Pryder undeb am bapur dyddiol

  • Cyhoeddwyd
Western MailFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Undeb: 'Angen trin papurau newydd fel asedau cenedlaethol'

Mae Undeb y Newyddiadurwyr wedi honni y gallai'r Western Mail droi'n wythnosol yn lle dyddiol.

Mae'r undeb wedi dweud y gallai hyn ddigwydd "o fewn cyfnod cymharol brin".

Yn y cyfamser, mae cyhoeddwyr y papur, Trinity Mirror, wedi dweud nad oedd cynlluniau o gwbl i droi'r papur yn wythnosolyn.

Roedd rhybudd yr undeb mewn cyflwyniad i Aelodau Cynulliad sy'n ymchwilio i ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru.

Dywedodd Cangen De-ddwyrain Cymru yr undeb eu bod yn credu bod y diwydiant mewn "sefyllfa argyfyngus a pheryglus".

Roedd elw papurau newydd wedi gostwng yn aruthrol, meddai, a thoriadau llym wedi ac yn digwydd.

'Dim cynlluniau'

Grŵp Media Wales sy'n cyhoeddi'r Western Mail, y South Wales Echo a'r Wales on Sunday.

Dywedodd yr undeb fod llawer o aelodau yn credu bod "oes papurau newydd yn gyfyngedig."

"Mae sibrydion y gallai'r Western Mail droi'n bapur wythnosol.

"Os bydd hynny'n digwydd bydd llawer mwy o swyddi'n cael eu colli ac fe fydd Cymru'n colli yr unig bapur dyddiol sy'n ceisio bwrw golwg genedlaethol ar y wlad."

Dywedodd Trinity Mirror, perchnogion y Western Mail: "Does gennym ni ddim cynlluniau o gwbl i droi'r Western Mail yn bapur wythnosol."

Mae'r undeb yn amcangyfrif bod 100 o swyddi golygyddol wedi eu colli yn Media Wales rhwng 2003 a 2011 a bod y cwmni'n cyflogi tua 138 o newyddiadurwyr.

Yn ôl yr undeb, mae rheolwyr lleol wedi gorfod gwneud toriadau sy'n cael "effaith negyddol" ar bapurau Cymreig y cwmni.

Fel rhan o gynllun ailstrwythuro, cyhoeddwyd ym mis Gorffennaf y byddai 22 o swyddi newyddiadurwyr yn cael eu colli.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd gan y Western Mail gylchrediad o 26,931 ar gyfartaledd yn hanner cyntaf 2011 - gostyngiad o 8.9% ers y flwyddyn gynt.

'Bygythiad difrifol'

Dywedodd Cyngor Cymreig yr undeb y byddai mwy o ddiswyddiadau yn "anochel," gan fygwth democratiaeth yng Nghymru.

Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i drin papurau newydd fel "asedau cymunedol a chenedlaethol", ac yn dweud y dylai gwleidyddion ofyn i grwpiau cyfryngol eu hysbysu os oedd bwriad i gau papurau.

Roedd yr undeb hefyd yn cwyno am y bygythiad i ddarlledu, gan ddweud y byddai newidiadau yn y modd y mae S4C yn cael ei ariannu yn "arwain at ansefydlogi cyfryngau Cymreig sydd eisoes yn simsanu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol