Dathlu penblwydd Rheilffordd yr Wyddfa yn 120 oed
- Cyhoeddwyd
Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal yn Llanberis y penwythnos hwn i nodi pen-blwydd Rheilffordd yr Wyddfa'n 120 oed.
Ymysg y digwyddiadau ar droed yr Wyddfa fe fydd stondinau gan gynhyrchwyr bwyd a diod lleol, ac fe fydd staff y rheilffordd mewn gwisgoedd Fictoraidd.
Dywedodd Alan Kendall, rheolwr cyffredinol Rheilffordd yr Wyddfa: "Mae'r ffaith fod rheilffordd wedi cludo pobl i ben mynydd uchaf Cymru ers 120 o flynyddoedd yn rhywbeth i fod yn falch iawn ohono.
"Felly rydym yn gwahodd pobl o ar draws gogledd Cymru i ymuno gyda ni wrth ddathlu'r rheilffordd hanesyddol hon.
"Bydd ffair ffotograffiaeth leol yn cael ei chynnal, gyda sioe Punch & Judy a pheintio wynebau, tra bydd ein staff wedi eu gwisgo mewn dillad o oes Fictoria yn ystod y penwythnos."
Bydd y dathliadau'n cael eu cynnal rhwng dydd Gwener 2 Medi a dydd Sul 4 Medi.