Lluniau: Gŵyl Nôl a Mla'n 2018
- Cyhoeddwyd
Roedd yr haul yn gwenu unwaith eto eleni ar Ŵyl Nôl a Mla'n yn Llangrannog ar Orffennaf 6 a 7. Dyma gip ar y penwythnos trwy lens y ffotograffydd Lleucu Meinir.


Un i fi... un i ti. Allwch chi byth fynd i ŵyl ar draeth Llangrannog heb fwynhau sglods!

Roedd 'na sawl Parti Plu yn mwynhau'r ŵyl hefyd

Cyfle i ddal fyny gyda hen ffrindiau

Ail Symudiad ar lwyfan y traeth nos Wener

Teulu'n mwynhau pizza ar noson braf o haf

Los Blancos yn swyno'r dorf

Yr unig bêl-droed ar feddyliau'r plant yma bnawn Sadwrn oedd ar y traeth gyda'u ffrindiau, er gwaetha'r niwl ddaeth i mewn o'r môr am gyfnod

Ffrindiau'n cwrdd

Mared Williams ar lwyfan y traeth

Roedd lot o ddawnsio a chwifio breichiau i gyfeiliant Mei Gwynedd!

Tad a merch yn mwynhau cwmni ei gilydd

Roedd yna dorf ar y stryd yn ogystal â'r traeth

Roedd pobl o bob oed yn mwynhau Geraint Jarman yn perfformio ar lwyfan Radio Cymru nos Sadwrn

Mwynhau machlud y gorllewin... a'r gerddoriaeth.
Hefyd o ddiddordeb: