Lluniau: Gŵyl Gomedi Machynlleth 2019
- Cyhoeddwyd
Roedd digon o chwerthin yn Machynlleth ar benwythnos cyntaf Mai wrth i Ŵyl Gomedi Machynlleth gyrraedd ei degfed blwyddyn.
Ynghanol sioeau gan berfformwyr profiadol fel Josh Widdicombe, Nish Kumar, Stewart Lee, Elis James a Tudur Owen mae'n gyfle i gomedïwyr newydd ac roedd gig arbennig yn cyflwyno comedïwyr Cymraeg newydd.
Mae llawer yn digwydd mewn gwahanol leoliadau yr yr awyr agored hefyd - dyma flas o hwyl yr ŵyl drwy lygad y camera.

Mae'r arwydd Hollywoodaidd yn ymddangos yn Machynlleth adeg yr ŵyl bob blwyddyn

Mae Nish Kumar yn wyneb cyfarwydd ar deledu fel cyflwynydd The Mash Report

Aeron Pugh, neu Ben Dant i rai o wylwyr Cyw, yn cael peint gyda ffrindiau

Esyllt Sears yn cyflwyno i Radio Cymru

Rhai o'r perfformwyr ar lwyfan y goedwig

Mae Tudur Owen yn un o'r perfformwyr sydd wedi bod yn cymryd rhan yn yr ŵyl ers ei dyddiau cynnar

Blaze Tarsha a'i mam Fatina yn perfformio sgiliau syrcas

Perfformwyr yn mwynhau yn yr haul

Richard Filby o Awstralia yn jyglo peli a chyllyll

Rhywbeth wedi ticlo Gwern ac Elis!

Roedd Rhod Gilbert yn cyflwyno i Radio Wales o'r ŵyl

Mae llawer o berfformwyr profiadol a rhai newydd yn rhoi cynnig ar ddeunydd newydd o flaen cynulleidfa Machynlleth

Daeth yr haul i Fachynlleth i goroni pen-blwydd yr ŵyl

John Cantor ar ei feic


Plant yn dawnsio o amgylch y fedwen Fai

Julie Jones a'i Charafan Celf

Digon i ymgolli ynddo yn rhaglen yr ŵyl

Dyn mewn masg teigr - dyna'i gyd

Y bar - lle prysur a phoblogaidd!

Y brif babell gyda'r nos
Hefyd o ddiddordeb: