10 ffaith ddifyr i ddathlu pen-blwydd Hafod Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae Hafod Eryri - y caffi ar gopa'r Wyddfa - yn 10 oed ym mis Mehefin. Deg mlynedd o wasanaethu dringwyr blinedig (a'r rhai callach a ddaeth i fyny ar y trên).
Ond faint ydych chi'n ei wybod am leoliad paned uchaf Cymru?
1. I'r copa
Mae bron i 600,000 yn cerdded i fyny'r Wyddfa yn flynyddol, gyda 140,000 o bobl wedi teithio i fyny ar Reilffordd yr Wyddfa yn 2018.
2. Beth gymerwch chi?
Mae coffi yn fwy poblogaidd na the i ymwelwyr yr Wyddfa, gyda 44,860 o baneidiau o goffi wedi eu gwerthu yno y llynedd, o'i gymharu â 30,202 o baneidiau o de. Pobl yn teimlo eu fod angen ychydig bach o hwb caffein efallai. Ac mae bron i deirgwaith fwy o sosej rôls yn cael eu gwerthu na sgons.
3. Dim dŵr
Does yna ddim cyflenwad dŵr na thrydan i'r adeilad. Mae rhan helaeth o'r dŵr yn cael ei gludo i fyny'r mynydd ar y trên, ac yn ystod yr haf, mae 9,000 litr o ddŵr yn cael eu defnyddio'n ddyddiol! Mae'r holl bŵer yn cael ei greu ar y safle, ac mae'r tanwydd yn cael ei gludo yno ar y trên.
4. Beth am y sbwriel?
Y trên sydd hefyd yn cludo'r holl gyflenwadau a bwyd i fyny, a'r holl wastraff a sbwriel i lawr bob dydd. A dwywaith y flwyddyn, mae gan rywun y dasg annymunol o wagio'r tanc septig!
4. Siwrne saff
Mae aelodau staff Hafod Eryri yn cael eu cludo i'r gwaith ar y trên am 8am. Does yna ddim disgwyl iddyn nhw gerdded i'r copa bob dydd.
5. Cofiwch eich cot law!
Pan mae hi'n braf, mae'r golygfeydd yn ogoneddus, ond os yw'r tywydd yn wael, gallwch wynebu amodau ofnadwy. Gall 200 modfedd o law syrthio mewn blwyddyn, a gall y tymheredd ddisgyn i -20C!
6. Morus y gwynt...
Gall y gwynt gyrraedd cyflymder o tua 150 mya. Os ydi'r gwynt yn rhy gryf, nid yw'r staff yn medru cyrraedd yr adeilad, a bydd yn aros ar gau.
7. Cadw llygad barcud
Mae amodau'r tywydd yn cael eu monitro bob 15 munud, felly does yna ddim peryg fod staff yn sownd ac yn methu dod yn ôl i lawr.
9. Anfon nodyn
Cofiwch bostio cerdyn post er mwyn profi eich bod wedi cyrraedd y copa o flwch postio uchaf Cymru a Lloegr.
10. Gwir bob gair
Mae geiriau hyfryd y diweddar Gwyn Thomas i'w gweld ar ffenestri Hafod Eryri:
Copa'r Wyddfa:
Yr ydych chwi, yma
Yn nes at y nefoedd.
Hefyd o ddiddordeb: