Oriel luniau: Llyfr y Flwyddyn 2019
- Cyhoeddwyd
Noson Manon Steffan Ros oedd hi yn seremoni Llyfr y Flwyddyn, wrth iddi ennill y prif wobr Gymraeg am Llyfr Glas Nebo, ynghyd â Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth.
Aeth y ffotograffydd Iestyn Hughes i'r seremoni yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, er mwyn rhoi blas o'r noson.

Seren Jones, fu'n cyflwyno'r noson, Manon Steffan Ros, enillydd y prif wobr Gymraeg, Ailbhe Darcy, enillydd y prif wobr Saesneg, a Lleucu Siencyn o Llenyddiaeth Cymru

Cathryn Charnell-White oedd un o aelodau'r panel beirniadu Cymraeg eleni

Yn fuddugol yn y categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg oedd Andrew Green am ei lyfr Cymru mewn 100 gwrthrych

Tad Carys Davies, John Bowen, a dderbyniodd Wobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth ar ei rhan, am ei nofel 'West'

Roedd Manon Steffan Ros 'wedi mopio' ar ôl ennill tair gwobr am ei nofel 'post-apocalyptic', Llyfr Glas Nebo

'Moneyland' gan Oliver Bullough oedd enillydd y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg

Roedd y tlysau wedi eu creu gan Angharad Pearce Jones

Roedd dwy wobr i Ailbhe Darcy am ei chyfrol 'Insistence'. Enillodd y Wyddeles y prif wobr Saesneg a Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias

Alaw Mai Edwards a dderbyniodd wobr Alan Llwyd ar ei ran. Daeth ei gyfrol, Cyrraedd a Cherddi eraill, i'r brig yn y categori barddoniaeth Cymraeg

Yn 2017, Idris Reynolds oedd enillydd Llyfr y Flwyddyn. Eleni, roedd ar y panel beirniadu

'Gen' gan Jonathan Edwards oedd dewis y bobl - enillodd y People's Choice Prize, a noddir gan Wales Arts Review

Enillwyr y gwobrau Cymraeg gyda'r panel beirniadu
Hefyd o ddiddordeb: