Lluniau: Llyfr y Flwyddyn 2018

  • Cyhoeddwyd

Mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Fawrth, cyhoeddwyd mai Blodau Cymru: Byd y Planhigion gan Goronwy Wynne gipiodd teitl Llyfr y Flwyddyn 2018.

Cafodd deg enillydd eu gwobrwyo yn y seremoni, sy'n dathlu llyfrau mewn tri chategori yn y Gymraeg a'r Saesneg - barddoniaeth, ffuglen a ffeithiol greadigol.

Cliciwch yma i weld holl enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2018.

Roedd y ffotograffydd Sioned Birchall yno ar ein rhan:

line
Goronwy WynneFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Enillydd y brif wobr Gymraeg, Goronwy Wynne, yn mwynhau diod a sgwrs

TramshedFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y noson ei chynnal yn y Tramshed yng Nghaerdydd am yr ail flwyddyn yn olynol - ac roedd hi'n braf iawn!

Gareth PotterFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y DJ Gareth Potter yno eto eleni yn diddanu pobl gyda'i gerddoriaeth

Gwion HallamFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Y prifardd Gwion Hallam oedd yn cyflwyno'r noson

Ifor ap GlynFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Ifor ap Glyn, bardd cenedlaethol Cymru, ar leoliad gyda chriw ffilmio

Caryl LewisFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdur Caryl Lewis, cyn-enillydd a beirniad ar y noson, yn edrych tua'r llwyfan

Peredur LynchFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Peredur Lynch, enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg 360, am ei gyfrol farddoniaeth gyntaf, Caeth a Rhydd

Crystal Jeans a Gwion HallamFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdures Crystal Jeans, enillydd y wobr Ffuglen Saesneg am ei llyfr Lightswitches Are My Kryptonite

"Dal yn ffrindiau?" Catrin Dafydd, enillydd yn y categori ffuglen Gymraeg am ei chyfrol Gwales... ar draul Llŷr Gwyn Lewis a'i lyfr FabulaFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

"Dal yn ffrindiau?" Catrin Dafydd, enillydd yn y categori ffuglen Gymraeg am ei chyfrol Gwales... ar draul Llŷr Gwyn Lewis a'i lyfr Fabula

Tristan HughesFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Enillydd y Wales Arts Review People's Choice Prize oedd Tristan Hughes am ei nofel Hummingbird

Caryl Lewis a Hywel GriffithsFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

"Mae anwylder y dweud yn cyfareddu" meddai Caryl Lewis, wrth gyhoeddi mai Hywel Griffiths a'i gyfrol Llif Coch Awst oedd yr enillydd yng nghategori'r gyfrol farddoniaeth Gymraeg

Robert MinhinnickFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Robert Minhinnick enillodd Llyfr Saesneg y Flwyddyn am ei gyfrol o farddoniaeth, Diary of the Last Man

Goronwy WynneFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Goronwy Wynne yn mwynhau'r noson

Yr Athro M. Wynn ThomasFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro M. Wynn Thomas oedd yn fuddugol yn y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg am ei gyfrol All That Is Wales: The Collected Essays of M. Wynn Thomas

GoronwyFfynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Y beirniaid Caryl Lewis, Beti George ac Aneirin Karadog gyda Goronwy Wynne (ail o'r chwith)

line

O'r archif:

line