Lle oeddwn i: Eleri Llwyd a Cân i Gymru 1971

  • Cyhoeddwyd
Eleri LlwydFfynhonnell y llun, Raymond Daniel

Dros 40 mlynedd yn ôl enillodd y gantores ifanc Eleri Llwyd gystadleuaeth y gân orau ar raglen Disc a Dawn gyda'r gân Nwy yn y Nen, wedi ei hysgrifennu gan Dewi Pws.

Y gystadleuaeth hon a ddatblygodd yn nes ymlaen yn gystadleuaeth Cân i Gymru. Mae'r gân yn ymddangos ar ail-gyhoeddiad label Sain o record hir unigol Eleri Llwyd o 1977, Am Heddiw Mae Nghân, sy'n cael ei rhyddhau fis Awst 2018 - y gyntaf yng nghyfres newydd y label o recordiau feinyl eiconig.

Mae hi bellach wedi ymddeol fel athrawes Saesneg ac yn byw yn Llanuwchllyn ger Y Bala lle bydd noson i ddathlu ail-gyhoeddi'r albym ar y cyd â Glain Rhys ar nos Iau 5 Gorffennaf.

Beth mae hi'n ei gofio am y cyfnod?

Yn 1971 ro'n i yn y drydedd flwyddyn yn y coleg yn Aberystwyth yn astudio Saesneg.

Roedd yn gyfnod gwleidyddol. Y Nhw oedd y band cyntaf roeddwn i ynddo ac wedyn Y Chwyldro wrth i bethau ddatblygu'n wleidyddol a chanu protest fynd yn fwy poblogaidd ymysg cynulleidfaoedd ifanc, yn enwedig yn y colegau.

Roedden ni'n chwarae mwy o ganeuon Hefin Elis a'r caneuon yn tueddu i fod yn fwy gwleidyddol a sôn am baentio arwyddion a phethau felly.

Roedd gan Y Chwyldro ganeuon fel Rhaid Yw Eu Tynnu i Lawr [am yr ymgyrch dros arwyddion Cymraeg] a chaneuon am dai haf.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Y Chwyldro yn canu am bynciau gwleidyddol fel ymgyrch y 60au a'r 70au dros arwyddion Cymraeg

Y BBC oedd yn darlledu'r gystadleuaeth ar y pryd ac yn dewis y caneuon a phenderfynu pwy fyddai'n addas i'w canu nhw, ac mi ofynnwyd imi ganu Nwy yn y Nen [oedd yn cael ei galw'n Breuddwyd ar y pryd].

Roedd hi'n gân bobogaidd iawn ac aethon ni draw i Iwerddon efo hi i gystadlu yng Nghilarni a chriw ffilmio yn ein dilyn ni i bob man - ac fe gafon ni ail!

Roeddwn i ffwrdd yn canu yn rhywle o hyd yn ystod fy nghyfnod yn y coleg.

Dim ots lle roeddach chi'n mynd yn y Gymru Gymraeg roedd llefydd yn llawn - roeddan ni'n mynd lot i Wrecsam, oherwydd roedd 'na lot o bobl yn trefnu nosweithiau Cymraeg yno, a lot i'r de orllewin a Sir Benfro hefyd.

Roedd yna lot o waith ar gael ar y pryd mewn cyngherddau ac ar raglenni teledu.

Wrth edrych nôl ar y cyfnod mi faswn i'n licio petawn i wedi cymryd y peth ychydig bach mwy o ddifri ond roedden ni'n meddwl nad oedd yna ddyfodol i hyn - seize the day a mwynhau oedden ni.

Fe wnaeth Pete Griffiths, oedd yn cyfansoddi ar gyfer Y Nhw, barhau imi fel cyfeilydd wedyn pan wnes i barhau fel unawdydd.

Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eleri Llwyd yn unawdydd llwyddiannus

Hyd yn oed ar ôl imi ddechrau dysgu, roedd 'na gyngherddau yn ystod yr wythnos a bron bob penwythnos - dwn im sut roeddan ni'n ei wneud o achos roeddan ni'n teithio tan yr oriau mân ac wedyn yn codi i fynd i'n gwaith!

Ond doedd gen i ddim digon o ffydd y buasai yna ddigon o waith i fynd i ganu. Roedd yn dipyn o gam i wneud penderfyniad felly.

Efallai y byddai rhywun wedi cymryd y risg heddiw ond bryd hynny roedd hi'n bwysig cael swydd wrth gefn, ac efallai'r adeg hynny nad oedd dysgu'n yrfa mor ofnadwy o wirion efo'r holl waith papur sydd rŵan - doedd o ddim yn sugno'r nerth a'r egni a'r brwdfrydedd allan ohonach chi fel mae o heddiw.

Mae ail-gyhoeddi'r albym wedi dod allan o 'unlla. Mae pobl wedi lluchio eu chwaraewyr recordiau ers blynyddoedd. Mae'r hen feinyl acw yn yr atig ond doeddwn i ddim yn cofio hanner y caneuon! Mae'r holl beth yn annisgwyl!

Bydd albym Am Heddiw Mae Nghân ar gael ar 3 Awst ac Eleri'n canu yn y Tŷ Gwerin ar ddydd Mawrth Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Efallai o ddiddordeb: