Lluniau: Ffair Aeaf 2018

  • Cyhoeddwyd

Rydych chi'n gwybod ei bod hi'n nesáu at y Nadolig pan mae'n amser y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, a dyma gasgliad o ddelweddau o ddiwrnod cynta'r Ffair i chi gael dechrau dod i hwyliau.

Mae'r gwaith beirniadu'n dechrau'n gynnar, o fewn y cylch...

... ac o gwmpas yr ochr

"Paid â bod yn nerfus!"

Mae'n bwysig cadw'ch nerth lan yn yr oerfel

Côr Ysgol Gymraeg Dafydd Llwyd yn canu i groesawu ymwelwyr i'r Ffair

Mae'r babell grefftau'n lle delfrydol i ddod o hyd i ambell i anrheg

"Alli di jest rhoi dy ffôn lawr am eiliad?"

"Os ydych chi wedi bod yn blant da... ac os ofynnwch yn neis i Siôn Corn..."

Jest amser am ychydig o waith paratoi funud olaf

Ymwelydd pwysig y dydd: Iarlles Wessex yn cyrraedd y Ffair Aeaf

Dim ond y cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael yma

Pan 'dych chi'n gwerthu, mae gwneud ymdrech Nadoligaidd yn gallu bod o fantais

Breuddwyd pob cigydd gwerth ei halen

"Jest yn mynd i hŵfro'r gwartheg...!"

Hwyl fawr tan y flwyddyn nesa'!

Hefyd ar Cymru Fyw: