Lluniau: Tafwyl 2018
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos daeth degau o filoedd i Gastell Caerdydd unwaith eto i fwynhau ffair Tafwyl 2018.
Roedd hi'n boeth, roedd y ciwiau'n hir ond roedd yr adloniaint a'r hwyl yn gorchfygu'r cyfan. Diolch i Kristina Banholzer am y lluniau.



Dwylo lan os ydych chi'n aelod o'r band, Lleden






Lleuwen yn dod ag ychydig o lonyddwch i'r Sgubor ar b'nawn Sadwrn poeth




Eden oedd yn perfformio nos Sadwrn ar y prif lwyfan




Roedd y straen yn ormod i rai!


Osian Candelas yn rhoi gwersi canu yn ystod eu set ar y prif lwyfan dydd Sul


Roedd yna adloniant i'r dorf y tu allan i'r castell hefyd


Mwynhau'r arlwy yn Y Sgubor


Bryn Fôn, y 'dadi' mewn pinc yn cloi Tafwyl am flwyddyn arall
Orielau eraill ar Cymru Fyw: