Lluniau: Clwb Mynydda Cymru yn dathlu'r deugain
- Cyhoeddwyd
Yn Eisteddfod Caernarfon yn 1979 fe ddaeth criw at ei gilydd i ffurfio Clwb Mynydda Cymru.
Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach mae dringwyr a cherddwyr y clwb wedi casglu degau o luniau at ei gilydd i greu albwm o atgofion o deithiau yng Nghymru a thu hwnt. Dyma rai o'r pigion:

Dafydd Prydderch Williams, sydd yn un o aelodau gwreiddiol y clwb, yn edrych i lawr Nant Ffrancon o ben Crib Gwrychlyd ar Y Glyder Fach yn ystod gaeaf 1980.

Taith y clwb i gopa'r Arenig Fawr, gyda Gareth Pierce yn y canol mewn gaiters coch - mae yn dal yn aelod ac hefyd bellach yn Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cyngor Mynydda Prydeinig. Ar y dde mae Gwen Aaron sydd hefyd wedi bod yn aelod o'r clwb ers y dechrau.

Yr eira'n drwm ar fynydd Bidean nam bian yn ystod taith i Glencoe, Yr Alban, yn y gaeaf ddechrau'r 80au...

...a thaith mwy diweddar i'r un ardal yn 2018, gydag adlewyrchiad o'r criw yn sbectol y ffotograffydd, Stephen Williams.

Dau o aelodau'r clwb ar grib Bwlch Main Yr Wyddfa yn Nhachwedd 1982. Ar y chwith mae John Roberts o Aberystwyth, gyda'i fab, Dewi Emlyn.

Sian Shakespere, cyn gadeirydd y Clwb ar ben mynydd Liathach yn ardal Torridon, Yr Alban yn 2017. Y cadeirydd presennol yw Gwyn Williams.

Aelod o'r clwb yn dod allan o iglŵ a ganfyddwyd ger copa'r Glyder Fawr, Chwefror 1981.

Te yn y Grug: Taith y Clwb i gopa Cader Berwyn. Dei Tomos, ysgrifennydd y clwb ar y pryd, sydd yn y got werdd.

Llun Anet Thomas wedi ei gymryd yn y Stubai, Awstria ar daith dramor gyntaf y Clwb yn 1981.

Taith Steddfod Genedlaethol 2017 Ynys Môn, ar gopa Mynydd Twr, Caergybi.

Mae gwahaniaeth mawr yng ngwisg ac offer mynyddwyr heddiw, o'i gymharu â 40 mlynedd yn ôl - ond mae'r hwyl yn parhau.
Mae mwy o luniau ar wefan Clwb Mynydda Cymru, dolen allanol neu ar gyfrif Flickr y clwb, dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: