Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn aros yn Llanrwst

  • Cyhoeddwyd
eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Llanrwst, Sir Conwy fydd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2019

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd y Maes a "holl elfennau'r brifwyl" yn aros o fewn ardal Llanrwst eleni.

Bydd Maes yr Eisteddfod ryw filltir i'r de o dref Llanrwst ar ochr ddwyreiniol yr A470, ar gaeau Plas Tirion a Chilcennus.

Bydd y maes carafanau rhwng y Maes a'r dref ar ochr orllewinol yr A470, tra bydd Maes B wedi'i leoli wrth ochr Ffordd Nebo i gyfeiriad y de-ddwyrain o ganol Llanrwst.

Cyhoeddodd yr Eisteddfod fis Mawrth y byddai newidiadau i'r safle yn dilyn llifogydd yn ardal Llanrwst, pan gyrhaeddodd Afon Conwy ei lefel uchaf ar gofnod.

Hefyd ym mis Mawrth dywedodd prif weithredwr y brifwyl bod yna "wersi i'w dysgu" wedi iddi ddod i'r amlwg nad oes modd yswirio'r Eisteddfod ar sail y cynlluniau gwreiddiol.

'Dangos ffydd yn Llanrwst'

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Roedden ni'n benderfynol o wneud pob ymdrech i gadw'r Eisteddfod yn Llanrwst, ac rydym wrth ein boddau bod ymdrechion pawb wedi dwyn ffrwyth.

"Roedd dod o hyd i gynllun a oedd yn ei chadw mor agos â phosib i'r dref yn bwysig i ni o ystyried yr holl waith caled a wnaed gan bobl leol wrth drefnu'r Eisteddfod, ac roedden ni hefyd eisiau dangos ffydd yn Llanrwst."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Eisteddfod

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Eisteddfod

Cafwyd mwy o fanylion gan Ms Moses ar raglen y Post Cyntaf fore Mawrth, pan ddywedodd: "Bydd gwasanaeth bws wennol rhwng Llanrwst a'r maes, ac fe fydd pont i alluogi ymwelwyr i groesi'r A470.

"Fe fydd cost ychwanegol i hynny, ond rhaid gwneud hyn o sicrhau diogelwch Eisteddfodwyr... mae 4,000 o bobl bob awr yn medru defnyddio'r bont."

Disgrifiad,

Betsan Moses yw prif weithredwr Yr Eisteddfod

Roedd rhai wedi mynegi pryderon am leoliad Maes B eleni. Mae'r safle yn agos i Ysgol Dyffryn Conwy a'r cartrefi gerllaw, ac roedd rhai wedi poeni y byddai'r swn yn tarfu ar drigolion cyfagos.

Ond mynnodd Ms Moses na fyddai'n broblem, gan ychwanegu: "Mae technoleg wedi symud ymlaen ac ry'n ni'n hyderus mai bach iawn fydd unrhyw effaith, ac fe fyddwn ni mewn cysylltiad agos gyda'r gymuned leol a'r awdurdodau i sicrhau fod popeth yn gweithio'n iawn."

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn digwydd rhwng 3-10 Awst.