Pa un yw eich hoff grys Cymru chi?
- Cyhoeddwyd
Os ydych yn hoff o chwaraeon a hanes mae 'na arddangosfa berffaith ar eich cyfer yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.
Mae'r arddangosfa Celf Crys Cymru yn edrych nôl ar 60 mlynedd o hanes crysau pêl-droed Cymru, gan gynnwys 28 crys wedi'u gwisgo gan chwaraewyr mewn gemau.
Mae yna grysau gan Len Allchurch, Terry Yorath, Ian Rush a dau o reolwyr presennol Cymru, Ryan Giggs a Jayne Ludlow, yn rhan o'r arddangosfa.
Yn cael ei arddangos am y tro cyntaf mae crys diweddaraf Cymru, gyda'r bathodyn a gafodd ei ysbrydoli gan darian Owain Glyndŵr.
Mae'r arddangosfa gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn Sain Ffagan rhwng Tachwedd 11-24, ac mae am ddim.
Dyma flas o'r crysau sydd i'w gweld.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys llawer o grysau sydd wedi eu gwisgo mewn gemau rhyngwladol, o 1958 hyd heddiw

Crys Len Allchurch a enillodd 11 o gapiau dros Gymru rhwng 1955 ac 1963

Un o'r crysau mwyaf eiconig sydd wedi ei ailgreu sawl gwaith ac sydd yn boblogaidd hyd heddiw

Crysau o'r 80au sy'n gysylltiedig a Terry Yorath, Kevin Ratcliffe, Joey Jones, Alan Curtis a Mickey Thomas

Crys un o'r gôl-geidwaid gorau yn y byd yn ei ddydd, Neville Southall

Un arall o'r crysau eiconig, crys Hummel o ddiwedd yr 80au

Crys sy'n cael ei gysylltu yn aml gyda buddugoliaeth Cymru yn erbyn pencampwyr y byd, Yr Almaen, a gôl enwog Ian Rush, yn 1991

Crys Dean Saunders yn rhan o'r arddangosfa, a dau o'i gyd-chwaraewyr ar y pryd, Mark Hughes ac Ian Rush

Rheolwr presennol garfan genedlaethol dynion Cymru, Ryan Giggs, yn chwarae yn erbyn Rwmania yn 1993

Crysau y diweddar Gary Speed, a gafodd 85 o gapiau dros Gymru rhwng 1990 ac 2004

Crys Daniel Gabbidon, a chwaraeodd ynddo yn erbyn Gwlad Pwyl ym mis Medi 2005 yn cael ei arddangos. Cafodd y crys yma ei ddylunio er teyrnged i John Charles, a fu farw yn 2004.

Crysau sy'n dynodi dechrau cyfnod Chris Coleman wrth y llyw

Crys yr ymgyrch hollbwysig pan gyrhaeddodd Cymru bencampwriaethau Euro 2016. Mae crys Gareth Bale o'r gêm yn erbyn Israel ar 6 Medi, 2015, i'w gweld fel rhan o'r arddangosfa

Y crysau a welodd y byd - Cymru yn cyrraedd rownd gyn-derfynol pencampwriaeth Euro 2016

Dim ond unwaith gafodd y crys melyn yma ei wisgo, a hynny oddi cartref yn erbyn Moldova ym mis Medi 2017

Y crysau newydd, gyda dyluniad newydd o'r bathodyn

Mae'r arddangosfa yn eich croesawu ger y brif fynedfa wrth i chi gyrraedd Amgueddfa Sain Ffagan. Pa un yw eich ffefryn?!
Hefyd o ddiddordeb: