Llyfr Glas Nebo yn cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019
- Cyhoeddwyd
'Dwi wedi mopio, diolch i bawb'
Manon Steffan Ros sydd wedi cipio gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 am ei nofel Llyfr Glas Nebo.
Ms Ros hefyd wnaeth gipio Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth yn ystod y noson.
Daeth Alan Llwyd i'r brig yng nghystadleuaeth y wobr farddoniaeth am ei gyfrol Cyrraedd a Cherddi Eraill.
Y Wyddeles Ailbhe Darcy gafodd wobr Llyfr Saesneg y Flwyddyn 2019 am ei chyfrol o farddoniaeth, Insistence.
Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Iau.

Dylan Ebenezer oedd un o'r panel o feirniaid, oedd hefyd yn cynnwys Cathryn Charnell-White ac Idris Reynolds
Wrth siarad ar ran y panel beirniadu, dywedodd Dylan Ebenezer bod Llyfr Glas Nebo "wedi cael dylanwad enfawr yn barod".
"Mae Manon Steffan Ros wedi ein tywys i fyd sy'n frawychus o gyfarwydd. Mae stori'r teulu bach yn ddoniol ac yn ddwys - yn syml ond yn syfrdanol. Ac yn boenus o bwerus ar adegau.
"Mae Llyfr Glas Nebo yn glasur modern a gobeithio bydd ei ddylanwad yn amlwg am flynyddoedd i ddod," meddai.
Llenyddiaeth Cymru, sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru, sy'n trefnu'r gwobrau.
Mae prif enillydd y noson yn cipio £4,000 a thlws wedi'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.
Roedd pob enillydd categori yn derbyn gwobr o £1,000.

Yr Enillwyr:

Cafodd Manon ei henwi'n Brif Lenor Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi iddi gipio'r Fedal Ryddiaith gyda Llyfr Glas Nebo
Gwobr Barn y Bobl Golwg360
Y wobr gyntaf a gafodd ei chyhoeddi oedd Gwobr Barn y Bobl Golwg 360, sy'n ganlyniad pleidlais gan ddarllenwyr Golwg360.
Enillydd: Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros


Cyfrol o farddoniaeth Gymraeg
Ar y rhestr fer:
Cyrraedd a Cherddi eraill gan Alan Llwyd;
Twt Lol gan Emyr Lewis;
Stafell fy Haul gan Manon Rhys;
Alan Llwyd sy'n cipio'r wobr am ei gyfrol sy'n edrych yn ôl ar ei fywyd wrth i'r awdur gyrraedd oed yr addewid.


Alilbhe Darcy, enillydd Llyfr Saesneg y Flwyddyn 2019
Gwobr Farddoniaeth Saesneg Roland Mathias
Ar y rhestr fer:
Salacia gan Mari Ellis Dunning;
Insistence gan Ailbhe Darcy;
Gen gan Jonathan Edwards;
Yr enillydd yw Ailbhe Darcy am ei chyfrol sy'n barod wedi ennill y Pigott Poetry Prize 2019 ac wedi cyrraedd rhestrau byrion y Times Poetry Now Award 2019 a'r T.S. Eliot Prize 2018.
Mae Ms Darcy yn ddarlithydd mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gwobr Ffuglen Gymraeg Prifysgol Aberystwyth
Y rhestr y fer:
Ynys Fadog gan Jerry Hunter;
Esgyrn gan Heiddwen Tomos;
Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros;
Llyfr Glas Nebo sy'n cipio'r wobr eleni.
Daeth Esgyrn gan Heiddwen Tomos yn agos iawn at ennill Gwobr Goffa Daniel Owen 2018 tra bod Ynys Fadog gan Jerry Hunter yn adrodd stori'r Cymry a fentrodd i America yn y 19eg a'r 20fed ganrif.


Gwobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth
Ar y rhestr fer:
West gan Carys Davies;
Arrest me, for I Have Run Away gan Stevie Davies;
Sal gan Mick Kitson;
West gan Carys Davies sy'n mynd â hi - nofel sy'n dilyn antur y fforiwr amaturaidd Cy Bellman a'i ferch, Bess, sydd wedi ei gadael ar ôl.

Categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg
Ar y rhestr fer:
Cymru mewn 100 Gwrthrych gan Andrew Green;
Y Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen': Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, ers 1990 gan Lisa Sheppard;
Rhyddhau'r Cranc gan Malan Wilkinson;
Enillydd y wobr yw Andrew Green am ei gyfrol sy'n gosod 100 o wrthrychau mewn cyd-destun dynol er mwyn olrhain ein hanes a'n tywys ar hyd llwybr Cymru fel cenedl.

Categori Ffeithiol Greadigol Saesneg
Y rhestr fer:
Moneyland gan Oliver Bullough;
The Light in the Dark: A winter journal gan Horatio Clare;
Having a go at the Kaiser: A Welsh family at war gan Gethin Matthews;
Yr enillydd yw Oliver Bullough am ei lyfr sy'n datguddio ochr dywyll a brwnt y byd ariannol.

Llyfr Cymraeg y Flwyddyn
Y panel beirniadu eleni oedd y darlledwr, Dylan Ebenezer; Pennaeth Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, Cathryn Charnell-White; a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Idris Reynolds.
Enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2019 yw Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros.
Derbyniodd Manon ei gwobr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.

Llyfr Saesneg y Flwyddyn
Prif enillydd y Wobr Saesneg eleni, ynghyd â Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias, yw Ailbhe Darcy gyda'i chyfrol Insistence.
Dyma ail gyfrol Ms Darcy - sydd wedi ei gosod mewn ardal ddifreintiedig yn America mewn cyfnod o newid hinsawdd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2019