Cymry ar ben y byd

  • Cyhoeddwyd
EverestFfynhonnell y llun, bodrumsurf

Ar 19 Hydref 1918, ganwyd Syr Charles Evans yn Derwen, Sir Ddinbych; y meddyg ymennydd a ddaeth yn agos at goncro mynydd ucha'r byd cyn neb arall.

Ef oedd dirprwy arweinydd yr ymgyrch lwyddiannus i gopa uchaf y byd, Everest, ar 29 Mai 1953. Dridiau ynghynt, roedd wedi bod o fewn llai na 100m i gyrraedd y copa ei hun.

Disgrifiad,

Charles Evans yn trafod ei ymgais i ddringo Everest

Yn anffodus, bu'n rhaid iddo a'i bartner Tom Bourdillon droi'n ôl ar y Copa Deheuol (South Summit) oherwydd nam ar y cyfarpar ocsigen.

Er eu bod mor agos at y prif gopa, roedd hi dal am gymryd teirawr arall o ddringo nes ei gyrraedd, felly doedd dim dewis ond tro yn ôl. Oni bai am hynny, Cymro fyddai wedi bod y cyntaf i'r copa.

Yn y diwedd, Edmund Hillary o Seland Newydd a Sherpa Tenzing Norgay o Nepal a gyhaeddodd y brig, ac ennill y clod.

Ffynhonnell y llun, Cloyd Teter
Disgrifiad o’r llun,

Charles Evans, Edmund Hillary a George Lowe (a oedd hefyd yn rhan o'r tîm) yn paratoi i ddringo mynydd Chim Ling yn 1954

Dringo mynyddoedd Eryri

Roedd y gwaith paratoi ar gyfer yr ymdrech enfawr yma i goncro mynydd ucha'r byd, wrth reswm, wedi bod yn mynd ymlaen ers misoedd lawer. Fe chwaraeodd Eryri ran blaenllaw yn y paratoadau.

Am chwe mis rhwng 1952 a 1953 daeth criw dethol o ddringwyr i fyw yng Ngwesty Pen-y-Gwryd, ger Capel Curig, yng nghesail yr Wyddfa. Mae'n debyg fod osgo heglog, hir Edmund Hillary yn ddigon cyfarwydd yn y mynyddoedd bryd hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Esgidiau'r dringwyr yn crogi o'r to a llun o Tenzing Norgay ac Edmund Hillary yng Ngwesty Pen-y-gwryd

Heddiw, mae nifer o luniau a chreiriau o'r daith i ben Everest yn addurno'r waliau yn y bar ym Mhen-y-gwryd, ynghyd â llofnodion y dringwyr yn dyst o'u hymweliadau ag Eryri. Mae hefyd rhaff a gafodd ei defnyddio gan Hillary a Tenzing, a'r gwpan haearn y buont yn yfed ohoni.

Mae sawl dathliad ac aduniad wedi cael ei gynnal yno dros y blynyddoedd canlynol, ac mae'n cael ei ystyried yn 'gartref dringo ym Mhrydain'.

Ffynhonnell y llun, Pictorial Parade
Disgrifiad o’r llun,

Cludwyr oedd yn cario'r holl offer a chyflenwadau angenrheidiol ar gyfer yr ymgyrch

Tra'n aros yn Eryri bu'r tîm yn profi'r cyfarpar dringo - yr esgidau a'r cyflenwad ocsigen.

Ffisiolegydd y tîm a oedd yn helpu gyda'r paratoadau oedd Griffith Pugh, mab i Gymro. Mae ei gyfraniad i'r ymgyrch yn cael ei ystyried fel un o'r prif resymau pam i'r criw lwyddo, o'r diwedd, i goncro'r cawr.

Roedd wedi edrych ar ymdrechion aflwyddiannus y gorffennol - roedd 11 ymdrech wedi bod - ac asesu faint o ocsigen yr oedd ei angen ar y dringwyr. Aeth y criw â 190,000 litr o ocsigen gyda nhw, a oedd bedair gwaith yn fwy nag unrhyw ymgyrch blaenorol.

Yn ogystal â hyn, darparodd offer iddyn nhw allu toddi digon o eira i gadw lefelau dŵr eu cyrff yn uchel. Yn wir, maen debyg fod Edmund Hillary wedi ei hydradu mor dda, fel ei fod wedi gorfod pasio dŵr ar gopa Everest pan gyrhaeddodd!

Disgrifiad o’r llun,

Y tîm a chriw ffilmio'r BBC yn dringo yn Eryri yn ystod eu haduniad cyntaf yn 1963

Cysylltiadau Cymreig eraill ag Everest

  • Cafodd y mynydd ei enwi, yn groes i'w ddymuniad, ar ôl y tirfesurydd y Cyrnol Syr George Everest o Grug Hywel ym Mhowys.

  • Roedd Charles Bruce o Aberpennar ymhlith y dringwyr cyntaf i drafod y posibilrwydd o ddringo'r mynydd ac ef oedd arweinydd cais George Mallory a Andrew Irvine yn 1922.

  • Roedd Mallory ac Irvine hefyd wedi hyfforddi ym mynyddoedd Cymru cyn eu hymgais, ac fe enwodd Mallory ran o Everest yn Western Cwm, fel teyrnged i gymoedd Eryri. Yn anffodus, ddaeth yr un o'r ddau ddringwr yn ôl o'u hymgais.

Cyhoeddi'r newyddion i'r byd

Yr unig newyddiadurwr ar y daith oedd gohebydd papur newydd The Times, Jan Morris, a oedd yn cael ei hadnabod bryd hynny fel James Morris.

Hi oedd yn gyfrifol am gyhoeddi i'r byd fod y criw wedi llwyddo i gyrraedd y copa am y tro cyntaf erioed, a hynny mewn erthygl a gyhoeddwyd ar 2 Mehefin.

Disgrifiad o’r llun,

Yn 2016, cafodd Jan Morris ei chyfweld gan awdur teithio arall, Michael Palin, am ei gyrfa a'i phrofiadau amrywiol ar hyd a lled - ac i ben - y byd!

Bu'n rhaid iddi ruthro i lawr ochr y mynydd gyda'r newyddion da mewn golau gwael - taith o 22,000 o droedfeddi.

Mae Jan Morris wedi disgrifio sut y llwyddodd hi i sicrhau bod yr erthygl yn cyrraedd Prydain cyn gynted â phosib, a hynny cyn i neb arall ddysgu'r newyddion.

"Doeddech chi ddim yn cael defnyddio radio felly roedd rhaid i mi drefnu bod rhedwyr yn cludo fy ngwaith yn ôl i Kathmandu.

"Roedd yn rhaid i mi gyrraedd y gwaelod y noson honno er mwyn gyrru'r peth i ffwrdd. Ond roedd pethau'n annifyr iawn, roedd y rhew yn dechrau toddi ac roeddwn i'n anobeithiol, yn disgyn pob dau funud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Jan lyfr lloffion o luniau ac erthyglau papur newydd o'i chyfnod ar y daith i gopa Everest

Roedd wedi trefnu i roi gwybod i'r awdurdodau ym Mhrydain a oedd y trip wedi llwyddo drwy gyfrwng cod arbennig. Y neges a gafodd ei anfon oedd:

"Snow conditions bad. Advance base abandoned yesterday. Awaiting improvement. All well!"

Beth roedd hynny'n ei olygu oedd bod "Edmund Hillary a Tenzing wedi cyrraedd copa Everest ac ein bod ni i gyd yn iawn". Petai'r ymgais yn aflwyddiannus, byddai'r neges wedi sôn am 'wynt trafferus' yn hytrach nag 'eira gwael'.

Wrth gwrs, achosodd y cyhoeddiad pwysig gryn gynnwrf ym Mhrydain ac ar draws y byd, a daeth aelodau'r tîm yn fyd-enwog. Jan Morris bellach yw'r unig aelod o'r criw sydd dal yn fyw.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Y dringwyr llwyddiannus yn cael eu croesawu fel arwyr yn 1953

Cymry'n concro

Daeth Eric Jones o Dremadog yn agos iawn at goncro Everest yn 1978 pan lwyddodd Reinhold Messner a Peter Habeler i gyrraedd y copa heb ocsigen. Eric oedd trydydd aelod y tîm bryd hynny, ond bu'n rhaid iddo droi yn ôl oherwydd ei fod yn poeni ei fod yn datblygu brath rhew ar ei fysedd a'i draed.

Y Cymro cyntaf i gyrraedd y copa oedd Caradog Jones o Bontrhydfendigaid ar 23 Mai 1995 - bron i union 42 o flynyddoedd ar ôl Hillary a Tenzing. Roedd o'n 33 oed, yr un oed â Hillary pan gymrodd ei gamau hanesyddol i ben y byd.

Ffynhonnell y llun, Caradog Jones
Disgrifiad o’r llun,

Caradog Jones - y Cymro cyntaf ar ben y byd!

Ddeuddeg mlynedd yn ddiweddarach Tori James o Sir Benfro oedd y Gymraes gynta' i gyrraedd y copa, a hynny ar 24 Mai 2007.

Disgrifiad o’r llun,

Tori James yn hedfan y Ddraig Goch ar fynydd ucha'r byd

Hefyd o ddiddordeb...

Hefyd gan y BBC