Lluniau: Symud archif BBC Cymru i gartref newydd

  • Cyhoeddwyd

Mewn adeilad tywyll ym mherfeddion adeilad y BBC yn Llandaf, mae newid mawr ar y gweill.

Yr wythnos hon fe gymrodd BBC Cymru reolaeth o'i phencadlys newydd yng nghanol Caerdydd - ond beth fydd yn digwydd i holl archif teledu a radio BBC Cymru?

silffoedd
line
Un o hen eitemau ffilm y gyfres newyddion Heddiw o 1970

Mae'r broses o ddigido'r casgliad ffilm - dros 13,000 can o ffilm - eisoes wedi cychwyn. Fel yr hen eitem ffilm yma o'r gyfres newyddion Heddiw o 1970.

line
Ond mae 'na lawer mwy o rai tebyg ar y silffoedd

Ond mae 'na lawer mwy o rai tebyg dal i fod ar y silffoedd...

line
A nid dim ond ffilm sy'n cael eu cadw yma, ond hen dapiau fideo hefyd

Ac nid dim ond ffilm sy'n cael ei gadw yma, ond hen dapiau fideo hefyd. Dyma ran o'r casgliad o 4,728 o dapiau un modfedd sydd ar y silffoedd, sydd i gyd erbyn hyn wedi'u digido.

line
Hen ddesg olygu ffilm Steinbeck sydd yn cael ei ddefnyddio i droi'r deunydd ffilm yn ddigidol

Hen ddesg olygu ffilm Steenbeck sydd yn cael ei defnyddio i droi'r deunydd ffilm yn ddigidol.

steenbeck
line
Mae'r camera digidol hyn yn ffilmio pob ffrâm o'r ffilm wrth iddo gael ei chwarae ar i fyny at bump gwaith y cyflymder arferol

Mae'r camera digidol hwn yn ffilmio pob ffrâm o'r ffilm wrth iddo gael ei chwarae hyd at bum gwaith y cyflymder arferol.

line
hen spools
line
Dyma fel roedd hen straeon newyddion yn cael eu catalogio- Hen doriadau papur newydd o'r 60au a'r 70au mewn cwpwrdd ffeilio

Ymhell cyn dyfodiad y we, dyma sut yr oedd hen straeon newyddion yn cael eu catalogio - hen doriadau papur newydd o'r 60au a'r 70au mewn cwpwrdd ffeilio.

line
sgrin
line
Ac wrth gwrs, mae'r sgriptiau a'r gwaith papur sydd yn mynd gydag unrhyw gynhyrchiad...bocsys a bocsys o ddogfennau papur

Ac wrth gwrs, mae'r sgriptiau a'r gwaith papur sydd yn mynd gydag unrhyw gynhyrchiad i gyd yn cael eu cadw yma hefyd...bocsys a bocsys o ddogfennau papur, yn ogystal â'r 64,000 o dapiau AV, a'r 100,000 o dapiau sain sydd hefyd yn byw yma.

line
Ond pan mae'r ffilm yn torri, rhain mynd yn ôl at y dulliau hen ffasiwn o'i drwsio

Ond pan mae'r ffilm yn torri, rhaid mynd yn ôl at ddulliau hen ffasiwn o'i thrwsio.

line
ffilm yn rhedeg
line
can ffilm
line

Hefyd o ddiddordeb