Bydd cod papurau newydd cynghorau yn cael ei adolygu

  • Cyhoeddwyd
Papurau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi dweud bod trethdalwyr yn meddwl bod papurau cynghorau'n ddefnyddiol

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n adolygu'r cod sy'n caniatáu i gynghorau Cymru gynhyrchu papurau newydd.

Yn ôl BBC Cymru, nid yw pob awdurdod yn cynhyrchu un ond mae 16 yn gwario mwy na £1m arnyn nhw bob blwyddyn.

Mae papurau newydd y mae'r cyhoedd yn talu amdanyn nhw wedi dweud bod y gystadleuaeth yn annheg.

Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol fod llawer o drethdalwyr yn meddwl bod papurau newydd y cynghorau'n ddefnyddiol.

Dwywaith

Dyw Ceredigion, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg ddim yn cynhyrchu papur newydd ac mae Sir Benfro'n cynhyrchu taflen newyddion ar-lein.

Tra bod Capital Times Caerdydd yn cael ei gyhoeddi 13 o weithiau bob blwyddyn mae Newyddion Môn yn cael ei gyhoeddi ddwywaith.

Mae'r cod, gafodd ei lunio yn 2001, yn cyfeirio at nifer o faterion, gan gynnwys cynnwys, arddull a hysbysebu.

Dim tystiolaeth

Yn Lloegr mae'r Ysgrifennydd Cymunedau, Eric Pickles, am wahardd cynghorau rhag cyhoeddi papurau newydd fwy na phedair gwaith y flwyddyn.

Ond deellir na fydd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, yn dilyn yr un camau.

Mae adroddiad pwyllgor Seneddol yn ddiweddar wedi dweud nad oes tystiolaeth fod papurau newydd cynghorau'n cystadlu â phapurau newydd traddodiadol.