Crysau retro pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gwisgo crysau pêl-droed retro yn rywbeth ffasiynol iawn y dyddiau yma ac mae'r digrifwr Elis James wedi bod yn ychwanegu at ei gasgliad ers blynyddoedd.
Elis yw seren 'Elis in Euroland', sef cyfres o fideos byrion sydd wedi'u comisiynu gan BBC Cymru ar gyfer Euro 2016.
Cyn teithio i Ffrainc, bu'r cefnogwr brwd yn egluro wrth Cymru Fyw pa gitiau pêl-droed yw ei ffefrynnau:
Cymru (cartref). Blwyddyn: 1984-87. Gwneuthurwyr: adidas
Y cit gorau erioed, gan unrhyw dîm. Ma' popeth yn berffaith - y ffaith bod e mor dynn (yr 80au oedd e, wedi'r cyfan), y ffaith mai cit adidas yw e, ac o'dd y tîm yn un da.
Daethon ni'n agos iawn i gyrraedd Cwpan y Byd 1986, a maeddon ni Sbaen 3-0 ar y Cae Ras yn Wrecsam, gyda Mark Hughes yn sgorio un o'r goliau gorau mewn hanes i Gymru.
Abertawe (oddi cartref). 1980-81. adidas
Dyma'r cit oedd Abertawe yn gwisgo pan aethon ni lan i'r prif gynghrair am y tro cyntaf. Er bod e bach yn rhyfedd i feddwl am yr Elyrch yn chwarae yn lliw glas Caerdydd, ma'r crys hwn yn glasur.
Fi hefyd yn hoff iawn o'r bathodyn Abertawe sydd arno - hen ffasiwn mewn ffordd hyfryd. Dwi methu cael gafael ar un o'r rhain, ma' nhw mor brin! Mae 'na lun arbennig o Alan Curtis, Robbie James ac Ian Walsh yn dathlu yn y crys yma - cewri'r clwb.
Cymru (cartref). 1990-92. Umbro
Ym mis Hydref 1990 nes i weld Cymru yn maeddu Gwlad Belg 3-1 ar y newyddion, a gofyn am y crys hwn i fy mhen-blwydd yn syth.
Dyna'r tro cyntaf i Gymru wisgo'r crys yma, a dyna'r tro cyntaf (a'r unig dro fi'n credu) i Rush, Hughes a Saunders sgori dros Gymru yn yr un gêm. Naethon ni ennill yn erbyn Yr Almaen (pencampwyr y byd ar y pryd) a Brasil yn gwisgo'r clasur yma.
Cymru (cartref). 1980-84. adidas
Cit bythgofiadwy, yn enwedig achos guron ni Lloegr 4-1 ym mis Mai 1980 yn gwisgo'r crys yma. Syml, ond adidas ar eu gorau. Cit cyfoes iawn, sy'n cymharu'n dda gyda unrhyw grys arall o'r cyfnod.
Cymru (cartef). 1987-90. Hummel
Tîm da mewn crys hyfryd, mae'n edrych yn debyg iawn i git Denmarc ar y pryd, ond roedd Hummel yn gwneud crysau i rai o dimau mawr yr 80au hwyr (ma' crys Tottenham y cyfnod yn un enwog).
Yr unig beth bydden i'n newid yw dyw e ddim mor goch â rhai o grysau eraill Cymru, ac mae un fi wedi mynd yn oren/pinc dros amser. Ond ma' fe dal yn dod nôl ag atgofion melys iawn - dyma'r crys cynta' i fi gofio, o'dd gan fy ffrind gorau yn yr ysgol gynradd un o'r rhain.
Cymru (oddi cartref). 1990-92. Umbro
Un o cits mwya' poblogaidd meysydd chwarae ysgolion cynradd gorllewin Cymru yn y 90au cynnar - fi'n credu o'dd bron pawb yn berchen ar un o'r rhain.
Wedi'i wneud yn enwog gan Saunders, Hughes, Rush, Ratcliffe a Southall, daethon ni'n agos iawn i gyrraedd rowndiau terfynol Euro '92 yn y crys yma. Yr unig broblem yw ma' llewys y crys yma yn enfawr, ond dyna beth oedd y ffasiwn ar y pryd!
Ydych chi'n cytuno gyda dewis Elis? Anfonwch eich hoff grysau pêl-droed aton ni ar ein tudalen Facebook, dolen allanol neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw, dolen allanol. Croeso i chi eu hanfon hefyd ar e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk