Priodas ar faes y Sioe i gwpl ar ôl cyfnod 'tywyll'

  • Cyhoeddwyd

Mae Arwel Thomas Edwards a'i ddyweddi Bethan Edwards yn edrych ymlaen at y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf. Er eu bod yn mynd i Lanelwedd i ddangos ceffylau bob blwyddyn, mi fydd y sioe amaethyddol eleni yn dipyn mwy arbennig.

Arwel a BethanFfynhonnell y llun, Arwel Thomas Edwards

Bethan ac Arwel fydd y cwpwl cyntaf erioed i briodi ar faes y sioe yn ystod wythnos y sioe ei hun, ac mae'r achlysur yn nodi'r canfed sioe yn Llanelwedd. Maen nhw'n edrych mlaen at ddiwrnod hapus, wedi cyfnod tywyll, meddai Arwel wrth Ifan Evans ar ei raglen ar BBC Radio Cymru:

"Fi'n dishgwl mla'n, ond o'dd hi'n dipyn o sioc, i ddweud y gwir," meddai Arwel am gyrraedd y brig yn y gystadleuaeth, a drefnwyd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, i gael priodi ar y maes.

"Ni wedi cael gymaint o lwc wael dros y blynyddoedd dwetha, i gael rhywbeth fel hyn, mae'n overwhelming," ychwanegodd.

"Colles i fab, Teifion, tua tair blynedd yn ôl. Fe gafodd e operation ar ei galon, ac yn anffodus, aeth e ddim yn reit. Ni wedi bod trwyddo amseroedd tywyll i fod yn onest. Ni wedi dod mas o fe. Dalon ni ein pennau lan a mynd mlaen," meddai wrth sôn am eu teulu. Mae gan y pâr dri o feibion rhyngddyn nhw, sef Harri, Alfie a Llywelyn.

'Ffrindiau yn gefn mawr i ni'

Mae Bethan ac Arwel wedi bod yn dangos ceffylau yn y sioe frenhinol ers blynyddoedd, felly mae cael priodi yno ymhlith eu ffrindiau yn addas iawn iddyn nhw, a'r ffrindiau hynny wnaeth eu henwebu nhw ar gyfer y gystadleuaeth.

"O'n ni'n nabod ein gilydd, trwy ceffylau, ers blynydde, achos ni wedi bod yn dangos ceffylau mewn sioeau rownd Cymru a lan yn y Sioe Frenhinol, wedyn cwrddon ni lan eto pum mlynedd yn ôl, ac mae wedi datblygu o fan 'na.

line

Efallai o ddiddordeb:

line

"Mae ffrindiau wedi bod yn gefn mawr i ni. Pan gollon ni Teifion, oedd dim lot o arian 'da ni i dalu am yr angladd. Oedd y ffrindie oedden ni wedi cwrdd â nhw yn y sioe wedi trefnu arian am ei angladd e. Ac y'n ni'n ddiolchgar iddyn nhw am 'neud hynna i ni.

"Mae priodi ar faes y Sioe yn arbennig i ni. Bob blwyddyn, y sioe yw ein gwylie ni. Ni'n mynd lan 'na am wythnos, yn cwrdd â'n ffrindie ni, gweld nhw unwaith y flwyddyn, gyda'r ceffylau.

"Wi'n dishgwl mla'n. Wi'n priodi fy ffrind gorau i, rhywun sydd wedi bod wrth y'n ochr i trwyddo lot, yn y pum mlynedd y'n ni wedi bod gyda'n gilydd. Ni wedi bod trwyddo amser tywyll, a ni wedi cael Llywelyn bach, mae'r golau yn dechre dod trwyddo i ni a nawr y llwyddiant hyn o ennill y briodas, a wi ffili aros nawr i'r diwrnod."

Mi fydd y pâr yn priodi yn y bandstand a bydd y brecwast priodas yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn yr Aelodau yn edrych dros y prif gylch ar ddydd Llun, 22 Gorffennaf.

"Gobeithio bydd yr haul yn sheino i ni ac y'n ni'n dishgwl mlaen i'r dyfodol."