos credadwy y dylai’r signal fod wedi’i ddarllen yn gynharach, a dylem fod wedi symud [ymlaen] yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn”.

    Gofynnir i Mr Drakeford pam nad yw Covid yn ymddangos ar agendâu cabinet Llywodraeth Cymru tan 25 Chwefror 2020.

    "Ni ddylai'r ffaith na fu trafodaeth yn y cabinet tan 25 Chwefror gael ei ddarllen i feddwl nad oedd trafodaeth rhwng gweinidogion y cabinet," meddai.

    Mae'n dweud ei fod yn "siarad yn uniongyrchol" â gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething, oedd yn mynychu cyfarfodydd cynnar COBRA, a bod gweinidogion yn "cael gwybodaeth dda".

    “Ar y pwynt hwnnw, does dim byd i’r cabinet benderfynu arno,” meddai.

    "Yna daw pwynt pan ddaw'n amlwg bod y cabinet yn debygol o fod yn rhan o benderfyniadau traws-bortffolio."

    Dywed Mr Drakeford mai dyma pryd mae ymateb Covid yn cael ei ychwanegu at yr agenda, ac yn “dod i ddominyddu’n gyflym iawn” ar drafodaethau.

  16. Sicrhau cynrychiolaeth yn 'wers bwysig'wedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae’r ymchwiliad wedi symud ymlaen i drafod Sage (Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau) – y mae wedi clywed yn flaenorol nad oedd gan Gymru gynrychiolydd ynddo ar gyfer y pum cyfarfod cyntaf.

    Dywed Mr Drakeford yn y “dyddiau cynnar iawn” nad oedd yn poeni am hyn, oherwydd nid oedd “ongl arbennig o Gymreig yn yr hyn a oedd yn ffenomen fyd-eang”.

    Ond ychwanega: "Wrth i'r mis fynd yn ei flaen, es i'n fwy pryderus bod gennym ni rywun yn yr ystafell ac yn bryderus am ddiffyg gallu i ofyn cwestiynau i Gymru oedd yn berthnasol i Gymru."

    Dywed Mr Drakeford, wrth edrych yn ôl, yr hoffai weld Cymru’n cael ei chynrychioli o’r dechrau.

    “Yn fy meddwl i, byddai hynny’n wers bwysig o’r profiad roedden ni’n byw drwyddo,” meddai.

  17. 'Pam doedd dim trefniadau' cyn colli Dad?wedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Ben Price
    Gohebydd BBC Cymru

    Emma Harris
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu farw tad Emma ar ôl dal Covid yn yr ysbyty

    Wrth i'r tystiolaeth barhau, rydyn ni wedi bod yn clywed gan rai a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig.

    Fe gollodd Emma Harris ei thad, Stuart Caddy, 76, ym Mawrth 2020 ar ôl iddo ddal Covid tra’n yr ysbyty yn derbyn triniaeth ar ôl torri asen.

    “Fe wnaeth fy nhad ffonio fy mam i ddweud bod rhywun ar y ward wedi datblygu symptomau Covid ac felly roedden nhw i gyd yn cael eu profi am Covid.

    "Er oedd fy mam yn optimistaidd iawn, roedd rhywbeth yn fy mola i yn dweud bod hwn ddim yn mynd i fod yn newyddion da. Roedd fy ngreddf i’n dweud bod angen cael e mas o’r ysbyty nawr."

    Dywedodd bod “pethau mor normal" yn yr ysbyty, a "dim sôn am Covid". Ychwanegodd: "Roeddwn i’n gwybod yn iawn bod angen i fi gael e mas o’r ysbyty.”

    Ar ol derbyn y neges gan ddoctor dros y ffon bod ei thad yn marw, fe gafodd Ms Harris a’i mam y cyfle i weld ei thad yn yr ysbyty, gan nad oedd perygl o heintio erbyn hynny.

    Er iddi hi dderbyn y sefyllfa ar y pryd, nawr mae Ms Harris yn teimlo bod angen atebion arni hi a nifer o bobl eraill a gollodd anwyliaid i Covid tra’n yr ysbyty.

    “Mae cymaint o gwestiynau gyda fi. Pam? Pam doedd dim trefniadau yn eu lle ar gyfer y fath yma o argyfwng?

    "Pam doedd ysbytai heb ryw fath o contingency plans ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn? Pam doedd dim digon o PPE? Pam doedd hwn ddim yn flaenoriaeth?”

  18. 'Gallu cyfathrebu'n well yn ddwyieithog'wedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Dywed Mr Drakeford nad oedd yn cytuno â Boris Johnson a Simon Hart y dylai penderfyniadau gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU ar gyfer y DU gyfan pe bai pandemig yn y dyfodol.

    “Yn bendant dydw i ddim yn meddwl bod y dystiolaeth yn awgrymu i mi y byddai penderfyniadau a wneir yn Llundain wedi bod yn benderfyniadau gwell cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn.

    "Rydym yn anochel yn agosach at lawr gwlad, yn fwy ymwybodol o strwythurau gweinyddol, yn effro i batrymau gwahanol y clefyd, yn yr achos Cymreig yn gallu cyfathrebu'n well yn ddwyieithog. Nid wyf yn bendant yn cytuno y byddai gwell penderfyniadau wedi'u gwneud o Whitehall."

    Mae'n dweud y byddai "gallu cryfach" i gydlynu penderfyniadau rhwng pedair gwlad y DU wedi bod yn well.

  19. 'Y peth mwyaf sylfaenol yn gyfan gwbl anghywir'wedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Mae Mr Drakeford yn cyfeirio at neges a anfonwyd gan weinidog iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock, at Michael Gove ar 30 Mai 2020 - fwy na dau fis ar ôl cyhoeddi'r cyfnod clo cyntaf - lle dywedodd nad oedd iechyd y cyhoedd yn fater datganoledig.

    “Cafodd yr ysgrifennydd gwladol y peth mwyaf sylfaenol yn gyfan gwbl anghywir,” meddai Mr Drakeford, gan ychwanegu bod hyn yn dangos “diffyg eglurder parhaus dros y sail gyfreithiol ar gyfer y pwerau yr oedd eu hangen arnom”.

    Mae’n ailadrodd, hyd at 20 Mawrth 2020 - dim ond tridiau cyn y cyfnod clo cyntaf - ei fod o dan yr argraff y byddai “penderfyniadau canolog yn aros yn nwylo Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig fyddai gweithredwyr y penderfyniadau hyn”.

    Matt HancockFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwasanaethodd Matt Hancock fel ysgrifennydd iechyd Lloegr rhwng 2018 a 2021

  20. 'Storm yn ymgynnull'wedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich 13 Mawrth

    Dywed Mr Drakeford y byddai wedi hoffi gweld Boris Johnson yn cadeirio cyfarfodydd COBRA yn gynt yn y pandemig.

    Ni fyddai o reidrwydd wedi newid y camau a gymerwyd, meddai, ond byddai wedi “anfon arwydd cryfach ynghylch pa mor ddifrifol yr oedd y storm yn ymgynnull”.

    Mae Tom Poole KC yn awgrymu wrth Mr Drakeford bod ei absenoldeb ei hun o'r tri chyfarfod cyntaf COBRA wedi dangos diffyg tebyg o ran ymagwedd ddifrifol yng Nghymru.

    Mae Mr Drakeford yn dadlau ei fod bryd hynny yn fater oedd yn cael ei "ddominyddu gan iechyd", a bod angen cynghorwyr iechyd a'r rhai oedd yn gwneud penderfyniadau.