Pam yn y byd wyt ti'n gwneud stand-yp?
- Cyhoeddwyd
Penwythnos 3-5 Mai bydd Gŵyl Gomedi Machynlleth yn cael ei chynnal unwaith eto. Un o'r perfformwyr dros y penwythnos yw Aled Richards o Gaerdydd.
Mae Aled wedi perfformio ym Machynlleth o'r blaen, ac mae'n perfformio yng Ngŵyl Gomedi Caeredin eleni am y tro cyntaf.
Felly beth sydd yn gwneud i rywun fod eisiau gwneud stand-yp?
Pam yn y byd wyt ti'n gwneud stand-yp?
Cwestiwn sy'n cael ei ofyn i mi yn aml, a chwestiwn dwi 'di gofyn i mi fy hun - fel arfer yn y munudau gefn llwyfan wrth i mi ddisgwyl clywed fy enw'n cael ei alw.
Dwi wedi dweud droeon "Dyna ni. Dyma'r tro olaf. Dwi ddim yn rhoi fy hun drwy'r artaith hon eto" achos dwi'n sâl gyda nerfau, mae fy ngheg yn sych a dwi di anghofio beth dwi'n mynd i ddweud...
"A rhowch groeso i'r llwyfan i... Aled Richards!"
Ac wrth gamu o'r tywyllwch i'r golau, mae'n rhy hwyr i droi yn ôl.
Trwy ddamwain nes i ddechrau stand-yp. Cystadlu mewn cystadleuaeth ysgrifennu stand yp Eisteddfod heb ddarllen y print mân. Ro'n i wrth fy modd pan ges i lythyr yn cyhoeddi mod i wedi ennill ... tan i mi ddarllen bod disgwyl i mi berfformio'r sgript yn y Babell Lên.
Doedd gen i ddim syniad wrth gamu ar y llwyfan y diwrnod hwnnw fy mod i'n dechrau taith ym myd comedi, heb wybod cyn lleied ro'n i'n ei wybod am gomedi!
Dwi 'di dysgu lot am gomedi ers hynny (ac yn dal i ddysgu!).
Mae'n golygu dysgu crefft. Mae'n gymaint yn fwy na geiriau doniol ar bapur. Nid monolog yw stand-yp ond perfformiad sy'n ddibynnol ar berthynas y comedïwr a'r gynulleidfa. Ac i ddysgu crefft rhaid ymarfer. Lot.
Mae'n golygu dysgu bod yn hyderus ar lwyfan a goresgyn nerfau er mwyn ennyn ffydd y gynulleidfa.
Ac mae'n golygu teithio. Lot. I wella, rhaid gigio mewn amryw o lefydd i ymarfer o flaen gwahanol gynulleidfaoedd ac i wneud cysylltiadau yn y byd comedi.
Mae'n gallu bod yn waith caled.
Ond pam gwneud felly?
Oherwydd does dim sŵn gwell na sŵn chwerthin. Mae'r teimlad ry'ch chi'n ei gael o gael cynulleidfa i chwerthin fel cyffur. Pan y'ch chi'n oedi, wedi llinell ddoniol, ac yn clywed y chwerthin yn ymchwyddo fel ton i lenwi'r saib, mae'n deimlad anhygoel. Teimlad ry'ch chi eisiau profi eto.
Ar noson dda mae'r chwerthin fel tonnau yn dod un ar ôl y llall ac ry'ch chi'n gallu cerdded oddi ar y llwyfan yn teimlo fel brenin. A dyna'r wefr.
Ac mae'r ymdeimlad o frawdoliaeth. Mewn noson gomedi mae criw ohonoch yn dod at eich gilydd gyda'r nod o roi noson o adloniant a hwyl i gynulleidfa. Ry'ch chi'n rhan o dîm gyda phawb yn gweithio at yr un nod ac yn gefnogol o'i gilydd. Dwi 'di cwrdd â phobl hynod o ddifyr ac wedi gwneud ffrindiau arbennig trwy gomedi.
A'r nos Sadwrn yma bydda i'n perfformio gyda nifer o fy ffrindiau yng Ngŵyl Comedi Machynlleth. Perfformiais yno am y tro cyntaf yn 2014 ac mae'r sîn gomedi yng Nghymru wedi tyfu yn anhygoel ers hynny. Mae mwy o berfformwyr, mwy o gigs a mwy o gynulleidfaoedd.
Ble roedd llond dwrn, mae nawr llond lle o gomedïwyr talentog Cymraeg a bydd nifer fawr iawn ohonynt ym Machynlleth. (Beth yw'r term torfol am gomedïwyr sgwn i? Gigl o gomedïwyr, falle?)
Mae sioeau Elis James a Tudur wedi hen werthu allan. Ond os nad ydych chi wedi cael tocyn, peidiwch poeni, mae 'na wledd o gomedi ar gael yng Nghaffi Alys ar nos Sadwrn gyda dros ddwsin o gomedïwyr Cymraeg yn perfformio - pob un yn wahanol ac yn unigryw.
Bydd wyneb newydd, Sarah Breese, yno am 7pm yna am 9pm mi fyddaf i yn un o 'Hen Ffrindiau' Esyllt Sears.
Mae hyd yn oed comedi ar gael sy'n addas ar gyfer plant yn y sioe Clwb Carco amser cinio dydd Sul. Mae'n argoeli i fod yn lot o hwyl p'run a bod 'da chi blant ai peidio!
Bydd hi'n smorgasbord o gomedi - gyda rhywbeth at ddant pawb!
Fydda i'n nerfus cyn perfformio yng Nghaffi Alys nos Sadwrn? Siŵr o fod.
Fydd hi werth e? Bydd, ma' hynny'n siŵr.