Ar y bws i'r mart: Ar daith i gael barn etholwyr Dolgellau

  • Cyhoeddwyd
Etholwyr

Wrth i wleidyddion deithio ar draws y wlad i geisio ennill pob pleidlais, Cymru Fyw sy'n eu hefelychu drwy fynd ar fws i gael barn yr etholwyr.

Yn ail rhan ein taith, mae rhai o deithwyr y TrawsCymru ac etholwyr Dolgellau ar ddiwrnod mart yn trafod yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw. I nifer, mae eu pryderon yn gyfuniad o faterion sydd o dan reolaeth San Steffan, y Cynulliad a chynghorau lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Y TrawsCymru o Fangor i Ddolgellau... ond pwy fydd wrth y llyw ar ddiwedd y daith etholiadol?

'Dwi'n nabod pobl sydd wedi cael eu evictio ac mae lot yn mynd i foodbanks' - Denise Royal

"Dwi'n fed-up achos da ni i gyd eisiau gwybod be' sy'n digwydd efo Brexit a maen nhw'n hymian a haian. Allai'm agor y papur heb Brexit hyn, a Brexit llall.

"Mae tai yn broblem. Sna'm digon i bobl leol a ma' lot sydd ar housing benefit yn cwyno am yr universal credit. Mae pawb yn dweud 'di nhw methu côpio efo fo achos ti'n cael y pres bob mis ac yn gorfod talu'r landlord dy hun. Efo housing benefit oedda nhw'n rhoi o'n syth i'r landlord.

"Os ti ddim yn talu rhent ti'n cael fflich allan ac wedyn mae'r llywodraeth yn gorfod talu am B&B iddyn nhw achos sgeno nhw ddim lle i fyw - sy'n costio mwy yn y pen draw.

"Dwi'n dallt be' sy'n digwydd - ti'n meddwl 'ma pres yn isel mis yma, nai'm talu rhent mis yma' ac wedyn mae'n mynd yn fis arall, ac un arall. Dwi'n ok fy hun - dwi mewn lle da rŵan - ond dwi'n nabod pobl sydd wedi cael eu evictio ac mae lot yn mynd i foodbanks."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dorothy Lloyd am weld "fwy o bensiwn i'r henoed"

Mae Dorothy Lloyd, oedd yn teithio o Borthmadog i Finffordd, yn pleidleisio i'r un blaid bob tro: "Mae angen mwy o bensiwn i'r henoed. Mae'n bwysig cael pensiwn iawn.

"Maen nhw wedi stopio'r leisans teledu a bob dim rŵan."

'Roeddwn i'n teithio am 10 mlynedd i Fanceinion i weithio' - Stuart Wilson

"Dwi'n byw ym Mhwllheli, ond wedi dal y bws i fynd i gerdded wrth ymyl Dolgellau - i Goed-y-Brenin.

"Floating voter ydw i, dwi heb ddewis eto - ond Brexit ydy'r peth mwya'. Nes i bleidleisio yn erbyn yn wreiddiol, a dwi dal efo'r un farn ond dwi ddim yn siŵr os ddyla' ni gael refferendwm arall a bod yn onest. Mae'n siŵr mod i'n derbyn y dyla ni adael er mod i yn erbyn y peth.

"Y peth arall pwysig i fi ydy rhoi mwy o ystyriaeth i ardaloedd sydd ddim yn ne ddwyrain Lloegr. Dwi'n dod o Lancashire yn wreiddiol, ac mae gogledd Lloegr bob tro wedi cael ei anghofio - ac mae'r un broblem fan yma yng Nghymru - y gogledd yn cael ei anghofio gan dde Cymru.

"A dylai 'na fod lot o help i'r genhedlaeth ieuengach sy'n dechrau yn y byd gwaith. Tydi o ddim yn hawdd cael gwaith yma.

"Dwi wedi ymddeol ond roeddwn i'n arfer teithio am 10 mlynedd i Fanceinion i weithio. Dechrau am 05:00 bob bore Llun, a 'nôl nos Wener - doedd y gwaith ddim yma i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n anodd dianc rhag Ewrop yn y mart yn Nolgellau

'Pan dwi'n dewis, bod yn hunanol ac edrych ar ôl fi fy hun fydda i' - Arwel Wyn Griffiths

"Yndi, mae'r etholiad ar fy meddwl i. Yndi mae o. Pa ffordd mae pethau yn mynd i fynd dwi ddim yn gwybod.

"Mae rhywun yn trafod Brexit a gwleidyddiaeth yma - fel 'da ni'n gweld hi mae'r gwleidyddion yn anghywir bob tro yn dydyn nhw.

"Mae'n bechod bod ni'n gorfod cael y grantiau yma i gario 'mlaen yn tydi, mae'n biti fasa ni'm yn gallu byw hebddyn nhw a'r arian fynd i rywle arall sydd angen o, ond allwn ni ddim gwneud hebddo fo. Mae'n rhaid iddyn nhw gael rhyw fath o schemes i ni neu mae cefn gwlad yn mynd.

"Pan dwi'n dewis, bod yn hunanol ac edrych ar ôl fi fy hun fydda i - mae amaeth yn dod i mewn iddi a chefn gwlad ac mae lle dwi'n byw yn bwysig iawn i mi."

'Mae gen i fab sy'n 24 a merch sy'n 21 a 'da chi jest yn poeni am eu dyfodol nhw' - Carys Redman

"Dwi'n dod yma i'r mart i dorri gwallt ers tua 14 mlynedd. Mae hogia'r ffermydd i gyd yn cefnogi fi yn ofnadwy o dda.

"Mae'n dda iddyn nhw hefyd achos tydi nhw ddim yn gorfod mynd i fewn i'r dre' i dorri gwallt, mae nhw'n dod yma yn eu dillad gwaith tra yn y mart.

"Mae'r ffermwyr yn licio sgwrs efo fi am bethau.

"Maen nhw'n poeni am Brexit a be' sy'n mynd i ddigwydd i amaeth a'u diwydiant - mae o'n boen meddwl iddyn nhw ond gobeithio neith nhw benderfynu'r peth iawn i bawb.

"Dwi ddim am fotio tro yma, nes i tro diwetha' a 'nath o ddim helpu'r mater o gwbl. 'Da ni gyd wedi dweud be' 'da ni eisiau dweud a wnaeth o ddim neud dim gwahaniaeth o gwbl.

"Dwi'n poeni am y plant ifanc mwy na dim. Mae gen i fab sy'n 24 a merch sy'n 21 a 'da chi jest yn poeni am eu dyfodol nhw.

"Mae'r ferch yn gobeithio dod yma ar fy ôl i ond fydd mart adeg hynny? 'Da ni'm yn gwybod. 'Da ni'n gobeithio byddwn ni dal efo busnes amaeth i gefnogi ni."

Dadansoddiad Steffan Messenger, Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

Er bod ffermio wedi'i ddatganoli i Fae Caerdydd, mae'n destun trafod amlwg yn yr etholiad cyffredinol.

A hynny am mai yn San Steffan y mae'r holl benderfyniadau allweddol ynglŷn â Brexit yn cael eu gwneud.

Prin yw'r diwydiannau fydd yn cael eu heffeithio'n fwy o adael yr Undeb Ewropeaidd nac amaeth.

Ar hyn o bryd mae dros 80% o incwm ffermydd yng Nghymru yn dod o gymorthdaliadau'r UE, canran llawer uwch na gweddill y Deyrnas Unedig.

A 90% o'r cynnyrch y maen nhw'n ei allforio yn mynd i'r cyfandir.

Er eu bod yn cydnabod bod nifer o ffermwyr wedi'u llethu gan y broses, mae arweinwyr y diwydiant am weld y pleidiau'n ymrwymo i'r posibilrwydd o estyniad arall neu hyd yn oed diddymu erthygl 50.

A hynny tan fod cytundeb masnach benodol wedi'i sicrhau.

'Pa wahaniaeth mae'r holl etholiadau wedi gwneud i'n bywydau ni? Ychydig ar y naw mewn gwirionedd' - Alun Edwards

"Dwi'n 60 oed felly dwi wedi gweld sawl etholiad dros y blynyddoedd a dwi ddim callach a dweud y gwir.

"Be' sy'n drawiadol i fi ydy 'da ni erbyn hyn mor gysylltiedig gyda'r cyfryngau a gyda newyddion a dwi wastad yn meddwl tybed tasa ni ddim yn clywed gymaint am wleidyddiaeth a fyddai bywyd ni yn wahanol? Sicr fydda ni'n hapusach.

"Pan mae dyn yn gofyn pa wahaniaeth mae'r holl etholiadau ac ymgyrchu yma wedi gwneud i'n bywydau ni - yn y diwedd ychydig ar y naw ydy o mewn gwirionedd.

"OK mae newidiadau bach man drethiannol, mae 'na newidiadau o ran cyfeiriad llywodraeth - ond yn y pen draw tydi o byth yn chwyldroadol achos maen nhw'n trio plesio pawb yn de a dwi'n cyd-ymdeimlo efo nhw yn hynny, pa bynnag blaid ydyn nhw."

'Ers y refferendwm, mae dau etholiad wedi bod wedyn, a 'da ni dal i mewn yn Ewrop' - Emlyn Roberts

"Mae'r byd gwleidyddol ar ein meddwl ni ers tair blynedd a hanner rŵan - ers y refferendwm. Mae dau etholiad wedi bod wedyn, a 'da ni dal i mewn yn Ewrop. Mae'r wlad 'ma mewn bach o lanast gwleidyddol dwi'n meddwl.

"Yn bendant mae'n ein pryderu ni - bendant. 'Da ni'n ddibynnol ar farchnad Ewrop yn enwedig yn y mynyddoedd yma, ond hefyd mae lot o beef ac ŵyn lawr gwlad yn mynd drosodd i Ewrop - mae'n farchnad sydd ar stepan drws.

"Mae Brexit am fod ar fy meddwl pan yn pleidleisio, ond hefyd mae'r unigolyn yn bwysig a beth mae'r unigolyn yn ei wneud i'r etholaeth. Gobeithio bydd yr elfen Brexit wedi ei sortio yn eithaf buan ac mae pethau eraill wedi eu hesgeuluso yn y wlad ers tair blynedd a hanner i raddau.

"Mae trade yn eithaf yma heddiw. Mae'n rhyfedd iawn ers wythnos ola' mis Hydref pan oedd extension ar Brexit a bod y no deal oddi ar y bwrdd am dri mis arall bod prisiau ŵyn a gwartheg wedi sharpio 'chydig bach a dwi'n bersonol yn meddwl bod o wedi codi hyder am dri mis wrach."

'Peth ola' da ni isio ydy'r plant bach yn chwarae yn dweud "mae parti fi'n well na dy barti di"' - Geraint Davies

"Dwi ddim yn croesawu'r etholiad - achos mae ganddo ni rhwng rŵan a diwedd Ionawr i ddod allan o Ewrop, a chael etholiad yn ei ganol o. Even though mae lot o bobl yn meddwl bod o'n syniad da, dwi'n meddwl bod o'n syniad gwirion.

"Mae ganddo ni gymaint o ansicrwydd o'n blaen a'r peth ola' da ni isio ydy'r plant bach yn chwarae yn dweud 'mae parti fi'n well na dy barti di' ac yn gaddo'r byd ond ddim yn delifro dim byd ar ei ddiwedd o.

"Mae Brexit ar y gweill ond mae ganddo ni climate change o'n blaenau ac mae hwnna'n bwysicach eto, ond does dim llawer o son am climate change yn yr election eto felly mae'n hen bryd iddyn nhw ddechrau deffro."

'Pawb yn deud bod ni'n mynd i fynd i recession a bob peth, ond dyda ni ddim nachdan' - Dai Lloyd

"Dwi yma i werthu gwartheg - dwi wedi gwerthu'r heffrod ac mae'r bustych yn mynd yn munud.

"Dwi'n gobeithio eith Boris i mewn i ni gael mynd allan yn de, mae pawb yn ei erbyn o yn dydy - mae 'na ormod o Remainers yn y llywodraeth yn does.

"Mae lot o ffarmwrs eisiau aros fewn, ond allan dwi eisiau mynd. Roedd Boris wedi cael deal yn doedd ond neb eisiau bacio fo. Brexit ydy'r prif beth, ond dwi wedi fotio Toris erioed achos maen nhw'n edrych ar ôl busnesa bach.

"Economi sy'n bwysig i bawb gael ffynnu yn de. Pawb yn deud bod ni'n mynd i fynd i recession a bob peth, ond dyda ni ddim nachdan.

"Mae lot o bobl mewn gwaith, mwy na sydd erioed wedi bod mewn gwaith erioed - job cael rhywun i weithio i chi felly mae hynny'n rhywbeth da mae'n siŵr dydy."

'Tydio ddim yn teimlo'n od bod yma fel Ffrancwr yng nghanol Brexit' - Yann Le Corre

"Sgen i ddim pleidlais achos dwi'n byw yn Brest yn Llydaw ond yn aros yng Nghaerdydd drwy'r tymor nionod - rhwng Awst a diwedd Chwefror. Bob bore dwi'n plethu nionod at ei gilydd a bob nos dwi allan efo fy meic a het Ffrengig yn mynd drws i ddrws o gwmpas Caerdydd.

"Dwi'n dod yma i Ddolgellau bob dau fis i werthu nionod - ac yn mynd o gwmpas Cymru i gyd.

"Tydio ddim yn teimlo'n od bod yma fel Ffrancwr yng nghanol Brexit - mae ganddo ni ddelwedd dda yma, a 'da ni'n gwerthu nionod drosodd yma ers 200 mlynedd - felly mae pobl yn meddwl ein bod ni'n ran o'r lle.

"Wnaiff Brexit ddim effeithio fi rŵan, ond ella yn y dyfodol efo trafeilio gawn ni broblemau - ond dwn i'm."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Buddug Llwyd Jones am weld mwy o reolaeth yng Nghymru

Buddug Llwyd Jones: "Egwyddor pam dwi'n pleidleisio yw mod i eisiau senedd i Gymru - dwi isio pobl i redeg fy ngwlad fy hunain yn fy ngwlad fy hunain.

"Mae mor syml a hynny dweud gwir - di'o ddim lot i ofyn nadi."

'Dwi newydd fod yn yr ysbyty dechrau'r flwyddyn a gorfod mynd yn breifat yn diwedd' - Myfyr Wyn

"Ar y diwrnod fyddai'n penderfynu. Dwi ddim yn gwybod pa ffordd i fynd dweud gwir. Hospitals a petha fel yna sy'n bwysig i fi. Fotio i gael gwell hospitals a service.

"Dwi newydd fod yn yr ysbyty dechrau'r flwyddyn a gorfod mynd yn breifat yn diwedd neu faswn i wedi gorfod disgwyl saith mis arall i fynd i hospital - a faswn i methu disgwyl saith mis arall de."

'Heb busnesau yn y dref does dim gwaith o gwbl i bobl ifanc' - Llinos Rowlands

"Dydy etholiad byth yn dda i fusnes o gwbl. Os ydy chi ddim ond yn cymryd yr holl bobl sydd ynghlwm efo'r etholiad ei hun, allan yn canfasio ac yn y blaen - mae llawer iawn o bobl yn brysur a ddim yn dod allan. Mae meddyliau pobl ar bethau eraill.

"Mi fyddai yn pleidleisio. Be' fydd yn fy meddwl fydd Brexit oherwydd mae hwnnw yn effeithio arnom ni fel busnes gan ein bod ni'n mewnforio gwin, ond mae pethau eraill fel gwariant ar wasanaeth iechyd yn bwysig ac hefyd cefnogaeth i fusnesau.

"Ni sy'n cadw canol y dref i fynd a chyflogi pobl - heb busnesau yn y dref does dim gwaith o gwbl i bobl ifanc."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru Fyw yn ymweld ag ardal arall o Gymru yn fuan

Ymgeiswyr Dwyfor Meirionnydd

  • Tomos Dafydd Davies - Ceidwadwyr

  • Graham Hogg - Llafur

  • Louise Hughes - Plaid Brexit

  • Liz Saville Roberts - Plaid Cymru