Tesni'n taro deuddeg wrth gyrraedd copa Kilimanjaro
- Cyhoeddwyd
Mae merch ysgol 12 oed o Sir Fynwy wedi dringo i gopa mynydd uchaf Affrica - y Gymraes ieuengaf i gyflawni'r gamp.
Fe gyrhaeddodd Tesni Francis-Parker gopa Kilimanjaro ddydd Sul gyda'i thad, Gary Parker, sydd wedi dringo'r mynydd chwe gwaith.
Dywedodd Tesni, sy'n byw yn Y Fenni ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwent Iscoed bod cyrraedd y copa "yn rhyfeddol".
Yn ôl ei thad bu bron iddyn nhw orfod rhoi'r gorau arni noson cyn y ddringfa olaf wedi i'r ddau gael salwch stumog difrifol, ond roedden nhw'n benderfynol o gario ymlaen.
'Mae hi'n ferch wrol'
"Doeddwn i ddim yn siwr a oeddwn i'n gallu mynd gyda Tesni i'r copa oherwydd y salwch," meddai Mr Parker, sy'n 63 oed ac â chwmni cyfrifeg yng Nghasnewydd.
"Roedd hi'n heini, ac ro'n i'n barod i adael iddi fynd ymlaen gyda'n tywyswyr, ond yn y diwedd, diolch byth, ro'n i'n teimlo'n well ac fe wnaeth y ddau ohonon ni wneud hi i'r top.
"Er y salwch stumog, fe wasgodd [Tesni] ei dannedd a bwrw iddi - dim cwynion. Mae hi'n ferch wrol."
Roedd y grŵp wedi gadael eu gwersyll ar ran uchaf y mynydd 19,340 troedfedd o uchder am 04:00 amser Tanzania, a chyrraedd y copa cyn 10:00.
Roedd cyflawni'r ddringfa olaf mewn llai na chwech awr yn "dipyn o gamp" yn ôl Mr Parker, sydd wedi arwain cyrchoedd dringo ac antur ledled y byd a chystadlu mewn digwyddiadau heriol yn cynnwys ras galetaf y byd, Marathon de Sables a marathon Pegwn y Gogledd.
Dywedodd Tesni: "Roedd y dringo'n wych ac roedd cyrraedd y copa yn rhyfeddol. Rwy'n teimlo bod popeth rwy' wedi gweithio a hyfforddi amdano hyd yma ar gyfer dringo wedi talu."
Ychwanegodd ei thad: "Ni allai fod yn fwy balch o Tesni a phopeth mae hi wedi'i gyflawni ar y trip yma. Rwy'n falch bod Tesni yn dilyn fy esiampl, fel petae.
"Dydw i erioed wedi gorfodi hi i neud hyn ond rwy' wrth fy modd yn gweld y pleser a'r teimlad o ryddid mae hi'n ei gael o fynd i'r mynyddoedd."
Trip i 'newid bywyd'
Ar ôl treulio saith noson ac wyth niwrnod ar Kilimanjaro, mae Tesni'n cael hoe fach ac yn mynd ar saffari am ddeuddydd cyn dychwelyd i Gymru.
Mae disgwyl iddi fod yn ôl ar gyfer gwersi yn ysgol gyfun Gymraeg gyntaf dinas Casnewydd ddydd Llun nesaf.
Dywedodd Mr Parker bod Tesni wedi cael "trip addysgol sy'n newid bywyd" o ganlyniad i gymryd wythnos ychwanegol o'r ysgol ar ben y gwyliau hanner tymor.
"Mae hi wedi dysgu yschydig am Affrica a'i phobl ac mae hi wedi dysgu lot amdani hi ei hun hefyd," meddai.
Mae mam Tesni, Liz - rhedwr sydd wedi cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol - hefyd wedi dringo Kilimajjaro
Bydd Tesni, sy'n teithio o'i chartref yn rheolaidd i ddringo yn ardal Bannau Brycheiniog, yn cael ei phen-blwydd yn 13 ar 22 Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2019