Cyngor tref i gyhoeddi oriel y dihirod
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor tref ym Mhowys yn bwriadu cyhoeddi lluniau pobl sy'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol mewn papurau newydd lleol.
Mae cyngor tref Y Trallwng yn bwriadu defnyddio eu System Teledu Cylch Cyfyng i gyhoeddi lluniau o bobl sy'n troseddu'n rheolaidd mewn oriel fisol arbennig mewn papurau newydd.
Dywedodd clerc y cyngor, Robert Robinson, y byddai'n disgwyl i gynghorwyr benderfynu ynghylch y cynllun ym mis Rhagfyr.
Y disgwyl yw y bydd pobl feddw a phobl sy'n gadael eu cŵn i faeddu strydoedd y dref yn cael eu targedu.
'50 ymateb'
Yn ôl Mr Robinson mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn un o "brif bryderon" trigolion Y Trallwng.
Ychwanegodd fod gweithgor yn ystyried defnyddio lluniau pobl mewn papurau newydd lleol a bod cyfnod ymgynghori'r cynllun wedi dechrau.
"Rydyn ni'n gofyn i bobl am eu barn ynghylch y cynllun a hyd yn hyn mae pob un o'r 50 ymateb rydyn ni wedi erbyn yn cefnogi'r prosiect," meddai Mr Robinson.
"Byddwn ni'n ystyried troseddau fel cŵn yn baeddu a phobl feddw yn chwydu yn y stryd yn ogystal â throseddau eraill sy'n ymwneud ag alcohol.
"Ond fyddwn ni ddim yn mynd mor bell a defnyddio lluniau pobl sy'n taflu sigarennau ar y stryd."
Dywedodd Mr Robinson fod cyngor y dref yn rheoli 15 camera cylch cyfyng yn Y Trallwng.
"Rydyn ni'n ceisio dangos i bobl fod genyn ni dref fechan hyfryd ac rydyn ni'n ceisio ei chadw fel 'na." meddai.
"Mae genyn ni broblem o gŵn yn baeddu ar ein caeau chwaraeon, mannau agored cyhoeddus ac wrth ymyl y gamlas.
"Ond nid yw pobl yn cael eu dal am nai dim ond un warden cŵn sydd yn gweithio yn Y Trallwng."
Ychwanegodd fod clytiau brwnt wedi eu canfod mewn clawdd yn agos i faes chwarae yn y dref.
Dywedodd Mr Robinson ei fod yn meddwl bod cynghorwyr o blaid y cynllun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011