Cystadleuwyr 2012 : Fred Evans
- Published
Bocsio (pwysau welter, 69kg)
Ganwyd: 04/02/91
Uchafbwynt gyrfa
Fe greodd Fred Evans hanes yn 2011 drwy fod y Cymry cyntaf ers 86 o flynyddoedd i ennill medalau aur ym Mhencampwriaeth Ewrop.
Fe drechodd Evans Mahamed Nurudzinau o Belarus 15-9 yn y rownd derfynol yn Nhwrci, ac yna fe goronodd flwyddyn wych drwy gyrraedd rownd wyth olaf Pencampwriaeth y Byd a sicrhau ei le yn y Gemau Olympaidd.
Cefndir gyrfa
Aeth y bachgen o Gasnewydd i glwb bocsio am y tro cytnaf pan yn bedair oed, ac fe gafodd ei ornest gyntaf pan yn 10 oed.
Dywedodd bod gwylio Amir Khan yn ennill medal arian yn y Gemau Olympaidd yn Athen yn 2004 wedi ei ysbrydoli.
Evans sy'n gyrru pan ei fod e ac Andrew Selby yn teithio 200 milltir bob penwythnos o Gymru i Sheffield i hyfforddi yn Sefydliad Chwaraeon Lloegr.
Mae'n dychwelyd i'w glwb bocsio lleol ar benwythnosau i weithio gyda'i hyfforddwr Tony Borg.
Ffaith ddiddorol
Aeth Fred Evans i'r Gemau Olympaidd yn Beijing fel gwyliwr o dan gynllun uchelgais Cymdeithas Olympau Prydain.
Mae'n fwriad gan Evans i droi'n broffesiynnol wedi Gemau Llundain 2012.