BBC Cymru yn cymryd rheolaeth o'i phencadlys newydd
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cymryd rheolaeth o'i phencadlys newydd yng nghanol Caerdydd ddydd Mawrth.
Tra bod y gwaith adeiladu wedi ei orffen, bydd hi'n cymryd tua 18 mis i osod technoleg darlledu yn yr adeilad newydd.
Y bwriad yw bod y gweithwyr cyntaf yn symud o Landaf i'r adeilad newydd erbyn diwedd 2019.
Mae'r adeilad yn rhan greiddiol o ddatblygiad y Sgwâr Canolog sy'n cynnwys swyddfeydd a siopau, ac wedi'i leoli ar hen safle orsaf fysiau Caerdydd.
'Cartref creadigol'
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Hall fod y Sgwâr Canolog yn garreg filltir bwysig iawn o ran datblygu sector creadigol Cymru.
Ychwanegodd: "Mae'n ganolfan arbennig a fydd yn gartref creadigol i'r BBC yng Nghymru am genedlaethau i ddod.
"Ochr yn ochr â'n buddsoddiad mawr mewn rhaglenni o Gymru nawr - o Valleys Cops a Keeping Faith i Radio Cymru 2 - rwy'n credu y bydd y ganolfan newydd wych hon wir yn denu talentau creadigol newydd."
Pencadlys newydd y BBC fydd yr un cyntaf o'i fath ym Mhrydain i ddefnyddio technoleg rhyngrwyd protocol ar gyfer gwaith darlledu a chynyrchiadau.
Pan fydd wedi ei orffen bydd rhai o staff S4C yn gweithio oddi yno a bydd mynediad cyson i weithwyr o'r sector cynhyrchu annibynnol.
Mae'r pencadlys newydd yn 150,000 troedfedd sgwâr - hanner maint y cyfleusterau presennol yn Llandaf ac yn llai costus fel adeilad i'w rhedeg.
'Gwireddu gweledigaeth'
Yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies mae'r ganolfan newydd yn rhan hanfodol o foderneiddio BBC Cymru.
"Rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i'n holl bartneriaid. Maen nhw wedi mynd gam ymhellach o'r diwrnod cyntaf un i'n helpu ni i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer y ganolfan newydd hon," meddai.
"Mae'r dirwedd gyfryngol yn newid yn gyflymach nag erioed o'r blaen - ac mae Sgwâr Canolog yn rhan hanfodol o'n strategaeth i foderneiddio ac adnewyddu BBC Cymru, a sicrhau ein bod ni'n gwasanaethu ein holl gynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru."
Mae adroddiad newydd wedi ailddatgan y bydd y ganolfan ddarlledu yn cyfrannu £1.1 biliwn i economi ardal ganolog Caerdydd yn ystod y ddegawd nesaf. Roedd hyn yn un o'r casgliadau gafodd eu gwneud yn 2015.
Dywedodd BOP Consulting, wnaeth gynhyrchu'r ddau adroddiad ar gyfer y BBC, fod hyn yn gyfystyr â 1,900 o swyddi llawn amser ac yn cynnwys y rhai fydd yn gweithio o'r pencadlys, yn ogystal â gweithwyr o fusnesau newydd.
Mae'r ddogfen hefyd yn darogan cynnydd mewn gwariant gan ymwelwyr ac yn dweud y bydd y tai newydd sydd wedi eu cynllunio ar gyfer pencadlys presennol y BBC yn cael effaith economaidd hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2015