Lluniau: Y Sioe Aeaf

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Sioe Aeaf nôl am y 30ain mlynedd yn Llanelwedd. Er nad yw mor fawr â'r brif ŵyl ym mis Gorffennaf, mae yna dal llawer i'w weld ar y maes.

Cymerwch olwg ar rywfaint o'r golygfeydd.

Mae Poppy, sy'n ddwy oed, wedi dod yr holl ffordd o Porstmouth gyda'i theulu a'i chi, Meg, i fwynhau'r sioe.

Paul Parker yn gwneud y paratoadau olaf cyn cystadleuaeth y gwartheg Limousin.

George, saith oed, o Lanelli yn cael cyfle i eistedd ar y peirianwaith.

Archwilio'r ceffylau cyn newid pedolau.

Rhywfaint o'r cig yn cael ei arddangos.

Un o'r pebyll ceffylau ger y stablau.

Defaid sy'n cael eu cadw yma yn ystod sioe'r haf, ond tro'r teirw a'r bustych yw hi yn ystod y Sioe Aeaf.

Gof symudol... yn gweithio o gefn ei fan.

Amser bwyd yn y sied foch.

Mae digon o beiriannau i'w hedmygu a'u prynu yn y Sioe Aeaf hefyd.

Er y glaw fe ddaeth y torfeydd i Lanelwedd.

Gyda'r Neuadd Fwyd ar agor, mae rhywbeth at ddant pawb...

Aeres, Meinir a Lleucu o Flaenporth ger Aberteifi yn rhyfeddu at yr arddangosfeydd blodau gwych.

Cystadleuaeth paratoi defaid - awr a hanner cyn eu cyflwyno i'r beirniaid, felly mae angen canolbwyntio.

Hefyd o ddiddordeb: