Gyrfa gomedi sgriptiwr Top Gear, Radio 4 a Cic Lan yr Archif
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyfres Elis James: Cic Lan yr Archif ar S4C yn dod â rhai o berlau o'r gorffennol o archif S4C i gynulleidfa newydd, bob nos Fercher.
Un o sgriptwyr bachog y gyfres ydy Gareth Gwynn sy'n wreiddiol o Aberhonddu, a phan dyw e ddim yn gwylio hen glipiau o ffermwyr ifanc yn cneifio defaid ac Arfon Haines Davies yn chwarae gemau cyfrifiadur, mae'n rhoi geiriau yng ngheg nifer o gyflwynwyr eraill o Matt LeBlanc ar Top Gear i Sandi Toksvig ar Radio 4.
"Dwi dipyn bach yn obsessed gyda chlipiau archif radio a theledu, dwi'n hapus i wylio'r math yma o glipiau bob dydd, trwy'r dydd felly roedd gweithio ar Cic Lan yr Archif yn grêt i fi," meddai Gareth Gwynn.
"Dwi'n dysgu Cymraeg gan ddefnyddio Say Something in Welsh, ond mae'n reit bryderus pa mor gloi ti'n gallu anghofio'r Gymraeg os nad wyt ti'n ei chlywed hi'n aml.
"Pan o'n i'n sgrifennu'r rhaglen O'r Diwedd: 2016 ar gyfer S4C, gyda Sian Harries a Tudur Owen, r'on i'n dysgu'n selog, achos roeddwn yn teithio llawer rhwng Caerdydd a Llundain ac yn gwrando ar y podlediadau. Hefyd pan ti ar y set gyda phawb yn siarad Cymraeg, a chlywed Sian a Tudur yn siarad Cymraeg gyda'i gilydd, roedd yn help i ddysgu. Er nad o'n i'n dda iawn am ateb yn Gymraeg, roeddwn i'n deall.
"Wrth weithio ar Cic Lan yr Archif, roeddwn i Sian Harries, Ben Partridge, Elis James a Matthew Glyn yn cwrdd i wylio a thrafod y clipiau. Gan nad ydw i na Ben yn siarad Cymraeg yn rhugl, roedd hynny'n golygu ein bod ni'n gweld pethau ychydig yn wahanol i'r lleill.
"Dwi'n dod o Gastell-nedd ac yna symudodd y teulu i Aberhonddu, a r'on i'n gweld S4C fel roedd pawb yn ei weld ar y pryd. Roedd Friends yn gorffen ac yna bydde Rasus yn dechre! Felly rydw i'n gyfarwydd â S4C o'r olwg yna.
"Ond mae gan Sian ac Elis atgofion da a pherthynas hoffus gyda S4C o'u plentyndod, ond yn aml iawn doeddwn i erioed wedi gweld y clipiau, felly roedden i'n edrych arnyn nhw â llygaid newydd.
"Pan ro'n i'n gwylio'r clipiau o'r rhaglen Pentymora, (sydd i'w gweld yn yr ail rhifyn o Elis James: Cic Lan yr Archif), mae'n rhyw fath o It's a Knock Out Cymraeg ar fferm, o'n i'n meddwl sut yn y byd wnaeth unrhyw un adael y rhaglen yna heb anafiadau difrifol, dwi ddim yn gwybod.
"Ac r'on i'n meddwl bod y ffaith mai Arfon Haines Davies oedd wyneb technoleg S4C yn hilarious. Dwi'n gwybod bod Arfon wedi gweld y rhaglen ac wedi ei fwynhau!
"Roedd gyda ni i gyd cymaint o barch at y cyflwynwyr oedd ar y rhaglenni archif. Doedd ganddyn nhw ddim byd i weithio arno, roedd Hywel Gwynfryn, er enghraifft, yn gorfod siarad am hydoedd gyda dim byd i ddweud! Mae'n 'neud i ti feddwl, pa sgwrs gafodd y tîm cynhyrchu wnaeth arwain at yr eitem yna?!"
Mae Gareth Gwynn wedi bod yn cyd-sgrifennu cyfres newydd o'r enw The Tourist Trap, sydd wedi ei lleoli mewn bwrdd croeso ffuglennol Cymreig, a fydd yn cael ei darlledu fel rhan o dymor comedi BBC Cymru yn yr hydref.
Er bod Gareth wedi gwneud ychydig o standyp ei hun ar ôl graddio daeth ei gyfle mawr, meddai, pan gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth y BBC Show Me Funny a chael gweithio ar raglen beilot ar Radio 7 (sef Radio 4 Extra erbyn hyn).
Wedi hynny mae wedi gweithio i Radio 4 a Radio Wales (roedd yn cynhyrchu rhaglen Roy Noble) a chafodd gyfle i weithio dipyn bach ar Have I Got News For You ar BBC1 yn sgrifennu sgript y cyflwynwyr.
Efallai o ddiddordeb:
"Dwi di gweithio lot ar The News Quiz ar Radio 4 gyda Sandi Toksvig a Miles Jupp a dwi newydd orffen gweithio ar y gyfres fwya' diweddar o Top Gear. R'on i yn y sied awyrennau oera' yn y byd, ym mis Chwefror adeg yr eira yn ffilmio Top Gear. Ond roedd yn brofiad diddorol iawn i weithio arno," meddai.
Comedi a Chymru
Mae Gareth Gwynn yn credu bod y Cymry yn dda am gomedi. Ond dim ond yn reit ddiweddar mae sawl gwahanol math o gomedi Cymreig wedi cael y sylw cenedlaethol y mae'n ei haeddu, meddai.
"Mae gen i theori am gomedi Cymreig. Dros y blynyddoedd roedd 'na limit i faint o gomedïwyr o Gymru oedd yn cael sylw, roedd fel pe bai Lloegr ond yn gallu ymdopi ag un math o gomedi o Gymru ar y tro!
"Roedd gen ti Welsh Rarebit, wedyn Ryan a Ronnie, wedyn Max Boyce, wedyn Grand Slam... doedd byth dau beth yr un pryd. Ond yn sydyn roedd modd cael Marion and Geoff, Gavin and Stacey a Rhod Gilbert i gyd ar yr un pryd, fe ddechreuodd pethau newid.
"Mae BBC Radio Wales wedi bod yn gefnogol iawn i gomedïwyr o Gymru gyda lot o gyfresi dros y blynyddoedd, ac mae comisiynydd comedi Radio 4, Sioned Wiliam, yn Gymraes a newydd gomisiynu ail gyfres o Ankle Tag dwi'n gweithio arno, lle mae'r cast a'r tîm sgrifennu i gyd o Gymru.
"Ond un o fy uchafbwyntiau personol oedd pan wnes i gyd-sgwennu peilot y sitcom Antiquity i Radio 4. Cawson ni help gan Arthur Mathews, awdur Father Ted. I fi, sydd wedi bod yn ffan pennaf o'r gyfres yna erioed, i dderbyn sgript yn ôl ganddo fe yn dweud "this is great" ac wedi ychwanegu jôcs i ni eu defnyddio, roedd hynna'n wych."
Mae Elis James: Cic Lan yr Archif ar S4C ar nos Fercher am 21:30
Hefyd o ddiddordeb: